<p>Dementia</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:54, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n syfrdanol nodi, i hanner y rheini sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, bod oedi cyn cael diagnosis cychwynnol yn fater difrifol, sy'n effeithio arnyn nhw eu hunain a’u hanwyliaid, wrth gwrs. Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi galw am dargedau ac ymyraethau llawer mwy uchelgeisiol yn y maes hwn. Mae'r gymdeithas hefyd wedi galw am dargedau cyfradd diagnosis cynharach i gynyddu’n flynyddol yn rhan o strategaeth ddementia ddiwygiedig eich Llywodraeth sydd ar y gweill. A wnewch chi sicrhau bod yr amcan a’r nod cyffredinol hwnnw i ganiatáu diagnosis ac ymyrraeth gynharach yn dod yn realiti?