<p>Aelodau'r Lluoedd Arfog </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, mae'n bwysig iawn eu bod nhw’n gallu asesu'r angen yn eu hardaloedd nhw yn benodol. O ran tai, rydym ni wedi datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog i'w helpu nhw a'u teuluoedd i wneud dewis cytbwys am eu hanghenion llety wrth symud yn ôl i fywyd fel sifiliaid. Ar ben hynny, er mwyn hyrwyddo'r llwybr ymhellach, rydym ni wedi datblygu cardiau cyngor i gyn-filwyr sy’n cysgu ar y stryd—llawer gormod, mae gen i ofn, ond rydym ni’n gwybod bod y broblem yno—gyda thaflenni a phosteri. A bydd y cyhoeddiadau hyn yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth porth y cyn-filwyr newydd. Mae wedi ei gynllunio i fod yn siop un stop ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau eu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau a chymorth mewn un lle. Felly, mae llawer wedi ei wneud eisoes, nid yn unig i ddarparu gwybodaeth i'r rhai sydd angen tai ac yn chwilio am dai, ond i’r rhai sydd mewn angen dybryd ac yn cysgu ar y stryd.