Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 27 Mehefin 2017.
Wel, mae gennym ni eisoes system rhyddhad ardrethi ar gyfer ardrethi annomestig sy'n fwy hael na’r hyn sydd ar gael, er enghraifft, yn Lloegr. Mae mwy o fusnesau wedi eu cynnwys yn y cynllun rhyddhad hwnnw nag sy'n wir yno. Gallaf hefyd ddweud bod WEFO wedi galw ar sefydliadau i gyflwyno cynigion i elwa ar £14 miliwn o arian yr UE ar gyfer mentrau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach: mae £10 miliwn ar gael i orllewin Cymru a'r Cymoedd a £4 miliwn i ddwyrain Cymru. Caiff unrhyw sefydliad, pa un a yw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, wneud cais. Gallaf ddweud mai’r dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 30 Mehefin, felly nid oes llawer iawn o amser ar ôl, ond serch hynny mae’r cynnig hwnnw wedi bod ar gael ers cryn amser.