Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch, heddiw, i gyhoeddi ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r Biliau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf, rwy’n awyddus i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ers i mi wneud fy natganiad cyntaf ym mis Mehefin y llynedd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi pasio deddfwriaeth dreth bwysig, a fydd yn galluogi Cymru i godi ei refeniw ei hun o fis Ebrill 2018—y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd.
Cafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, gan ddod yn Ddeddf gyntaf y pumed Cynulliad. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i basio Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cymryd cam pellach ar ein taith ddatganoli a sicrhau bod treth gwarediadau tirlenwi—yr ail o'r ddwy dreth ddatganoledig—ar waith erbyn mis Ebrill 2018. Llywydd, mae’r ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth treth yn sefydlu perthynas newydd rhwng pobl Cymru, Llywodraeth Cymru a’r gwaith o gyflwyno ein gwasanaethau cyhoeddus. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd yr arian a godir o drethi Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Fis diwethaf, pasiodd y Cynulliad hefyd Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru). Disgwylir i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol yr wythnos nesaf ac, unwaith y bydd wedi’i ddeddfu, bydd yn darparu gwelliannau eang o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cyfyngiadau newydd ar ysmygu mewn rhai mannau cyhoeddus yn yr awyr agored lle mae plant yn bresennol, cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer triniaethau arbennig, gwaharddiad ar roi twll mewn rhannau personol o’r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, a gwelliannau i'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus a gwasanaethau fferyllol. Cyhoeddais dri Bil arall y llynedd, ac mae'r rhain yn parhau i symud drwy gamau craffu’r Cynulliad.
Llywydd, cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn gynharach y mis hwn a bydd Cyfnod 2 yn digwydd ar ôl toriad yr haf. Rydym yn disgwyl cyrraedd cyfnodau terfynol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a chwblhau cyfnod cyntaf Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) cyn toriad yr haf. Mae pob un o'r Biliau hyn wedi bod yn destun graffu gan Aelodau, a byddant yn cael eu gwella gan y broses honno. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses ddeddfwriaethol. Efallai nad yw bob amser yn broses gyfforddus i’r Llywodraeth—ac ni ddylai fod felly—ond mae craffu yn arwain at well ddeddfwriaeth.
Llywydd, bydd y Llywodraeth yn parhau i adeiladu ar y cynnydd yr ydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn parhau i gael ei llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae’r cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn y flwyddyn i ddod yn adlewyrchu ein nod o wella Cymru yn awr ac yn y tymor hir.
Over the next 12 months, we will introduce legislation in Wales to tackle the damaging use of alcohol by raising a minimum unit price for alcohol, providing free childcare to those in work with children between three and four years of age, protecting tenants from unfair fees, and reforming local government.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, a’n nod ers amser hir yw defnyddio mesurau iechyd cyhoeddus i dargedu a mynd i'r afael â'r defnydd niweidiol a pheryglus o alcohol. Mae tystiolaeth wedi dangos y cysylltiad rhwng yfed ar lefelau niweidiol ac argaeledd alcohol rhad. Mae deddfwriaeth yn elfen hanfodol o'n strategaeth ehangach i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn ein galluogi i bennu isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu yn eang ynghylch isafbris uned ar gyfer alcohol a gwnaethom ymgynghori ar Fil drafft ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad. Roedd y mwyafrif o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn o blaid deddfu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Senedd yr Alban wedi pasio Deddf yn 2012 i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol, ac, wrth gwrs, yn ymwybodol o benderfyniad Llys Sesiwn yr Alban bod y ddeddfwriaeth yn gydnaws â chyfraith yr UE, yn dilyn her gyfreithiol gan y Scotch Whisky Association ac eraill. Nawr, mae’r apêl gan y gymdeithas honno i fod i gael ei chlywed gan y Goruchaf Lys yr haf hwn. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwedd yr achos hwnnw ac yn monitro'r datblygiadau'n agos.
Llywydd, bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau deddfwriaethol i fynd i'r afael â'r ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae cartref fforddiadwy, o ansawdd da yn allweddol i lesiant. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu bod y ffioedd presennol, a godir yn bennaf gan asiantau, yn rhwystr i bobl gael mynediad at dai rhent preifat, ac, unwaith y ceir mynediad at dai rhent, bod y ffioedd yn gallu bod yn rheswm dros beidio â symud cartref. Gall tenantiaid wynebu costau sylweddol ymlaen llaw, sy'n cynnwys mis o rent, blaendal diogelwch sylweddol a ffioedd asiantaeth ar gyfer sicrhau tenantiaeth. Gall y ffi gynnwys taliadau lluosog, ond yn aml mae’n dâl sefydlog neu'n seiliedig ar ganran o gostau rhent yr eiddo. Yn rhy aml, nid yw tenantiaid yn gwybod am beth y maent yn talu’r costau hyn. Felly, byddwn yn cyflwyno Bil i atal codi ffioedd annheg ar denantiaid a'u darpar denantiaid. Bydd hyn yn rhoi eglurder i’r rhai yn y sector rhentu preifat ynghylch y costau cysylltiedig ac yn sicrhau bod y system yn deg, yn gyfiawn ac yn gynaliadwy.
Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r rheolaethau rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Ym mis Medi 2016, gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cymru i’w cynnwys yn y sector cyhoeddus. O ganlyniad, bydd unrhyw fenthyca o'r sector preifat gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn dod yn dâl yn erbyn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r penderfyniad i ailddosbarthu yn dilyn cynsail a osodwyd yn Lloegr, ond mae hefyd yn un sy'n wynebu Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Os nad eir i'r afael â hyn, gallai canlyniadau’r newid hwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yn sylweddol o bosibl. Gallai gyfyngu'n ddifrifol ar y gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy newydd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cymru a gallai hefyd gyfyngu ar ein gallu ni ein hunain i ariannu prosiectau seilwaith cyfalaf eraill. Felly, byddwn yn diwygio’r rheolaethau rheoleiddio perthnasol sydd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rydym yn credu y bydd hyn yn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailystyried dosbarthiad Landlordiaid Cymdeithasol Cymru yng Nghymru a'u cynnwys gyda’r sector preifat unwaith eto.
Llywydd, mae gofal plant yn fater pwysig i bob rhiant. Un o'n hymrwymiadau allweddol fel Llywodraeth yw darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair blwydd oed sy'n gweithio. Pan gaiff ei gyflwyno'n llawn, bydd ein cynnig gofal plant yn helpu i ddymchwel y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth gael swydd. Rydym yn gwneud cynnydd da, a bydd ein cynlluniau peilot gofal plant cyntaf yn dechrau ym mis Medi. I gefnogi hyn a hwyluso cyflwyno'r cynnig gofal plant yn llawn erbyn 2020, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gefnogi system genedlaethol ar gyfer ceisiadau a gwiriadau cymhwystra. Rydym yn gweithio i ddatblygu system lle y gall rhieni gyflwyno eu cais a’u gwybodaeth ar-lein, y gellir ei wirio wedyn yn erbyn setiau data sydd eisoes yn bodoli er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys. Bydd angen deddfwriaeth yn sail i’r system hon. Un o'r dewisiadau yw gweithio gyda Chyllid a Thollau EM i integreiddio ceisiadau i'r gwasanaeth gofal plant presennol.
Llywydd, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol, o ofal cymdeithasol ac addysg i gasglu a rheoli gwastraff. Mae ein hawdurdodau lleol hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol i'w cymunedau. Mae’n rhaid iddynt fod yn gydnerth ac yn gynaliadwy os ydynt am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Rydym wedi bod yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Mae’n bwysig ein bod yn symud ymlaen ar sail consensws. Dyna pam rydym wedi ymwneud yn helaeth â chydweithwyr llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at gyhoeddi Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cydnerth ac wedi’i Adnewyddu' yn gynharach eleni.
Llywydd, byddwn yn awr yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd y Bil yn ceisio sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn rhoi i'r awdurdodau lleol bŵer cymhwysedd cyffredinol a fframwaith perfformiad newydd, a bydd yn creu mwy o dryloywder wrth wneud penderfyniadau. Ond nid yw hynny'n ddigon. Mae'n amlwg bod angen i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a bod yn rhaid i awdurdodau lleol hefyd weithio mewn ffordd wahanol. Bydd y Bil, felly, yn darparu sail ar gyfer mwy o gydweithredu drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Gyda’i gilydd, bydd ein cynigion ar gyfer diwygio yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd, ac o fewn y fframwaith hwn byddwn yn creu llywodraeth leol gydnerth, wedi’i hadnewyddu, a chynaliadwy yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i geisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer deddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rydym yn sefyll yn gadarn yn ein hymrwymiad i fynd ar drywydd newid yn y gyfraith, ac rydym yn parhau i weithio drwy'r cymhlethdodau cyfreithiol i ddatblygu Bil i wneud hyn yn realiti. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym eu heisiau ac yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion i ddileu amddiffyniad o gosb resymol yn ystod y 12 mis nesaf, ac rydym yn bwriadu cyflwyno Bil yn nhrydedd flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.
Llywydd, yr wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU ei bwriadau deddfwriaethol yn Araith y Frenhines. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys y Bil diddymu a Biliau arwyddocaol eraill sy'n ymwneud â Brexit. Rwyf wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon o'r blaen bod yn rhaid i'r setliad datganoli gael ei barchu a bod yn rhaid i'r Cynulliad fod yn gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Rwyf hefyd wedi bod yn glir lle nad yw darpariaethau wedi eu cytuno rhwng Llywodraethau ac nad ydynt yn parchu’r setliad datganoli, y byddwn yn ystyried opsiynau eraill, megis Bil parhad, i warchod ein buddiannau datganoledig.
Bydd Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar fusnes Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Felly, i ddarparu ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth sydd eu hangen ar gyfer Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol ddwy flynedd. Byddai'n naïf i gymryd yn ganiataol na fydd hefyd yn cael effaith ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain. Ond nid yw wedi bod yn bosibl eto i bennu beth fydd yr effaith honno a phryd y bydd yn dod i'r amlwg. Wrth i'r darlun a’r effeithiau ddod yn gliriach, byddaf wrth gwrs yn hysbysu Aelodau.
Llywydd, bydd y Biliau rydym ni’n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn helpu ein hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig.
Llywydd, the Bills we intend to introduce during the second year of this legislative programme will support our efforts to build a Wales that is healthy and active, prosperous and secure, ambitious and learning, and united and connected.
Edrychaf ymlaen at weld y Biliau yn dod ymlaen ac at graffu pwyllgorau ac Aelodau, ac rwy’n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad Cenedlaethol.