Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 27 Mehefin 2017.
O ran y broses gynllunio, mae’n iawn i nodi y bu twf, mae'n ymddangos i mi, o ran siopau betio dros y blynyddoedd. Dim ond rhan o'r broblem yw hynny. Mae gamblo ar-lein yn broblem fawr iawn hefyd, ac os yw pobl yn gamblo ar-lein, maen nhw’n arbennig o anodd eu cyrraedd. Os caf i ysgrifennu ato ar fater y broses gynllunio a sut y mae honno'n ymdrin â gamblo, wel, byddaf yn gwneud hynny, er mwyn rhoi ateb manwl iddo.