Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, rydym ni’n gwybod bod llawer o'r rheini sydd wedi datblygu’r prosiectau hydro cymunedol hyn yn bryderus dros ben am y cynnydd enfawr hwn. Nawr, fel y mae’r aelod dros Arfon wedi cyfeirio ato, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd ganddi ryddhad ardrethi busnes o 100 y cant i’r prosiectau hyn, ac mae hyd yn oed y Llywodraeth yn Lloegr wedi ymrwymo na fydd yn costio mwy na £600 yn fwy iddynt. A allwn ni gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru y byddwn ni’n rhoi’r mathau hynny o ryddhad ardrethi ar waith?