Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn bellach i hynny, efallai y gwyddoch fod prosiect ‘Hear to Meet’, a gyflwynir gan Action on Hearing Loss, wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu y bu colled yn y gefnogaeth ar gyfer unigolion sydd â cholled clyw ledled Cymru. Yn dilyn hynny, felly, a ydy eich Llywodraeth chi yn barod i gydweithio â sefydliadau megis Cyngor Cymru i Bobl Fyddar ac eraill i gau’r bwlch sydd wedi ymddangos oherwydd colled y prosiect pwysig yma?