Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Prif Weinidog. Rydych chi’n dweud nad yw gamblo ei hun a’r drefn wedi eu datganoli, ond mae effaith y sgil effeithiau yn sicr wedi’u datganoli ym maes iechyd, iechyd meddwl a’r economi, ac yn rhedeg i mewn i ddegau o filiynau o bunnoedd o effaith yng Nghymru bob blwyddyn. Mae yna rywfaint o ddatganoli yn digwydd o gwmpas y peiriannau ‘fixed-odds’ fel maen nhw’n cael eu galw, a bydd mwy o alw, felly, i Lywodraeth Cymru ymateb i’r her yma. Beth ydych chi’n debyg o wneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i sicrhau bod ymchwil gwbl annibynnol—ymchwil sydd ddim yn ddibynnol ar y diwydiant gamblo ei hunan—gyda chi fel Llywodraeth i sicrhau eich bod chi’n mesur effaith gamblo yn briodol ac yn gywir ar ein cymunedau ni?