Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Bydd cyllideb ddrafft nesaf Llywodraeth Cymru yn gweithredu ffordd wahanol o lunio’r gyllideb yng Nghymru. Nid yn unig y bydd yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, ond hefyd sut y bydd rhywfaint o’r arian hwnnw’n cael ei godi, fel y dywed Simon Thomas, gan ddefnyddio ein pwerau treth newydd—y rhai cyntaf ers 800 o flynyddoedd—a’n pwerau newydd i fenthyg. Mae’r rhain yn newidiadau sylfaenol i’r fframwaith cyllidol yng Nghymru, ac mae’n iawn fod gennym broses sy’n parhau i ddarparu craffu trwyadl ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, a’i chynlluniau cyllido bellach hefyd. Edrychwn ymlaen at roi’r broses newydd hon ar waith yn yr hydref, ac rwy’n falch fod y Pwyllgor Cyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar y cynigion hyn.
Yn wir, dechreuasom ar y llwybr hwn, fel y dywedwch, yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Buom yn ymweld â’r Alban ar yr achlysur hwnnw hefyd, ac wrth gwrs, rwy’n siŵr fod eich ymweliad diweddar wedi bod yn addysgiadol iawn. Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen, wrth i’n pwerau codi trethi a benthyca newydd ymwreiddio, bydd ein cyllideb yn esblygu. Mae’r newidiadau hyn i Reolau Sefydlog a phrotocol y gyllideb yn darparu hyblygrwydd i sicrhau bod y broses o graffu ar y gyllideb yn parhau i fod yn ystyrlon, yn gymesur ac yn drwyadl, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cyllid wrth i’r trefniadau newydd hyn gael eu sefydlu. Rydym hefyd yn croesawu gwaith y Pwyllgor Cyllid sy’n edrych ar broses cyllideb ddeddfwriaethol, fel y mae Simon Thomas wedi’i grybwyll. Rydym yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau’r gwaith hwnnw maes o law o’r ymchwiliad sydd ar y gweill gennych. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi’r cynigion. Diolch.