Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 27 Mehefin 2017.
Cytunaf yn llwyr â'r ddau siaradwr blaenorol ar lawer o'r materion hyn. Hoffwn atgoffa Neil Hamilton, er nad ydym yn dyheu am gael lefelau Pwyleg, Rwsieg neu Ffinneg o yfed alcohol, rydym ni ymhlith y rhai sy’n yfed y lefelau uchaf o alcohol yn Ewrop. A byddwn yn ei wahodd i ddod i ganol dinas Caerdydd ar unrhyw nos Sadwrn, a bydd yn gweld canlyniadau’r bobl ifanc sy'n yfed lefelau gormodol o alcohol rhad, sef yr hyn y mae isafbris uned wedi ei gynllunio i gyfyngu arno. Oherwydd mae llawer iawn o waith ymchwil sy'n dangos mai drwy osod isafbris yr ydych yn atal y rhai sy'n lleiaf abl i ymdrin â chanlyniadau alcohol—. Mae gormod o bobl ifanc yng nghanol y ddinas yn yfed cymaint o alcohol rhad fel nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad o gwbl ble yn y byd y maent, neu’r canlyniadau, neu'r risg i'w diogelwch. Felly, rwy’n llwyr gefnogi deddfwriaeth y Llywodraeth yn hyn o beth, a chroesawaf y ffaith ein bod yn ei chyflwyno yn awr.
Roeddwn yn synnu i glywed Leanne Wood yn mynegi agwedd ‘gwydr hanner gwag’ tuag at bopeth, bron, yn y datganiad deddfwriaethol, o ystyried yr ymgynghorwyd â hi ar yr hyn a oedd ynddo o flaen llaw mae’n siwr. Ac, fel y dylai wybod, nid yw gofal plant yn ymwneud â chadw plant mewn warws; mae'n ymwneud â datblygu gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd, ac mae hynny’n cymryd amser, i sicrhau bod gennym y bobl gywir yn y cyfleusterau cywir, er budd plant.
Beth bynnag—. Yn amlwg, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, oherwydd ei fod yn berffaith amlwg i mi fod—. Roeddwn yn synnu o glywed Andrew R.T. Davies yn awgrymu bod hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Lloegr yn manteisio arno, gan fy mod eto i weld p’un a yw Llywodraeth gloff y DU yn mynd i allu cyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Ond beth bynnag, rwyf wrth fy modd ein bod yn bwrw ymlaen ar hynny, gan ei fod yn achosi llawer iawn o niwed i lawer o fy etholwyr—yr asiantaethau gosod tai sy'n codi symiau gwarthus yn aml am newid tri gair mewn contract.
Ond roeddwn hefyd eisiau codi un mater arall, sef: rydym yn sôn am dryloywder y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n cytuno bod hynny yn gwbl hanfodol. Ond, yng ngoleuni annigonolrwydd y rheoliadau adeiladu anweithredol ar hyn o bryd, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y tân brawychus yn Grenfell Tower, nid yw ond yn ymwneud â chaniatáu i gontractwyr osod ffaglau tân ar ochr adeiladau uchel, sydd i fod i wella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae'n rhaid i ni, yn fy marn i, ddod o hyd i amser i ddeddfu ar gyfer adolygiad cyffredinol o'r rheoliadau adeiladu, er mwyn atal datblygwyr rhag galw gwaith adeiladu gwael fel hyn yn ddatblygu moethus. Ac mae enghreifftiau di-rif o hynny yn fy etholaeth i, a thrwy ganol Caerdydd.
Mae'n rhaid i ni adfer pwerau rheoleiddio annibynnol awdurdodau lleol i fynnu bod eu harolygwyr adeiladu annibynnol yn cymeradwyo adeiladau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio, cyn bod y gwaith yn cael ei orchuddio â phlastr. Gan ei bod yn amhosibl gweld beth sydd wedi digwydd y tu ôl iddo, unwaith y bydd y plastr wedi'i selio. Mae'n rhaid i ni roi terfyn ar adeiladau sâl yn cael eu creu er mwyn elw, a sicrhau bod yr adeiladau yr ydym yn eu creu gyda'n hadnoddau cyfyngedig yn addas ar gyfer y dyfodol, ac nid yn unig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.