1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y bore yma, gwnaeth y Cabinet y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r pecyn cyllid ar gyfer Cylchffordd Cymru—ac rwy’n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ddoe, rhoddodd y gwas sifil uchaf yn yr adran dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pryd y dywedodd bod gan y prosiect hwn effaith fawr iawn yn y statws a neilltuwyd iddo yn yr adran, a dywedodd hefyd ei fod yn cynnig gwerth am arian—a’i eiriau ef yw’r rhain yr wyf yn eu dyfynnu i chi—ac roedd yn brosiect a oedd yn barod, yn amodol ar gyllid, i gael ei ddarparu.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ei ddatganiad y bore yma, yn dweud, mewn gwirionedd, bod yr honiadau ynghylch y prosiect wedi eu gorbwysleisio’n sylweddol, ac yn hanesyddol meddai, prin oedd y dystiolaeth, ar raddfa ryngwladol, bod unrhyw drac ar ei ben ei hun yn gweithredu fel catalydd ar gyfer cyflogaeth leol ychwanegol. Mae’r ddau ddatganiad hynny—gan yr uwch was sifil, a chan Ysgrifennydd y Cabinet—yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr o ran y safbwyntiau y maen nhw’n ceisio eu cyfleu. Pwy sy'n iawn a phwy sy’n anghywir o ran y prosiect hwn?
Na, dydyn nhw ddim, oherwydd bod cam 2 y prosiect yn cyflwyno parc technoleg. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ef fel Llywodraeth. Dyna'r prosiect a fydd yn darparu’r mwyafrif llethol o'r swyddi. Yn anffodus, ni allai’r amodau i ni eu cyflwyno, cyn belled ag yr oedd y gylchffordd ei hun yn y cwestiwn, gael eu bodloni gan y cwmni dan sylw. Roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i geisio bodloni’r amodau hynny, ond, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny.
Mae gen i ofn nad dyna oedd y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma yn ei awgrymu. Fel y dywedais, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, mae'n dweud mai prin yw’r dystiolaeth o brosiect fel hwn yn cyflawni, ar y niferoedd y soniwyd amdanynt. A dweud y gwir, mae’n sôn am ddarparu dim ond 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn gwirionedd, ar y gylchffordd—rwy’n derbyn hynny, a cheir parc wrth ei hochr. Ond, mewn gwirionedd, dywedodd yr ysgrifennydd parhaol, yn yr adran honno, ddoe, ei fod yn brosiect a oedd yn barod i gael ei gyflwyno, roedd ganddo ffydd ac, unwaith eto, gan ailadrodd ei eiriau, roedd yn brosiect ag iddo effaith fawr iawn. Felly, yn amlwg, roedd ganddo ffydd yn y prosiect.
Tynnodd eich Llywodraeth, ar yr unfed awr ar ddeg, ei chefnogaeth i'r prosiect hwn yn ôl. Rydych chi wedi ceisio lleihau’r ergyd, trwy ddweud eich bod chi’n mynd i adfywio'r ardal fenter yng Nglynebwy, sydd wedi darparu ychydig iawn o fuddsoddiad i'r ardal, hyd yn hyn. Rwy'n mynd yn ôl at y pwynt: sut ellir cael dau ddatganiad eang, un gan Ysgrifennydd y Cabinet, un gan y gwas sifil uchaf, sydd mor groes i’w gilydd o ran eu safbwynt ar y prosiect hwn? Rwy'n credu bod y cyhoedd yn haeddu gwell dealltwriaeth o pam mae wedi cymryd pum mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn.
Rwy'n credu ei fod wedi ateb ei gwestiwn ei hun trwy ddweud, 'yn amodol ar gyllid', a dyna'r broblem yma. Roeddem ni eisiau cynnig pob cyfle i’r gylchffordd fodloni’r amodau yr oeddem ni wedi eu nodi. Nid oedden nhw’n gallu bodloni’r amodau hynny, ac felly, o ganlyniad i hynny, nid oedd y sefyllfa ariannol yn iawn i ni allu cefnogi'r cynllun hwn ar gyfer y gylchffordd. Yr hyn y gallwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw darparu'r mwyafrif llethol o'r swyddi trwy ddarparu’r parc technoleg. Rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr. Rydym ni wedi siarad â’r rheini yn y diwydiant. Mae ganddyn nhw ddiddordeb. Maen nhw eisiau gweithio gyda ni ar y parc technoleg. Felly, oes, mae swyddi a fydd yn dod i bedwar ffigur y gellir eu darparu wrth i’r parc technoleg hwnnw gael ei ddatblygu. Nid yw'n ddibynnol ar gael trac rasio ffisegol yno.
Wel, ni fyddwch chi’n darparu’r mwyafrif llethol o swyddi, fel y cynigir yn y cysyniad gwreiddiol, gan fod 6,000 o swyddi arfaethedig yn gysylltiedig â’r prosiect hwn—
Yn y parc.
[Yn parhau.]—ac mae'r parc yr ydych chi’n sôn am ei ddarparu â photensial o 1,500 o swyddi gyda rhaglen gyflawni 10 mlynedd ar gyfer y parc hwnnw. Felly, ceir anghysondeb. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yma, Prif Weinidog, yw bod gennych chi’r ysgrifennydd parhaol yn yr adran honno sydd yn gwbl groes i’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddehongliad. Mae'r dystiolaeth yno, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, am y prosiect hwn—ac, unwaith eto, rwy’n ailadrodd, prosiect ag effaith fawr iawn. Felly mae hynny’n gyllid, mae hynny’n swyddi, mae hynny’n adfywio. Fel arall, pam fyddai ef wedi defnyddio iaith o'r fath? A oes gennych chi ffydd yng ngallu James Price i barhau yn ei swydd neu a ydych chi’n cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet? [Torri ar draws.]
Mae'n llwfrdra, a bod yn blaen—llwfrdra—i unrhyw Aelod yn y Siambr hon enwi gwas sifil fel yna pan na all ymateb. Mae'n llwfrdra. Gofynnaf i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei dynnu yn ôl. [Torri ar draws.]
Hoffwn ymateb i hynna, oherwydd pan fyddwch chi’n cyhuddo rhywun o lwfrdra—
Na, na, rwy'n credu ei fod—
Nid yw’n dderbyniol galw rhywun yn llwfrgi.
[Yn parhau.]—yn ôl pob tebyg yn amhriodol i chi fod yn enwi gwas sifil yn y lle hwn pan nad yw’r gwas sifil yn gallu bod yma i ateb drosto'i hun. [Torri ar draws.] Felly, rwy’n mynd i symud ymlaen nawr a galw ar arweinydd UKIP, Neil Hamilton.
Nid ydym ni’n mynd i symud ymlaen yn bell iawn, Llywydd, mae gen i ofn, gan fy mod i’n mynd i barhau â'r un math o gwestiynu ag a oedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Onid yw'n gwbl eglur nawr pam mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei ohirio tan ar ôl yr etholiad cyffredinol? A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud heddiw mewn gwirionedd yw lladd gobeithion pobl Blaenau Gwent ac ardal llawer ehangach. Nid oes unrhyw beth yr oedd y Llywodraeth yn gallu ei drafod y bore yma na ellid bod wedi ei drafod wythnosau yn ôl. Nid oes dim byd newydd o gwbl yn y penderfyniad hwn. Cyfyngiad ymrwymiadau Llywodraeth Cymru fyddai uchafswm o £8 miliwn y flwyddyn am 33 mlynedd—mae hynny ar ôl adeiladu’r holl adeiladau ar y safle. Nid yw fel pe byddai’r holl beth yn gorfod cael ei dalu ar y cychwyn ac y byddai'n rhaid dod o hyd i'r arian yfory neu yn ystod y tair blynedd nesaf. Felly, yr hyn y mae hyn yn ei ddangos yw diffyg gweledigaeth sobr ar ran Llywodraeth Cymru i ladd y cynllun menter breifat enfawr hwn, a oedd yn cynnig gobaith nid yn unig i un dref yng Nghymru, ond i’r de-ddwyrain gyfan mewn gwirionedd.
Mae'n anodd derbyn pregeth gan rywun a oedd yn rhan o'r weinyddiaeth Geidwadol a wnaeth gau, mewn gwirionedd, y pwll glo olaf un, er enghraifft—y Marnie/Six Bells ym Mlaenau Gwent—ac a oedd yn fwy na pharod i wneud hynny. Hynny yw, o ddifrif, ni allaf gymryd yr hyn y mae’n ei ddweud yn hynny o beth o ddifrif. Y rheswm pam na allai'r penderfyniad gael ei wneud ar yr adeg y mae'n sôn amdani yw oherwydd nad oedd y broses diwydrwydd dyladwy wedi dod i ben. Neu a yw’n awgrymu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud cyn bod yr holl wybodaeth yn barod? Mae hynny'n fyrbwyll, a dweud y lleiaf. Nid yw’n deall beth sydd y tu ôl i’r prosiect hwn. Yn y parc technoleg oedd y swyddi, nid yn y gylchffordd. Roedd y gylchffordd yn darparu tua 137 o swyddi llawn amser yn unig. Dyna’r cwbl. Roedd y gweddill—y miloedd o swyddi—bob amser yn mynd i fod yn y parc technoleg a thu hwnt, a dyna'n union yr ydym ni’n mynd i fuddsoddi ynddo fel Llywodraeth.
Mae hefyd yn anghywir i ddweud mai dim ond £8 miliwn dros y 33 mlynedd nesaf yw hyn. Rydym ni’n gwybod, ar ôl archwilio hyn gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a fyddai'n cyfeirio'r hyn at Eurostat, bod risg uchel iawn y byddai’r warant hon yn cael ei hystyried fel bod ar y fantolen. Mae hynny'n golygu y byddem ni’n colli £373 miliwn o gyllid cyfalaf, ac y byddai’n rhaid dod o hyd i £157 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Hynny yw, ysgolion ddim yn cael eu hadeiladu, ysbytai ddim yn cael eu moderneiddio, tai ddim yn cael eu hadeiladu. Nawr, does bosib nad oes rhaid iddo dderbyn na ellir anwybyddu’r risg uchel honno.
Wel, yr hyn yr ydym ni’n sôn amdano yma yw confensiwn cyfrifwyr ffa. [Torri ar draws.] Nid yw’n ddim byd newydd. Roeddem ni’n gwybod cyn i'r penderfyniad gael ei wneud, misoedd ar fisoedd yn ôl, beth oedd rheolau’r SYG a rheolau'r Trysorlys ar sut i drin gwariant hirdymor o'r math hwn. Felly, mae hyn yn rhywbeth a allai fod wedi cael ei benderfynu amser maith yn ôl. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r prosiect hwn hercian yn ei flaen am chwe blynedd pan allai hynny fod wedi cael ei gydnabod o'r cychwyn cyntaf? Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yma, does bosib, yw newid y confensiwn cyfrifyddu yn hytrach na dim ond dinistrio gobeithion y rheini a oedd yn dibynnu ar adfywio de-ddwyrain Cymru gyfan. Oherwydd os yw'n wir mai dim ond rheolau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn Llundain sydd wedi lladd y prosiect hwn, yna mae hynny'n warth llwyr.
Ni allwn newid y rheolau. Mae'r rheolau’n cael eu pennu gan y SYG. Maen nhw’n annibynnol ar y Llywodraeth, ac maen nhw’n pennu’r rheolau ar y cyd ag Eurostat. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r hyn y gallai’r risg honno ei olygu.
Mae'n ei alw’n gonfensiwn cyfrifwyr ffa. Mae'r risg yn llawer mwy na hynny. Os bydd gennym ni £373 miliwn ar ein llyfrau yn y pen draw, mae hynny’n golygu ei fod yn arian cyfalaf na allwn ei wario. Does bosib nad yw’n deall—mae e wedi bod mewn Llywodraeth, felly does bosib nad yw’n deall hyn—bydd yn gwybod bod honno'n risg y mae'n rhaid i unrhyw Lywodraeth ei chymryd o ddifrif. Mae'n gofyn y cwestiwn ynghylch pam na nodwyd hyn o'r blaen. Roedd hyn yn rhan o'r amodau. Roedd yr amodau yn nodi 50:50. Nid yw'r amodau wedi eu bodloni. Dyna pam mae’n broblem.
Mae'r holl arian sy’n mynd i gael ei ddarparu ymlaen llaw i adeiladu Cylchffordd Cymru yn arian sector preifat. Y cwbl y gofynnir i Lywodraeth Cymru ei wneud yw gwarantu taliadau a fydd yn cael eu gwneud i'r deiliaid bondiau uwch am lai na hanner y cyfalaf a ddefnyddir, mewn cyfnod sy’n dechrau dim ond pan fydd y safle cyfan wedi cael ei ddatblygu. Felly, bydd asedau ffisegol wedyn, y byddai rhwymedigaeth wrth gefn y Llywodraeth wedi ei gwarantu yn eu herbyn. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw cynnig gan y Llywodraeth i wario £100 miliwn dros 10 mlynedd—llawer iawn o arian—ar gyfres o siediau gwag.
Rydym ni eisoes wedi asesu'r galw ac wedi siarad â busnesau. Rydym ni’n gwybod bod galw am safleoedd ym Mlaenau'r Cymoedd, a gwyddom fod busnesau na allant symud yno gan nad yw’r adeiladau yno. Felly, mae'n hynod bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n darparu’r adeiladau hynny yn rhan o'r parc technoleg sy'n rhan o'r gylchffordd ei hun. Yr unig beth, mewn sawl ffordd, sydd ar goll yw’r trac rasio ei hun. Mae'r swyddi—y mwyafrif llethol o'r swyddi—yn dal i fod yno.
Nid yw'n bod yn onest gydag ef ei hun pan fo’n dweud bod hyn yn ymwneud â gwarant yn unig. Mae'n gwybod yn iawn, os bydd £373 miliwn yn cael ei ail-broffilio fel eu bod yn ymddangos ar ein llyfrau, ein bod ni’n colli'r arian. Mae yr un fath â thoriad. Mae'n golygu y byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i £157 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Y broblem sydd gennym ni yw ein bod ni wedi mynd ar drywydd hyn gyda’r SYG a chyda Eurostat—gyda’r SYG—a’u hateb nhw yw, 'Ni allwn roi dyfarniad terfynol i chi tan y byddwn ni wedi gweld y contractau terfynol.' Mae'n rhy hwyr erbyn hynny. Dyna'r broblem. Felly, y risg wirioneddol yn y fan yma yw na fyddwn ni’n symud ymlaen yn y pen draw â phrosiectau yn ystod y flwyddyn a addawyd i bobl eisoes oherwydd, ie, dyfais gyfrifyddu, ond un serch hynny y mae’r SYG wedi ei nodi, ac un y mae risg uchel yn gysylltiedig ag ef.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch. Rwy'n credu bod gennych chi rai cwestiynau pellach i’w hateb am hyn, ond rwy’n deall bod cwestiwn brys yn dod yn ddiweddarach, felly hoffwn eich holi am agwedd arall ar yr economi, ac mae hynny’n ymwneud ag addysg a sgiliau. Mynegwyd llawer o bryderon i mi gan athrawon am eu llwyth gwaith, ac, yn gysylltiedig â hynny, cyfraddau salwch cynyddol. Mae llawer o bobl yn ystyried gadael y proffesiwn nawr. Dywedwyd fod lefelau hyfforddiant athrawon cychwynnol yn ymylu ar argyfwng. A ydych chi’n cytuno?
Nac ydw. Rwy'n meddwl bod cyfleoedd gwych i ni, pan fydd tâl ac amodau wedi eu datganoli, i sefydlu pecyn cyfannol i athrawon i wneud yn siŵr bod y cyfrifoldebau sydd ganddynt yn cael eu hadlewyrchu o ran y cyflog y maen nhw’n ei gael. Mae wedi bod yn anghysondeb rhyfedd erioed bod gennym ni gyfrifoldeb am addysg, ond nid am dâl ac amodau. Mae hynny wrth wraidd darparu cytundeb da i athrawon, a dyna’r ydym ni’n bwriadu ei wneud.
Wel, efallai pe byddai gennych chi undod ar y cwestiwn o ddatganoli tâl ac amodau o fewn eich plaid eich hun cyn hyn, y byddem ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth. Ond rwy’n pryderu am eich amharodrwydd i wynebu realiti. Nid wyf yn synnu, ond rwy’n pryderu. Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i oedd y geiriau, ‘argyfwng' a ddefnyddiais. Y rhain oedd y geiriau a ddefnyddiwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Yn ôl ym mis Ebrill, rhybuddiodd Plaid Cymru bod recriwtio athrawon yn mynd i gyfeiriad storm berffaith. Rydym ni yng nghanol y storm honno erbyn hyn. Mae derbyniadau ysgol uwchradd o athrawon dan hyfforddiant wedi gostwng draean yn is na'r targed. Mae’r targed hwnnw’n seiliedig ar angen—nifer yr athrawon sydd eu hangen arnom yn ein system. Ceir bwlch o tua 280 o athrawon ysgol uwchradd erbyn hyn, ac mae derbyniadau athrawon ysgol gynradd wedi gostwng yn is na'r targed hefyd erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod gan Gyngor y Gweithlu Addysg bod traean o athrawon yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd newidiadau i hyfforddiant athrawon. Faint o amser mae’n mynd i’w gymryd i’r newidiadau hynny atal y duedd am i lawr hon?
Nid wyf yn credu y byddai'n bosibl cyflwyno’r pecyn cywir tan fod cyflogau ac amodau wedi eu datganoli. Pam? Wel, mae pobl eisiau gwybod beth yw eu telerau cyflogaeth, beth yw eu hamodau cyflogaeth, faint y byddant yn cael eu talu, a pha weithgareddau y byddant yn cael eu talu amdanynt. Mae hynny i gyd yn effeithio, yn amlwg, ar benderfyniad i ymuno â phroffesiwn ac mae hynny, yn y pen draw, yn effeithio ar niferoedd. Nawr, y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni’r cyfle a'r cyfrifoldeb o reoli tâl ac amodau athrawon. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r undebau athrawon i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflwyno pecyn sy'n gwneud addysgu yn fwy deniadol nag efallai y mae wedi bod i rai pobl yn y gorffennol, ond mae cael rheolaeth o dâl ac amodau yn gwbl hanfodol ar gyfer hynny.
Felly, rydych chi’n ei gicio i ffwrdd i’r dyfodol eto. Mae'r sefyllfa, Prif Weinidog, yn waeth nag yr ydych chi’n barod i gyfaddef. Mae cyfanswm yr athrawon dan hyfforddiant wedi gostwng ym mhob un blwyddyn ers 2011, ac mae'r ohebiaeth a’r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag athrawon yn dangos bod problem ddwys yn y fan yma. O'ch ateb, nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl bod gennych chi gynlluniau i drin y sefyllfa hon gydag unrhyw syniad o frys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw ein proffesiwn addysgu yn cael ei gefnogi. Pam na wnewch chi siarad ag athrawon a'u hundebau llafur a gofyn iddyn nhw beth y gellir ei wneud yn y tymor byr i helpu gyda'u llwyth gwaith a’u llesiant meddyliol? Rydych chi’n rhoi pethau ar waith nawr, y mae’n bosibl y byddant yn talu ar eu canfed yn y dyfodol, ond mae’r gostyngiad yna i niferoedd wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bellach. Nid yw'n broblem newydd. Mae'r argyfwng wedi cyrraedd, ac mae'r argyfwng nawr. Rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran addysg, a dywedasoch bryd hynny y byddai eich Llywodraeth yn gwella ei pherfformiad. Gan eich bod chi wedi gwneud y cyfaddefiad hwnnw o ran addysg, beth yn union ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gallwn weld bod canlyniadau TGAU y gorau y buon nhw erioed, canlyniadau Safon Uwch yn gwella, ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru gyfan, y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a’r grant amddifadedd disgyblion yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae'n sylw rhyfedd braidd gan arweinydd Plaid Cymru, yn awgrymu nad ydym ni’n siarad ag undebau athrawon. Hynny yw, roedd yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, yn glywadwy i'r rhan fwyaf yn y Siambr—yn drefnus, ond yn glywadwy. Dyna’r hyn y mae hi'n ei wneud. Mae'r cysylltiad rhyngom ni a'r undebau athrawon yn gryf, ond rydym ni i gyd yn cydnabod, er mwyn rhoi’r pecyn cywir ar waith i athrawon, bod angen i ni gael yr un darn olaf yna o’r jig-so, sef tâl ac amodau. Bydd gennym ni ac ein cyfrifoldeb ni fydd hynny wedyn, mae hynny'n wir.