1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghwm Cynon sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol, a'u teuluoedd? OAQ(5)0682(FM)
Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur yn 'Symud Cymru Ymlaen' mai ein hymrwymiad yw cefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-bersonél lluoedd arfog a'u teuluoedd, fel nad ydynt o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.
Prif Weinidog, byddaf yn mynd i ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Aberdâr ddydd Sadwrn, a hoffwn gymeradwyo Rhondda Cynon Taf am eu hagwedd ragweithiol yn y mater hwn, gan fod gan gynghorau swyddogaeth mor allweddol o ran darparu llawer o'r personél gwasanaethau rheng flaen y mae personél gwasanaethau a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. Mae cofnodion y grŵp arbenigol ar anghenion y gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn nodi cynlluniau i adolygu gwaith hyrwyddwyr y lluoedd arfog. A allwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith pwysig hwn, sut y mae'n cefnogi ein lluoedd arfog ac yn diwallu eu hanghenion?
Gallaf. Roeddwn yn Niwrnod y Lluoedd Arfog fy hun—ein Diwrnod y Lluoedd Arfog cenedlaethol ni yng Nghymru—yng Nghaerffili ddydd Sadwrn. Mae’n bwysig iawn cefnogi'r digwyddiad hwnnw. Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud mai’r un digwyddiad sy'n sefyll allan yn fy meddwl yw gŵr mewn lifrai yn dod tuag ataf, yn ysgwyd fy llaw, ac yn dweud, 'Da iawn ar ganlyniad yr etholiad', heb sylweddoli bod Alun Cairns yn sefyll wrth fy ochr. Ond, serch hynny, byddaf yn derbyn hynny am yr hyn yr ydyw. Ond gallaf ddweud, o ran y mater ei hun, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, sy'n cadeirio, wrth gwrs, y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, yn cyfarfod â hyrwyddwyr awdurdod lleol yn dilyn toriad yr haf i drafod eu swyddogaeth a'r gefnogaeth y gallant ei rhoi i'r gymuned lluoedd arfog yn eu hardaloedd, gan adeiladu, wrth gwrs, ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes fel Llywodraeth.
Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod Nantgarw wedi ei ddewis yn ddiweddar fel y ganolfan ar gyfer y llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Bydd hyn o gymorth mawr ar hyd a lled Cymru, ond hefyd i Rhondda Cynon Taf a Chwm Cynon yn arbennig. Nawr, mae hyn yn rhan o adolygiad pontio cyn-filwyr 2014, a argymhellodd hefyd y dylai awdurdodau lleol gynnal archwiliad o'u darpariaeth tai cymdeithasol a gweld sut mae hynny’n gwasanaethu personél a chyn-filwyr y lluoedd arfog. A ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodau lleol Cymru gymryd rhan yn yr adolygiad hwn, a bwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw cyn gynted â phosibl?
Ydw, mae'n bwysig iawn eu bod nhw’n gallu asesu'r angen yn eu hardaloedd nhw yn benodol. O ran tai, rydym ni wedi datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog i'w helpu nhw a'u teuluoedd i wneud dewis cytbwys am eu hanghenion llety wrth symud yn ôl i fywyd fel sifiliaid. Ar ben hynny, er mwyn hyrwyddo'r llwybr ymhellach, rydym ni wedi datblygu cardiau cyngor i gyn-filwyr sy’n cysgu ar y stryd—llawer gormod, mae gen i ofn, ond rydym ni’n gwybod bod y broblem yno—gyda thaflenni a phosteri. A bydd y cyhoeddiadau hyn yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth porth y cyn-filwyr newydd. Mae wedi ei gynllunio i fod yn siop un stop ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau eu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau a chymorth mewn un lle. Felly, mae llawer wedi ei wneud eisoes, nid yn unig i ddarparu gwybodaeth i'r rhai sydd angen tai ac yn chwilio am dai, ond i’r rhai sydd mewn angen dybryd ac yn cysgu ar y stryd.
Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ddeddfu i warantu tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol?
Wel, rydym ni wedi gwneud llawer hyd yn hyn: darperir £585,000 y flwyddyn i GIG Cymru y Cyn-filwyr, gwasanaeth unigryw, yr unig un o'i fath yn y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 2,900 o atgyfeiriadau wedi cael eu derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall personél lluoedd arfog sydd angen gofal iechyd arbenigol penodol gael mynediad at y llwybr atgyfeirio carlam—menter ar y cyd yw honno rhwng Gwasanaethau Meddygol yr Adran Amddiffyn a GIG Cymru sy'n blaenoriaethu mynediad at ofal eilaidd, ac sy'n sicrhau nad yw aelodau sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth ac yn cael yr un safon o fynediad at ofal iechyd a’r hyn a geir gan unrhyw drigolion eraill yng Nghymru.