<p>Aelodau'r Lluoedd Arfog </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni wedi gwneud llawer hyd yn hyn: darperir £585,000 y flwyddyn i GIG Cymru y Cyn-filwyr, gwasanaeth unigryw, yr unig un o'i fath yn y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 2,900 o atgyfeiriadau wedi cael eu derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall personél lluoedd arfog sydd angen gofal iechyd arbenigol penodol gael mynediad at y llwybr atgyfeirio carlam—menter ar y cyd yw honno rhwng Gwasanaethau Meddygol yr Adran Amddiffyn a GIG Cymru sy'n blaenoriaethu mynediad at ofal eilaidd, ac sy'n sicrhau nad yw aelodau sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth ac yn cael yr un safon o fynediad at ofal iechyd a’r hyn a geir gan unrhyw drigolion eraill yng Nghymru.