Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 21 Mehefin 2017.
Cyfarfûm â ffoadur o Irac yr wythnos diwethaf a oedd wedi colli pob aelod o’i deulu yn sgil y gwrthdaro yn Irac. Roedd cael gwared ar Saddam Hussein yn ymddangos yn syniad da i lawer ar y pryd, yn 2003, ond ni wrandawyd ar y geiriau o rybudd—y byddai’n arwain at danio gwrthdaro sectyddol nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon, yn gwbl deg, fawr iawn o ddealltwriaeth ynglŷn â’i gymhlethdod. Y rhyfel cartref sydd wedi ffrwydro—yr ymladd sectyddol—ni allai’r ffoadur hwn fod wedi talu pris uwch. A oedd gennym ddyletswydd i gynnig lloches i’r unigolyn hwn ac eraill tebyg iddo? Wrth gwrs bod.
Pan fydd ceiswyr lloches yn cael eu dosbarthu gyntaf i Gymru, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd Lynx House ar Heol Casnewydd yn fy etholaeth. Ar ôl tair neu bedair wythnos mewn llety hostel, cânt eu rhoi wedyn mewn llety dros dro—gallai hynny fod yng Nghaerdydd, gall fod yng Nghasnewydd, gall fod yn Abertawe neu ymhellach efallai. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn amddifad, ac wedi cyrraedd heb fawr mwy na’r dillad sydd amdanynt. Mae ein hymchwiliad yn amlygu’r ffaith mai plant yw rhwng 13 a 20 y cant o’r boblogaeth amddifad leol.
Mae’n ffaith drist fod budd-daliadau ceiswyr lloches yn rhy isel i ddiwallu anghenion sylfaenol y gymuned hon mewn gwirionedd ac un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd yn syml iawn yw nad oes ganddynt arian i dalu am daith fws i gyrraedd gwasanaethau. Felly, mae’n rhaid iddynt gerdded neu fynd ar feic. Felly, mae’n arbennig o bwysig fod gwasanaethau ar gael yn agos at Lynx House, oherwydd yn amlwg, dyna ble y ceir crynodiad o geiswyr lloches.
Roeddwn eisiau talu teyrnged i aelodau o’r gymuned sydd wedi ymateb i’r her ac sy’n darparu gwasanaethau, yn bennaf ar sail wirfoddol, gan nodi’r ffaith fod Caerdydd yn ddinas noddfa ar gyfer y rhai sy’n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth a bod hynny’n golygu rhwydwaith o bobl sy’n barod i hyrwyddo partneriaethau gwirfoddol yn bennaf i gefnogi pobl sy’n chwilio am loches yma.
Er enghraifft, mae canolfan ffoaduriaid Oasis, yr ymwelodd y pwyllgor â hi, wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistiaid yn Sblot. Sefydlwyd Oasis Caerdydd yn 2008, ac mae wedi helpu cannoedd o bobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth wleidyddol o ystod eang o wledydd a lethwyd gan ryfel a gwrthdaro—ac mae ein Llywodraeth wedi helpu llawer ohonynt, neu wedi methu osgoi gwneud hynny. Mae’n meddu ar naw aelod o staff rhan-amser a dwsinau, yn llythrennol, o wirfoddolwyr, gan fod o leiaf 150 o bobl yn cerdded drwy’r drws bob dydd. Pan oeddem yno, roedd o leiaf 35 o bobl mewn ystafell i fyny’r grisiau i gyd yn cael gwers Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill gan un gwirfoddolwr—roedd yn olygfa anhygoel.
Yn fy etholaeth, nad yw mor bell â hynny o Oasis, ceir Canolfan y Drindod, sydd wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistaidd arall. Dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi darparu cartref i o leiaf dri sefydliad gwirfoddol. Mae Space4U yn gweithredu system galw heibio sy’n cynnig gwybodaeth, gwersi Saesneg, banc bwyd a dillad, sesiynau crefft, yn ogystal â bwyd a diod a chyfeillgarwch. Mae yna grŵp rhieni a phlant bach sy’n gysylltiedig â Space4U yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos, ac mae’n agored, nid yn unig i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ond i aelodau o’r gymuned leol yn ogystal, ac felly mae’n gyfle gwych i bobl ryngweithio ac i ymarfer yr ychydig Saesneg a allai fod ganddynt. Hefyd, mae yna rywbeth o’r enw Home4U, sy’n gweithio’n agos gyda Space4U, i gynnig llety dros dro mewn adeiladau gwag a roddwyd ar fenthyg i’r prosiect.
Mae un o fy etholwyr yn chwarae rôl strategol yn goruchwylio’r gwasanaethau hyn, heb ei rwystro gan y ffaith ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson, a chefais yr anrhydedd o’i enwebu ef a’i wraig i fynychu garddwest y Frenhines i gydnabod ei gyfraniad i’r gymuned, er gwaethaf ei anabledd.
Yn wyneb yr ymosodiad terfysgol erchyll yr honnir iddo gael ei gyflawni gan un arall o fy etholwyr yr wythnos hon, roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cofnodi bod y rhan fwyaf o fy etholwyr yng Nghanol Caerdydd yn fwy na pharod i estyn llaw cyfeillgarwch. Diolch i chi am wrando ar fy nghyfraniad.