4. 3. Datganiad: Y Rhaglen Lywodraethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:03, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Cefais deimlad o déjà vu pan welais y rhaglen ddeddfwriaethol hon: gosod isafbris alcohol; gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai; gweithio rhanbarthol gorfodol ar gyfer cynghorau lleol a'r cynnig gofal plant newydd. Maen nhw i gyd yn bolisïau Plaid Cymru—pedwar o'r pum Bil. Ond nid llên-ladrad yw fy nghyhuddiad yma; fy nghyhuddiad yw hunanfodlonrwydd. Mae'r rhain yn feysydd lle gallai’r Llywodraeth fod wedi cymryd camau, mewn rhai achosion, flynyddoedd yn ôl. Cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2014: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Atal landlordiaid ac asiantaethau rhag codi ffioedd annheg, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Tachwedd 2015: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Gweithio rhanbarthol gorfodol gan gynghorau lleol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Mehefin 2015: fe’i gwrthodwyd gan y Prif Weinidog a honnodd y byddai'n creu haen arall o lywodraeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a dyma ni’n gweld y polisi rhanbarthol hwnnw yn cael ei weithredu gan Lafur heb ei newid o gwbl, bron. Yr un hen stori sydd i'w gweld drwy gydol busnes Llywodraeth Cymru. Fe’i gwelsom ar y gronfa triniaethau newydd, pan oeddech yn honni yn y gorffennol na ellid ei wneud; fe’i gwelsom hefyd ar gontractau dim oriau—saith gwaith fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru ar gontractau dim oriau. Rydym wedi ei weld ar y dreth ystafell wely, lle mae eich diffyg gweithredu yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig lle mae pobl yn dal i orfod talu'r dreth ystafell wely. Mae pobl yng Nghymru yn haeddu Llywodraeth ystwyth sy'n cymryd camau pendant i ddatrys y problemau a’r anghyfiawnderau sy'n wynebu ein gwlad. Yn hytrach, mae ganddynt Lywodraeth sy'n cymryd blynyddoedd i weithredu, ac yn y blynyddoedd hynny pan nad oes camau wedi'u cymryd, mae pobl wedi bod ar eu colled.

Un o'r meysydd mwyaf hanfodol a fyddai'n helpu rhieni a theuluoedd sy'n gweithio yw’r cynnig gofal plant. A all y Prif Weinidog roi ateb credadwy i mi heddiw? Pam y bydd yn cymryd bron i dymor cyfan y Cynulliad i gael system gofal plant gweddus yn weithredol? Rydych yn addo gweithredu erbyn 2020. 2020. Sut y mae hynny'n helpu rhieni sydd â phlant nawr? Mae’r rhieni hynny yn wynebu tair blynedd arall o orfod talu cyfraddau wedi’u gorymestyn ac o drefnu gofal plant o gwmpas eu swyddi o dan system nad yw'n addas at ei diben. Yr un hen stori, y broblem yw diffyg uchelgais gan y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd. Mae'n siomedig ac mae ar ei hôl hi, a’r hyn y mae Cymru'n ei haeddu yw Llywodraeth sydd ar flaen y gad.

Felly, bydd Plaid Cymru yn astudio pob un o'r Biliau hyn yn fanwl. Byddwn yn cynnig gwelliannau a byddwn yn ceisio gwella’r hyn sydd ar y bwrdd. A phan fydd hynny'n digwydd, efallai y byddai'n syniad i Lywodraeth Lafur bleidleisio mewn gwirionedd o’n plaid ni pan maent yn meddwl fod gennym ni syniad da, yn hytrach na dweud dro ar ôl tro na ellir gwneud yr hyn yr ydym yn ei gynnig.

Ond ar wahân i’r materion domestig hynny, mae her ddeddfwriaethol ddifrifol arall yn gysgod dros y Cynulliad hwn, y senedd hon yn y dyfodol. Mae Bil diddymu mawr Llywodraeth y DU yn bygwth caniatáu i San Steffan gipio pŵer oddi arnom. Un o ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd yw y dylai pwerau a fframweithiau sy’n cael eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE ddychwelyd yn uniongyrchol i Gymru ac i'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Ond rydym yn gwybod o baragraff 4.2 o Bapur Gwyn y Bil diddymu mawr mai dim ond ymgynghori a wneir â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y fframweithiau hynny. Yn wir, rhagwelodd fy nghydweithiwr Simon Thomas hyn yn ymateb Plaid Cymru i ddatganiad deddfwriaethol y llynedd. Dywedodd bryd hynny, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ddeddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth amaethyddol. Gwnaeth hefyd godi'r mater o ddyfodol taliadau fferm yr UE, sy'n cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth. Mae’r polisi amaethyddol cyffredin yn dod o dan bedwar rheoliad sylfaenol ac mae Gweinidogion Cymru yn cael eu hawdurdodi i roi effaith i reoliadau’r PAC.

Ateb Plaid Cymru i’r her ddeddfwriaethol hon yw Bil parhad, a gynigiwyd gyntaf gan Steffan Lewis AC o Blaid Cymru fis Tachwedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r egwyddor hon, ond y cam nesaf yw gwneud iddo ddigwydd. Nodaf fod y Prif Weinidog yn dal Bil parhad yn ôl fel offeryn y gellid ei ddefnyddio os bydd Llywodraeth y DU yn torri ar ein pwerau datganoledig. Ond fe allai ac fe ddylai Bil parhad gael ei gyflwyno yn ddi-oed. Gellid ei weithredu fel mesur rhagweithiol i roi rhywfaint o drosoledd i Gymru. Mae'r Cynulliad hwn eisoes wedi cymeradwyo'r egwyddor. Gallai Bil parhad mewn ymateb i Lywodraeth y DU yn wir fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr. Felly, byddwn yn annog y Prif Weinidog i fod yn fwy pendant ar hyn; i fod yn gyflymach ac yn fwy ystwyth wrth ymateb i'r sefyllfa wleidyddol gymhleth yn y DU; i edrych eto ar y penderfyniad i ddal y Bil parhad yn ôl, ac yn awr, i ystyried ei gyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl.