1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n byw gyda dementia? OAQ(5)0684(FM)
Rydym ni wedi darparu bron i £8 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru. Yn unol â'n hymrwymiad 'Symud Cymru Ymlaen', rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu strategol ar ddementia, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Rydych chi'n iawn i ddweud, wrth wraidd unrhyw strategaeth a chynllun gweithredu, ei bod yn rhaid mai’r bobl yw’r arbenigwyr—y bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd—sydd wrth graidd hynny.
Rhoddwyd blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda dementia yn byw cystal ac am gyhyd â phosibl. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i ni gael yr adnoddau i gefnogi, addysgu, a grymuso. Ar hynny, rwy'n falch bod gan ddwy dref yn fy etholaeth i, yr Wyddgrug a'r Fflint, statws trefi ystyriol o ddementia erbyn hyn. Mae mwy a mwy o bethau fel caffis cof yn ymddangos ar draws y sir. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio, ymhlith pethau eraill, ar achredu mwy o fusnesau sy’n gweithio tuag at gael statws ystyriol o ddementia, gydag addewidion o weithredu. Ar y nodyn hwnnw, yr wythnos diwethaf, fe wnes i fy hun a’m holl staff gwblhau hyfforddiant cyfeillion dementia. Hyd yn oed fel rhywun sydd â pherthynas agos sy’n byw gyda dementia, agorwyd fy llygaid i bethau yn rhan o'r hyfforddiant hwnnw yn sicr.
Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio tuag at wneud yn siŵr bod mwy o fusnesau a sefydliadau ledled y wlad yn cael y statws ystyriol o ddementia hwnnw? A wnewch chi ymuno â mi i annog yr Aelodau Cynulliad hynny nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig gan y Gymdeithas Alzheimer i gyflawni hyfforddiant cyfeillion dementia i wneud hynny, fel y gallwn gyrraedd pwynt pryd y gallwn ni ddweud bod holl Aelodau'r Cynulliad a'u swyddfeydd yng Nghymru yn gyfeillion dementia?
Gwnaf. Roeddwn i mewn digwyddiad fy hun, wythnos i ddydd Gwener diwethaf, lle’r oedd y Gymdeithas Alzheimer yn bresennol, a chawsom sgwrs am y materion sy'n gysylltiedig â dod yn gyfaill dementia a'r hyfforddiant sydd ei angen i wneud hynny ac, wrth gwrs, fel Llywodraeth rydym ni’n cefnogi hynny. Mae caffis Dementia, fel y gwyddom, yn cynnig cyfle i bobl â dementia, eu teuluoedd, a’u gofalwyr i gyfarfod mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol lle gallant rannu profiadau ac, wrth gwrs, cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid—sy’n hynod bwysig hefyd. Mae ehangu faint o’r gefnogaeth honno sydd ar gael yn enghraifft o'r hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni drwy'r cynllun gweithredu strategol ar ddementia sydd ar y gweill.
Prif Weinidog, mae'n syfrdanol nodi, i hanner y rheini sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, bod oedi cyn cael diagnosis cychwynnol yn fater difrifol, sy'n effeithio arnyn nhw eu hunain a’u hanwyliaid, wrth gwrs. Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi galw am dargedau ac ymyraethau llawer mwy uchelgeisiol yn y maes hwn. Mae'r gymdeithas hefyd wedi galw am dargedau cyfradd diagnosis cynharach i gynyddu’n flynyddol yn rhan o strategaeth ddementia ddiwygiedig eich Llywodraeth sydd ar y gweill. A wnewch chi sicrhau bod yr amcan a’r nod cyffredinol hwnnw i ganiatáu diagnosis ac ymyrraeth gynharach yn dod yn realiti?
Hynod bwysig. Rydym ni’n gwybod, ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, er enghraifft, bod gan tua 49 y cant o unigolion â dementia wedi cael diagnosis. Mae’n anodd i ddechrau, ac weithiau nid yw pobl eu hunain, os nad oes ganddyn nhw unrhyw un a allai sylweddoli ar eu rhan, yn sylweddoli bod ganddynt ddementia. Mae'n bwysig bod y diagnosis hwnnw ar gael. Gwn fod PBC, er enghraifft, wedi dechrau gweithio ar ddatblygu strategaeth leol newydd ar gyfer pobl â dementia, gan fynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o wasanaethau sydd eu hangen. Mae'r gwaith hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys gweithio gyda grwpiau dementia.
Mae dementia yn arbennig o anodd i’r aelodau teulu sy'n rhoi eu bywydau eu hunain ar saib am y tro i ofalu am anwyliaid â dementia. Mae gofalwyr yn blino a dan straen ofnadwy. Mae gofalu am rywun â dementia yn rhywbeth trawmatig iawn i orfod ei wneud oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi’n eu gweld nhw’n llithro i ffwrdd fesul darn. Sut ydych chi'n sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chyson yn cael ei rhoi ar waith gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gefnogi anghenion gofalwyr o'r fath o ran gofal seibiant, cyngor a chwnsela?
Wel, yn ogystal â’r hyn yr wyf i newydd ei ddweud nawr wrth y Cynulliad, mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofyniad statudol i bob bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol ddarparu cynllun gofal a thriniaeth i’r rheini sydd â diagnosis o ddementia sydd angen gofal iechyd meddwl arbenigol, wedi ei gynllunio ar gyfer eu hanghenion nhw ac anghenion eu gofalwyr.
Mae hi’n symud ymlaen yn gyflym ac yn ddi-dor.
Question 4, Simon Thomas.