Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Mehefin 2017.
Mae'r holl arian sy’n mynd i gael ei ddarparu ymlaen llaw i adeiladu Cylchffordd Cymru yn arian sector preifat. Y cwbl y gofynnir i Lywodraeth Cymru ei wneud yw gwarantu taliadau a fydd yn cael eu gwneud i'r deiliaid bondiau uwch am lai na hanner y cyfalaf a ddefnyddir, mewn cyfnod sy’n dechrau dim ond pan fydd y safle cyfan wedi cael ei ddatblygu. Felly, bydd asedau ffisegol wedyn, y byddai rhwymedigaeth wrth gefn y Llywodraeth wedi ei gwarantu yn eu herbyn. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw cynnig gan y Llywodraeth i wario £100 miliwn dros 10 mlynedd—llawer iawn o arian—ar gyfres o siediau gwag.