Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae hon yn ddadl amserol, yn dod fel y mae ar y diwrnod y cawsom Araith y Frenhines a oedd yn drwm o Brexit, ac yn ystod yr wythnos pan ddechreuodd trafodaethau ffurfiol rhwng y DU a’r UE. Dyma’r wythnos hefyd pan fo Llywodraeth Cymru wedi ymhelaethu ymhellach ar y cynigion a gyhoeddwyd gyntaf yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, y Papur Gwyn ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gynnal datganoli a chreu strwythurau llywodraethu ar y cyd rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU wedi inni adael yr UE.
Cyn mynd ymhellach, DIrprwy Lywydd, hoffwn fachu ar y cyfle ar ran Plaid Cymru i egluro’r sefyllfa yn dilyn sylwadau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd fy mhlaid ddoe ar fater aelodaeth o’r farchnad sengl. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog, ac rwy’n dyfynnu:
‘mae ei phlaid eisoes wedi cytuno na allwch chi fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r UE. Dyna’r hyn a gytunwyd gennym ni, os yw hi’n cofio hynny.’
Yn y modd cryfaf posibl, rwyf am gofnodi nad yw hynny’n wir, nid yw erioed wedi bod yn wir, ac na fydd byth yn wir chwaith. Safbwynt Plaid Cymru, ers y diwrnod ar ôl y refferendwm y llynedd, yw y dylai’r DU barhau’n aelod o’r farchnad sengl yn dilyn ein hymadawiad â’r UE. Ar 21 Medi y llynedd, cyflwynwyd cynnig gennym yn y Cynulliad hwn yn galw am ganlyniad o’r fath, cynnig a gafodd ei drechu, yn anffodus, gan wneud y Senedd hon y gyntaf yn yr ynysoedd hyn i gefnogi’r hyn a elwir yn Brexit caled.
Safbwynt Llywodraeth Cymru oedd nad oedd aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli y tu allan i’r UE. Nid yw hwnnw’n safbwynt a rennir gan Blaid Cymru. Fodd bynnag, cymerodd y ddwy blaid ran adeiladol mewn proses a arweiniodd at gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd, yn cydnabod y gallai ‘mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl’, yr ymadrodd a ffafriai Llywodraeth Cymru, ac ‘aelodaeth o’r farchnad sengl’, yr ymadrodd llaw-fer cyffredin a ddefnyddir gan bron bawb arall, fod yr un fath â’i gilydd mewn gwirionedd.
Dyna pam, drwy gydol y Papur Gwyn ar y cyd, y mabwysiadwyd yr ymadrodd newydd, ‘cymryd rhan yn y farchnad sengl’, i ddarparu ar gyfer y ddau safbwynt hwnnw. Roedd yn darparu sylfaen ar gyfer parch a chydweithio er budd cenedlaethol. Llywydd, mae’n fater o onestrwydd i mi na ddylai fy safbwynt a safbwynt fy mhlaid gael eu camfynegi, ac mae’n destun gofid mawr fod hynny wedi digwydd ddoe.
Mae’n bwysig am mai mater aelodaeth o’r farchnad sengl yw’r mater sy’n diffinio ein cyfnod bellach. Mae Llywodraeth leiafrifol Dorïaidd yn San Steffan, a’i thrwyn yn gwaedu ar ôl etholiad cyffredinol y DU yn ddiweddar, wedi rhoi cyfle i bob un ohonom sy’n ceisio osgoi Brexit caled sicrhau perthynas gyda’r UE yn y dyfodol sy’n cynnal ein budd economaidd ac yn sicrhau parhad yn y bartneriaeth wleidyddol gyda’n cyfeillion a’n cynghreiriaid ar y cyfandir—cyfle a oedd yn ymddangos yn bell ychydig wythnosau’n ôl. Yn wir, rwy’n croesawu’n fawr iawn y darn a gyhoeddwyd ddoe yn ‘The Guardian’ gan fwy na 50 o wleidyddion, yn galw am barhau ein haelodaeth o’r farchnad sengl. Roedd llawer o Gymru ymhlith ei awduron, yn cynnwys Madeleine Moon, Stephen Doughty, yr Arglwydd Hain, Ann Clwyd a Chris Bryant.
Mae ein cynnig heddiw yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad hwn i’r Papur Gwyn yng Nghymru, y cyhoeddiad mwyaf cynhwysfawr a gyhoeddwyd hyd yma yn y DU yn fy marn i ar y berthynas gyda’r UE yn y dyfodol, a’r fframwaith ar gyfer diogelu cyfansoddiad Cymru. Rydym yn nodi gyda gofid mawr fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn amharod ar hyn o bryd i ymgysylltu’n briodol â’r Llywodraethau a’r Seneddau datganoledig ar Brexit sy’n gweithio i bawb. Yn wir, mae’n adlewyrchiad o natur anghytbwys yr undeb gorganolog ac anghyfartal hwn fod y trafodaethau pwysicaf a gafwyd erioed mewn cyfnod o heddwch wedi cychwyn heb fod unrhyw gynnig wedi’i wneud hyd yn oed ar drafodaethau llawn a phriodol rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn, heb sôn am fod wedi’u cwblhau.
Credaf y bydd ymagwedd aros i weld Llywodraeth y DU yn cael ei hamlygu’n fuan iawn fel un sy’n anghynaladwy, yn annheg ac yn anfoddhaol i bobl Cymru. Ni allant fforddio aros i weld pan fo tynged eu swyddi a’u cymunedau yn y fantol.