1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion sy'n colli eu clyw? OAQ(5)0676(FM)
Cyhoeddodd y Llywodraeth fframwaith gofal a chymorth integredig fis diwethaf ar gyfer pobl sy’n fyddar neu’n colli eu clyw. Mae’r ddogfen yn amlinellu ein cynllun i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth i sicrhau gofal o ansawdd uchel trwy Gymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn bellach i hynny, efallai y gwyddoch fod prosiect ‘Hear to Meet’, a gyflwynir gan Action on Hearing Loss, wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu y bu colled yn y gefnogaeth ar gyfer unigolion sydd â cholled clyw ledled Cymru. Yn dilyn hynny, felly, a ydy eich Llywodraeth chi yn barod i gydweithio â sefydliadau megis Cyngor Cymru i Bobl Fyddar ac eraill i gau’r bwlch sydd wedi ymddangos oherwydd colled y prosiect pwysig yma?
Wel, mi oedd yna gynhadledd ddydd Gwener diwethaf yn Abertawe, sef y gynhadledd awdioleg genedlaethol. Roedd y prif ymgynghorydd gwyddonol yno i roi cyflwyniad iddyn nhw, ac, wrth gwrs, wedi pwysleisio’r fframwaith o weithred, ac mae’n glir bod yna lot fawr o gefnogaeth i’r gwaith hwn. Mae’n hollbwysig, felly, bod y fframwaith ei hun yn symud trwyddo a’n bod ni, wrth gwrs, yn sicrhau bod hwnnw’n cael effaith ar fywydau pobl.
Gwn fod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod plant byddar a phlant â sgiliau cyfathrebu gwael yn fwy tebygol o fod yn darged cam-drin na phlant eraill. Ym mis Ionawr, mewn dadl gryno, tynnais sylw at y cam-drin a ddioddefwyd gan blant mewn ysgol arbennig i blant byddar yn Llandrindod yn y 1950au, lle, yn anffodus, y plant â sgiliau lleferydd gwael oedd yn cael eu targedu, ac mae’r mater hwnnw’n cael ei ymchwilio. Ond pa fecanweithiau sydd ar waith i wneud gweithwyr proffesiynol addysgol yn ymwybodol bod y plant hyn sydd wedi colli eu clyw yn aml yn cael eu targedu a pha fesurau sydd ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol rhag cam-drin o'r fath yn y dyfodol?
Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i ysgolion yw sicrhau nad yw bwlio yn digwydd mewn ysgolion. Ond bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru), os caiff ei basio, yn ailwampio’n llwyr y system ar gyfer cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr â nam ar eu clyw. Bydd yn amlwg yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y broses honno ac yn ei gwneud yn haws i'r rhai dan sylw. Bydd cyllid, wrth gwrs, i gefnogi'r Bil, ac, yn rhan o'r naratif o gwmpas y Bil hwnnw, byddwn eisiau gwneud yn siŵr bod bwlio yn cael sylw yn rhan o'r naratif hwnnw. Ydy, mae'n bwysig cynorthwyo’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn y ffordd ehangaf bosibl, gan gynnwys, wrth gwrs, eu diogelu rhag bwlio.
Prif Weinidog, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n creu’r amodau cywir i fagu gweithlu addysg sy’n fedrus ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef o nam ar y clyw. Rydw i’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r galwadau i ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain i’r cwricwlwm cenedlaethol. Felly, a allwch chi ein diweddaru ni ar y datblygiadau diweddaraf i ychwanegu iaith arwyddion i’r cwricwlwm, a hefyd a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog busnesau i ddysgu iaith arwyddion i wneud gwasanaethau lleol mor hygyrch â phosib i bawb, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli eu clyw?
Wel, mae yna safonau ynglŷn â chael mynediad i’r gwasanaeth iechyd, a rydym ni’n erfyn, wrth gwrs, i’r safonau hynny gael eu dilyn. Ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni hybu busnesau, er enghraifft, i ddefnyddio gweithgareddau sy’n gallu cael eu defnyddio gan bobl fyddar, mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n moyn gweithio gyda’r grwpiau hyn arno ynglŷn â sicrhau bod hynny yn digwydd ac, wrth gwrs, i sicrhau bod BSL ar gael, lle mae hynny’n bosib. Ynglŷn â lle fyddai BSL yn gweithio yn y cwricwlwm, a gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog addysg ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi mwy o fanylion iddo ef?