<p>Gofal Cymdeithasol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelod yn gwybod bod arferion cyflogaeth annheg—mae hi wedi eu nodi nhw—yn ddrwg i unigolion. Dyna pam yr ydym ni’n cymryd camau ynghylch contractau dim oriau trwy ganllawiau, trwy gaffael, a thrwy ein hymgynghoriad ar reoliadau arfaethedig ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod y proffesiwn gofalu yn cael ei werthfawrogi, yn hynod bwysig eu bod nhw’n cael eu gwobrwyo'n briodol, a dyna, wrth gwrs, y mae'r rheoliadau yn bwriadu ei wneud.