<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:41, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Nid ydym ni’n mynd i symud ymlaen yn bell iawn, Llywydd, mae gen i ofn, gan fy mod i’n mynd i barhau â'r un math o gwestiynu ag a oedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Onid yw'n gwbl eglur nawr pam mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei ohirio tan ar ôl yr etholiad cyffredinol? A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud heddiw mewn gwirionedd yw lladd gobeithion pobl Blaenau Gwent ac ardal llawer ehangach. Nid oes unrhyw beth yr oedd y Llywodraeth yn gallu ei drafod y bore yma na ellid bod wedi ei drafod wythnosau yn ôl. Nid oes dim byd newydd o gwbl yn y penderfyniad hwn. Cyfyngiad ymrwymiadau Llywodraeth Cymru fyddai uchafswm o £8 miliwn y flwyddyn am 33 mlynedd—mae hynny ar ôl adeiladu’r holl adeiladau ar y safle. Nid yw fel pe byddai’r holl beth yn gorfod cael ei dalu ar y cychwyn ac y byddai'n rhaid dod o hyd i'r arian yfory neu yn ystod y tair blynedd nesaf. Felly, yr hyn y mae hyn yn ei ddangos yw diffyg gweledigaeth sobr ar ran Llywodraeth Cymru i ladd y cynllun menter breifat enfawr hwn, a oedd yn cynnig gobaith nid yn unig i un dref yng Nghymru, ond i’r de-ddwyrain gyfan mewn gwirionedd.