1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynglŷn â lleihau'r broblem gynyddol o gamblo eithafol? OAQ(5)0688(FM)[W]
Er nad yw’r drefn o reoleiddio gamblo wedi ei datganoli, rydym ni’n ymchwilio i weld beth yn rhagor y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â gamblo problematig, a’r effaith mae’n ei gael.
Diolch, Prif Weinidog. Rydych chi’n dweud nad yw gamblo ei hun a’r drefn wedi eu datganoli, ond mae effaith y sgil effeithiau yn sicr wedi’u datganoli ym maes iechyd, iechyd meddwl a’r economi, ac yn rhedeg i mewn i ddegau o filiynau o bunnoedd o effaith yng Nghymru bob blwyddyn. Mae yna rywfaint o ddatganoli yn digwydd o gwmpas y peiriannau ‘fixed-odds’ fel maen nhw’n cael eu galw, a bydd mwy o alw, felly, i Lywodraeth Cymru ymateb i’r her yma. Beth ydych chi’n debyg o wneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i sicrhau bod ymchwil gwbl annibynnol—ymchwil sydd ddim yn ddibynnol ar y diwydiant gamblo ei hunan—gyda chi fel Llywodraeth i sicrhau eich bod chi’n mesur effaith gamblo yn briodol ac yn gywir ar ein cymunedau ni?
Wel, mae yna waith yn dal i gael ei wneud gan gyrff ar draws Cymru, ond rydym ni yn gweld gamblo fel problem, wrth gwrs, ac yn broblem sydd ynglŷn â iechyd meddwl. Weithiau, wrth gwrs, mae pobl yn ffaelu stopio achos hynny. Mae’r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith yn yr ardal hon ac, wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen i weld ei argymhellion ef yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, bydd yr argymhellion hynny wedyn yn rhywbeth y gallwn ni adeiladu arno er mwyn delio â’r broblem hon.
Byddwn hefyd yn hoffi gweld datganoli pellach o ran cyfrifoldeb dros gamblo yma i Gymru, ond mae gennym ni rai pwerau eisoes, gan gynnwys pwerau drwy'r system gynllunio lle gallem ni gymryd camau i atal cynnydd i nifer y siopau betio trwyddedig mewn cymunedau bach. Rydym ni’n gwybod bod gormodedd, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, o siopau gamblo, a gall hynny fod yn broblem arbennig. Tybed pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried eu cymryd drwy'r broses gynllunio i fynd i'r afael â'r mater hwn.
O ran y broses gynllunio, mae’n iawn i nodi y bu twf, mae'n ymddangos i mi, o ran siopau betio dros y blynyddoedd. Dim ond rhan o'r broblem yw hynny. Mae gamblo ar-lein yn broblem fawr iawn hefyd, ac os yw pobl yn gamblo ar-lein, maen nhw’n arbennig o anodd eu cyrraedd. Os caf i ysgrifennu ato ar fater y broses gynllunio a sut y mae honno'n ymdrin â gamblo, wel, byddaf yn gwneud hynny, er mwyn rhoi ateb manwl iddo.