1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0690(FM)
Wel, mae gofal cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd strategol. Rydym ni’n darparu £55 miliwn ychwanegol o arian rheolaidd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi cwblhau eu hasesiad o anghenion y boblogaeth ac yn parhau i ddarparu gofal integredig, a ariennir drwy'r gronfa gofal integredig.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd yn sylweddoli’r her ariannol y bydd gofal cymdeithasol yn ei pheri i ni yn y dyfodol. Mae gennym ni sefyllfa yng ngogledd Ceredigion nawr lle mae'r cyngor wedi cyhoeddi cau cartref gofal o'r enw Bodlondeb. Mae hyn wedi dod yn gwbl ddirybudd. Does neb yn gwybod i ble y bydd y preswylwyr yn cael eu hanfon. Nid oes cynllun gofal cymdeithasol ar gyfer gogledd Ceredigion, ac eto mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gau'r cartref hwn. Onid yw'n annheg ar y rhai sy'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon bod yr ansicrwydd hwn yn bodoli a bod y cyngor wedi gwario, mae'n debyg, £2 filiwn am gyngor gan Pricewaterhouse Coopers ar werth £12 miliwn i £14 miliwn o doriadau gan y cyngor? Onid yw hyn yn ymddangos yn flaenoriaeth ryfedd, pan fo anghenion pobl go iawn yn cael eu diystyru?
Rwy’n deall y bydd ymgynghoriad ar gau Bodlondeb tan y—wel, bydd yn parhau tan 25 Medi. Mae'n gyfnod anodd iawn, yn amlwg, i bawb dan sylw. A gaf i ddweud wrth yr Aelod mai diogelwch a llesiant preswylwyr yw fy mhrif bryder, a bydd yr arolygiaeth gofal a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud trwy gydol y broses?
Prif Weinidog, mae cynnwys datganiad Cydweithredfa Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar wasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn peri pryder. Mae gan boblogaeth ardal bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda gyfran uwch o bobl hŷn na chyfartaledd Cymru eisoes, a rhagwelir y bydd y gyfran honno sydd eisoes yn uwch yn cynyddu yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Ac eto rhagwelir y bydd nifer y bobl yn ardal Prifysgol Hywel Dda sy’n iau na 65 oed ac yn darparu gofal di-dâl yn gostwng yn sylweddol yn ystod y 10 i 15 mlynedd nesaf, ac mae eisoes yn anodd iawn recriwtio gofalwyr cyflogedig. Mae'n swydd nad yw’n talu'n dda, gyda phwysau amser enfawr, yn aml iawn nid ydynt yn cael eu talu am bellter y teithio y maen nhw’n ei wneud, ac nid yw'n waith uchel ei barch yn aml ymhlith pobl eraill mewn cymdeithas. Beth ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i godi a gwella statws gofalu fel y gallwn gael mwy o ofalwyr, a beth ydych chi'n credu y gallai eich Llywodraeth ei wneud i annog a gwobrwyo’r bobl hynny sy’n darparu gofal di-dâl yn anhunanol, ddydd ar ôl dydd, i’w hanwyliaid?
Bydd yr Aelod yn gwybod bod arferion cyflogaeth annheg—mae hi wedi eu nodi nhw—yn ddrwg i unigolion. Dyna pam yr ydym ni’n cymryd camau ynghylch contractau dim oriau trwy ganllawiau, trwy gaffael, a thrwy ein hymgynghoriad ar reoliadau arfaethedig ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod y proffesiwn gofalu yn cael ei werthfawrogi, yn hynod bwysig eu bod nhw’n cael eu gwobrwyo'n briodol, a dyna, wrth gwrs, y mae'r rheoliadau yn bwriadu ei wneud.