Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 27 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ac, yn wir, i’r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am newid ychydig ar fformat y ffordd y mae’r busnes hwn yn mynd i gael ei drafod y prynhawn yma, er mwyn cael datganiadau/dadleuon a fydd, gobeithio, yn cynnig mwy o gyfle i graffu ar y cynigion y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno, a gobeithio cael ymateb llawn gan y Prif Weinidog i’r sylwadau a gyflwynir ar draws y Siambr? Felly, rwy’n diolch i chi, Brif Weinidog, am eich datganiad.
Nodaf fod pum Bil a amlinellwyd gennych heddiw a fydd yn ffurfio sail eich rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y 12 mis nesaf. Yn bennaf oll, hoffwn groesawu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r pla o ffioedd a godir gan asiantaethau gosod tai, sy’n gam sydd wedi ei wneud o dan rywfaint o bwysau yn dilyn y camau cadarnhaol a wnaed gan Lywodraethau yn Lloegr a'r Alban. Rydym yn cefnogi gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, lle mae Cymru ar ei hôl hi erbyn hyn o gymharu â gweddill Prydain, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o'r diwedd i amddiffyn tenantiaid rhag y costau ychwanegol. A dweud hynny, ar ôl bod mewn grym am bron i ddau ddegawd, yn anffodus, mae yna deimlad ein bod ni wedi clywed y datganiad hwn droeon. Mae rhaglenni blaenorol wedi methu yn gyson â gwella canlyniadau bywyd pobl yma yng Nghymru, ac nid yw geiriau cynnes a chamau gwag yn anffodus yn cynnig fawr ddim er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf ar draws Cymru.
Rydym ni, wrth gwrs, yn cydnabod y mandad sydd gan y Llywodraeth yma yn y Siambr ac, yn anad dim, y ffordd y mae'n rhaid iddi gyflwyno ei deddfwriaeth, ond yn anffodus mae’r ddeddfwriaeth yn bell o fod yn foddhaol. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru. Ar wahân i'r Bil iechyd cyhoeddus, sy’n deillio o’r pedwerydd Cynulliad, a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, nid yw'r Biliau cyntaf yn arloesi.
Yn wir, rydym wedi cael yr amgylchiadau gofidus yn ymwneud â'r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn dangos ymagwedd ‘rhywsut rywsut’ eich Llywodraeth i ddeddfwriaeth. Mae’r cawlio gweinidogol dros ei gost, sy’n rhywbeth yr ydym ni wedi’i weld yn rhy aml, wedi arafu'n sylweddol ei daith drwy'r Cynulliad, er anfantais i blant ledled Cymru. O ystyried addewid y Prif Weinidog yn 2016 y byddai'r rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn i ddatblygu ar ein harferion er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu cyfrifoldebau seneddol y lle hwn, beth y mae'n ei feddwl am y ffaith bod penderfyniad ariannol y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi ei ohirio—y tro cyntaf yn ein hanes deddfwriaethol y mae hyn wedi digwydd, a bod y Pwyllgor Cyllid wedi cael gwybod am y gwallau dim ond y diwrnod cyn iddo gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog?
Yn 2015, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn benodol femorandwm ariannol i gael ei ddarparu ochr yn ochr â phob Bil. O ystyried bod asesiad effaith rheoleiddiol y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys camgymeriadau ariannol difrifol—£13.1 miliwn i fod yn fanwl gywir—pa fesurau y mae eich Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn eu cymryd i sicrhau bod Asesiad Effaith Rheoleiddiol pob Gweinidog yn gadarn yn ariannol? Mae arian trethdalwyr yn y fantol yma, ac mae'n hollbwysig bod y mesurau cryfaf yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu arian o'r fath.
Rydym, wrth gwrs, wedi cael cyflwyniad i ddileu'r hawl i brynu, a’r diolch dros ysgwydd i'r undebau llafur. Rwy'n siŵr na fydd yn ddim syndod bod y rhai ohonom ar y meinciau hyn yn siomedig dros ben o weld y ddau hyn yn nodweddion allweddol ym mlwyddyn gyntaf eich Llywodraeth newydd. Mae'n ofid mawr i ni, ac rydym yn teimlo y bydd yn tynnu cyfleoedd oddi ar bobl ar hyd a lled Cymru.
Yn anffodus, ni fu unrhyw ganolbwyntio yng nghyflwyniad y Bil iechyd cyhoeddus ar fynd i'r afael â materion fel gordewdra a llygredd aer, er ei bod yn amlwg erbyn hyn bod eich cynnig gofal plant am ddim yn annhebygol iawn o gael ei gyflawni, oherwydd cyllido gwael ar draws y sector. Roedd hwn, wrth gwrs, yn addewid o bwys a wnaed gan eich plaid yn yr etholiad diwethaf, a byddwn yn gwerthfawrogi asesiad gennych chi ar gyflawni’r fenter allweddol, ac amserlen debygol, gan y bydd llawer o deuluoedd yn eistedd yno yn meddwl tybed beth ar y ddaear a phryd ar y ddaear y mae'n debygol o ddwyn ffrwyth. Rwy’n sylwi bod y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad, wedi siarad am ddefnyddio gwasanaethau gofal plant presennol.
Rwyf wedi eistedd ar sesiynau craffu'r pwyllgor plant a phobl ifanc y ddau Weinidog yma—y Gweinidog addysg a'r Gweinidog cymunedau, ac mae gan y Gweinidog cymunedau gyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni hyn—ac mae'n ymddangos bod gwahaniaeth barn ynghylch sut yn union y bydd y polisi hwn yn cael ei gyflwyno. Rwy’n derbyn bod angen deddfwriaeth i ryw bwynt, a dyma lle mae deddfwriaeth a pholisi yn gwrthdaro. Mae pryderon mawr ynghylch sut yn union y bydd y Llywodraeth yn gallu gwireddu’r ddwy elfen fel y gellir cyflawni’r cynnig hwn yn llwyddiannus.
Nodaf hefyd, gyda difyrrwch a phryder fel ei gilydd, y posibilrwydd o Fil llywodraeth leol arall. Ni allwn ond gobeithio ei fod o leiaf yn ymgais well na'r traed moch a wnaed ohono yn y Pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu gwirioneddol gyflawni'r hyn y mae'n addo ei wneud y tro hwn.
Unwaith eto, hoffwn wybod beth yw eich nodau ar gyfer y Bil hwnnw ac a ydym yn debygol o ddechrau o'r newydd, neu a oes rhai elfennau o'r cynigion blaenorol yn debygol o ymddangos? A pha swyddogaeth, os o gwbl, fydd argymhellion comisiwn Williams yn ei chwarae wrth ategu’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf hon? Yn yr un modd, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod dymuniadau cymunedau lleol yn cael eu clywed yn y Bil hwn a'r penderfyniadau a wneir ar y daith hon?
Nodaf hefyd, o ddatganiad y Prif Weinidog heddiw, gosod isafbris, a'r sylwadau ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin gan David Davis am yr angen i weithio gyda deddfwrfeydd yng Nghymru ac yn yr Alban, a cheisio caniatâd gan y ddwy ddeddfwrfa wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwy Dŷ'r Cyffredin. Mae’n rhaid bod hwn yn ymrwymiad i'w groesawu gan Ysgrifennydd Brexit.
O ran gosod isafbris, mae'n bwysig ystyried materion trawsffiniol ynghylch deddfwriaeth a allai arwain, yn amlwg, at wahanol awdurdodaethau prisio—rhywbeth yr ydym wedi ei weld mewn deddfwriaeth flaenorol pan ddaw at rywbeth mor syml â thipio anghyfreithlon, er enghraifft, a'r gallu, yn amlwg, i symud gwastraff ar draws y ffin. Er fy mod yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig o'r meinciau hyn ar osod isafbris, rwyf yn dymuno gweld mwy o dystiolaeth o’r gallu i hyn symud ymlaen, a sicrhau’r canlyniad yn y pen draw o wella iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, oherwydd, heb os nac oni bai, mae cysylltiad rhwng yfed llawer o alcohol ac iechyd gwael, ond yr hyn y mae angen i ni sicrhau yw bod y ddeddfwriaeth yn addas at ei diben, ac yn mynd i'r afael ag iechyd gwael ac alcohol a'r berthynas rhwng y ddau, ac nad yw'n ceisio creu drws cefn yn unig ar gyfer marchnad ddu ar gyfer alcohol yma yng Nghymru ac ar draws y ffin.
O ran y ddeddfwriaeth gosb resymol y mae’r Prif Weinidog yn siarad amdani, rydym ni, y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, bob amser wedi ystyried hyn yn fater o gydwybod, a bydd yn bleidlais rydd gan Aelodau yn y grŵp Ceidwadol ar y gwahanol gamau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd drwyddynt pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno, yn gyntaf, ei hymgynghoriadau. Rwy'n meddwl bod y datganiad hwn yn eu hamlinellu heddiw, ac yna, yn amlwg, deddfwriaeth yn y drydedd sesiwn, y credaf fod y Prif Weinidog yn sôn amdani yn ei ddatganiad y prynhawn yma.
O fewn y rhaglen hon, byddem wedi dymuno gweld amrediad o gynigion llawer mwy a mwy uchelgeisiol yn cyflwyno Biliau sy'n ymdrin â llawer o agweddau ar anghenion pobl Cymru. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi hoffi gweld Biliau mwy arloesol yn cael eu cyflwyno, megis Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, a fyddai wedi dod â thryloywder a phŵer lleol i graidd y gwaith o wneud penderfyniadau; Bil sicrwydd economaidd a menter, a fyddai wedi creu amodau i’r sector preifat yng Nghymru allu ffynnu, gan arwain at sgiliau newydd, swyddi a sicrwydd economaidd i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled Cymru; Bil iechyd a gofal cymdeithasol, a fyddai wedi integreiddio'n briodol y system iechyd drwy fynnu bod darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar y cyd; Bil hawliau pobl hŷn, a fyddai wedi ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru mewn cyfreithiau Cymru; a Bil llywodraethu a chyllid y GIG, a fyddai wedi cyflwyno mwy o atebolrwydd i gleifion. Ac, yn ôl pob tebyg, mae’r darn mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau i gymunedau wedi dod o'r meinciau hyn, gyda fy nghydweithiwr, Paul Davies a'i gynigion ar gyfer Bil awtistiaeth drwy'r broses ddeddfwriaeth meinciau cefn. Wrth i hyn fynd yn ei flaen trwy ei gamau amrywiol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddenu cefnogaeth drawsbleidiol, ac, ymhen amser, yn denu cefnogaeth eich Llywodraeth.