<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei fod wedi ateb ei gwestiwn ei hun trwy ddweud, 'yn amodol ar gyllid', a dyna'r broblem yma. Roeddem ni eisiau cynnig pob cyfle i’r gylchffordd fodloni’r amodau yr oeddem ni wedi eu nodi. Nid oedden nhw’n gallu bodloni’r amodau hynny, ac felly, o ganlyniad i hynny, nid oedd y sefyllfa ariannol yn iawn i ni allu cefnogi'r cynllun hwn ar gyfer y gylchffordd. Yr hyn y gallwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw darparu'r mwyafrif llethol o'r swyddi trwy ddarparu’r parc technoleg. Rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr. Rydym ni wedi siarad â’r rheini yn y diwydiant. Mae ganddyn nhw ddiddordeb. Maen nhw eisiau gweithio gyda ni ar y parc technoleg. Felly, oes, mae swyddi a fydd yn dod i bedwar ffigur y gellir eu darparu wrth i’r parc technoleg hwnnw gael ei ddatblygu. Nid yw'n ddibynnol ar gael trac rasio ffisegol yno.