Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl bwysig hon. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond fe hoffwn longyfarch y pwyllgor a’r Cadeirydd am y gwaith helaeth a wnaed ar yr adroddiad hwn ac rwy’n credu ei bod yn dda iawn ein bod yn gallu ei drafod yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn llawer o argymhellion y pwyllgor. Ac er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r polisi lloches yn gyffredinol wrth gwrs, fel y mae’r adroddiad yn dweud yn glir, rwy’n cytuno ei bod yn hollbwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas yma yng Nghymru i wneud bywydau pobl a’u teuluoedd yn well pan fyddant yn cyrraedd fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig pan fydd y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio yn gyfrifoldeb i ni. Felly, credaf fod gennym rôl glir yn y broses hon gan ein bod yn gwybod bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn wynebu llu o broblemau pan fyddant yn cyrraedd y wlad hon—tai gwael, problemau gydag iaith a hefyd, rwy’n meddwl, ein diffyg dealltwriaeth ni yn aml, gan y cyhoedd, o’r amgylchiadau a adawsant ar eu holau, gan fy mod yn meddwl bod yna ddiffyg dealltwriaeth gyffredinol o rai o’r amgylchiadau erchyll y mae ceiswyr lloches wedi’u gadael.
Mae eisoes wedi cael ei grybwyll heddiw: y gwaith da sy’n cael ei wneud yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rwy’n falch iawn fod gan Gaerdydd 52 o sefydliadau sy’n ymroddedig i weithio gyda’i gilydd mewn grŵp rhwydweithio Dinas Noddfa. Gwn fod yna grwpiau eraill yn Abertawe, y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, a chroesawaf yr argymhelliad yn y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu saith cam i ddod yn genedl noddfa.
Ond mae rhai o’r materion sy’n effeithio’n fwyaf dwfn ar geiswyr lloches yn arbennig yn faterion sy’n rhan o benderfyniadau Llywodraeth y DU, ond maent yn effeithio arnynt yn fawr iawn yma. Un o’r problemau mwyaf a dynnwyd i fy sylw gan geiswyr lloches dros y blynyddoedd, mewn gwirionedd, yw’r ffaith nad ydynt yn gallu gweithio, ac rwy’n meddwl mai dyna un o’r problemau mawr sydd wedi achosi anawsterau mawr o ran eu gallu i integreiddio’n hawdd, gan fod gan lawer ohonynt, yn amlwg, y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu taer angen arnom.
Tuag at ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf euthum i ddigwyddiad yn y Pierhead, a oedd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng y BBC World Service a Radio Wales, a daeth pobl i’r Pierhead a oedd wedi dod i’r wlad hon fel ceiswyr lloches ac roeddent yn ysu am gael gweithio. Ac nid am resymau ariannol yn unig, ond oherwydd eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r wlad a oedd wedi rhoi lloches iddynt. Roedd gan lawer o’r ceiswyr lloches rwyf wedi eu cyfarfod dros y blynyddoedd sgiliau y mae eu gwir angen arnom. Rwyf wedi cyfarfod â meddygon, athrawon, pobl a allai ein helpu’n fawr fel gwlad, ond fel y mae pethau, ni chânt wneud cais am ganiatâd i gael gwaith ar restr galwedigaethau prin swyddogol y DU oni bai eu bod wedi aros am fwy na 12 mis i’w cais gael ei benderfynu, a lle na ystyrir eu bod wedi achosi’r oedi eu hunain. Felly, rwy’n gwybod mai penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn, ond rwy’n teimlo y dylem wyntyllu hyn yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan ei fod yn effeithio i’r fath raddau ar bobl sydd yma’n byw yn ein gwlad, felly roeddwn am dynnu sylw at hynny.
Cafwyd cryn drafodaeth eisoes ynglŷn â thai, ac rwy’n falch iawn ynglŷn â’r cynnydd a wnaed a’r gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i symud ymlaen. Ond un o argymhellion yr adroddiad yw y dylid gwneud asesiad uniongyrchol o Ddeddf Mewnfudo y DU 2016 a’r effaith y mae honno’n mynd i’w chael yng Nghymru. Gwn fod hyn wedi cael ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet sawl gwaith gan y pwyllgor, ac roeddwn eisiau gofyn a oes unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â phryd y cyflwynir y profion hawl i rentu. A fyddant yn cael eu cyflwyno yng Nghymru? Sut y bydd yn effeithio ar deuluoedd? A fydd yn effeithio ar deuluoedd â phlant ac a yw hyn yn debygol o arwain at fwy o risg o amddifadedd? Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, wedi ceisio cael eglurhad gan y Swyddfa Gartref, felly roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gallai ei ddweud wrthym heddiw mewn ymateb i hynny.
Yn olaf, rwyf am orffen drwy sôn am blant. Rwy’n credu ei bod yn bendant yn destun cywilydd nad ydym fel cenedl ond yn caniatáu nifer cyfyngedig iawn o blant sy’n ceisio lloches a phlant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain i mewn, er gwaethaf holl ymdrechion yr Arglwydd Dubs i gael y gwelliant hwnnw wedi’i basio yn Nhŷ’r Arglwyddi. Deallwn o’r adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun yn dawel bach gyda dim ond 350 wedi’u dwyn i Brydain. Felly, rwy’n credu bod hyn yn warth llwyr, yn gywilydd llwyr, oherwydd, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud yn y ddadl hon, plant yw plant yw plant. Ni waeth beth sydd wedi digwydd iddynt, o ble bynnag y daethant, mae angen iddynt gael eu croesawu yma yng Nghymru, ac rwy’n credu ei bod yn drueni mawr fod Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar eu nifer yn y modd hwn.