Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 27 Mehefin 2017.
Cyn i mi ymateb i'r rhaglen ddeddfwriaethol go iawn, a gaf i godi un pwynt a wnaeth Simon Thomas am y mater o blastig a phlastigau yn yr amgylchedd morol, hefyd? Er nad yw'n ymddangos yma, rwy’n amau bod hwn yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato, ac efallai y gwnaf awgrymu ar ddiwedd fy nghwestiwn byr i'r Prif Weinidog ymhle y gellid gwneud hynny mewn gwirionedd hefyd. Ond ni fyddwn yn poeni’n ormodol am yr honiadau o déjà vu neu ailadrodd ein hunain neu beth bynnag. Dyma’r un hen stori: rydych yn dweud wrth bobl beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud, rydych yn ei wneud, ac yna rydych yn dweud wrthynt wedyn eich bod chi wedi gwneud hynny iddyn nhw. Gwnaethom gynhyrchu maniffesto. Rydym yn bwrw ymlaen â'r maniffesto. Byddwn yn ei gyflwyno, a bydd pobl yn diolch i ni am wneud hynny hefyd, ac un o’r pethau pwysicaf, mae’n rhaid i mi ddweud, yw datblygu cynigion sydd yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon ar ofal plant. Dyma, fel y mae Julie Morgan ac eraill wedi dweud, yw’r pecyn gofal plant mwyaf uchelgeisiol, a bydd unrhyw beth, yn arbennig y cynigion sydd yma, sy’n ei gwneud yn haws i bobl o ran cofrestru, ac yn gliriach o ran y cofrestru hefyd, yn cael croeso, yn ogystal, mae’n rhaid i mi ddweud, â'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Nid ydym yn mynd i orfod aros tan 2020 ar gyfer hyn. Bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol. Felly, bydd manteision bob blwyddyn wrth inni symud ymlaen. Rwy’n croesawu hynny.
Ar isafbris uned ar gyfer alcohol, ydi, mae hwn yn fater anodd, ydi mae'n fater dadleuol, ond mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn union y math o bolisi blaengar y dylai'r Cynulliad hwn fod yn edrych arno. Ac nid yw’n ymwneud â gwneud alcohol yn rhy ddrud i bobl. Ni allwn fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn, ac yn sicr, ni allaf i fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn. Dydw i ddim yn mynd i wisgo llodrau pen-glin a het ddu uchel a dweud 'Rwyf nawr yn ymuno â'r mudiad dirwest’—er mae’n rhaid i mi ddweud bod fy hen gangen o’r Blaid Lafur yn arfer cyfarfod yn Neuadd y Rechabiaid yn Nhre-gŵyr, un o ragflaenwyr y mudiad dirwest. Nid oeddent i gyd yn bobl dirwest eu hunain, mae’n rhaid i mi ddweud, ymhlith y bobl Blaid Lafur hynny. Ond dyma’r peth iawn i'w wneud, oherwydd, unwaith eto, mae'n rhan o ddangos beth yw defnydd cyfrifol o alcohol. Dyw hi ddim yn dweud wrth bobl 'Peidiwch ag yfed, peidiwch â chael diod, a pheidiwch â dathlu'. Nid dyna beth yw hi, ond yn hytrach mae'n ymwneud â rheoli alcohol yn rhan o ffordd o fyw, gan nad yw’n ymwneud â’r unigolyn yn unig. Mae’n ymwneud hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud wrth Neil ac eraill, ag effeithiau hyn nid yn unig ar iechyd unigolion ond ar y costau i'r GIG hefyd. Ac rwy’n gwybod y bydd yn cydnabod hynny. Dyw hi ddim yn fater o un, dau neu dri pheint y dydd; ond mae’n fater o pan fod hynny’n rhywbeth sy’n digwydd yn rheolaidd, ac mae hynny’n ychwanegu at faterion marwolaeth ac yn y blaen. Rwy’n gweld hynny yn fy etholaeth i.
Rwy'n croesawu'n fawr y ddeddfwriaeth ar fwy o gydweithredu ac effeithlonrwydd mewn llywodraeth leol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd ar ochr chwith y Prif Weinidog, ac mae'n cydweddu â llif a’r ffordd o feddwl am lywodraeth leol yng Nghymru yn awr, sef sbarduno mwy o effeithlonrwydd a sbarduno mwy o gydweithio. Ond mae rhoi’r hwb yna iddo, rhoi’r sbardun hwnnw iddo, rwy’n meddwl bod hynny i'w groesawu, ac y bydd yn cael ei groesawu gan y grymoedd blaengar hynny o fewn llywodraeth leol yng Nghymru hefyd.
Croesawaf y ffaith bod y Prif Weinidog yn y datganiad yn talu sylw i'r Bil parhad. Ni fyddaf yn mynd i fanylion pwy wnaeth ei grybwyll yn gyntaf ac yn y blaen ac yn y blaen, ond rwy’n deall pam nad yw'n cael ei baratoi fel Bil ynddo'i hun. Ond rwy’n croesawu'r ffaith ei fod wedi ei grybwyll, oherwydd credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn gobeithio na fyddai'n rhaid paratoi Bil parhad ac na fyddai'n rhaid ei ddefnyddio. Ond, fel rhywbeth wrth gefn, mae’n rhaid i mi ddweud—fel ffon fawr sy'n cael ei chario y tu ôl i'ch cefn—credaf fod angen iddo fod yn gwbl glir i Lywodraeth y DU pe baent yn mynd yn rhy bell yma, a’n bod yn gweld difrod i'r setliad datganoli oherwydd diffyg parch, anwybodaeth, neu beth bynnag, yna rwy’n credu bod angen i ni gael y bwriad hwnnw o fewn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth sifil.
Ond y peth yr hoffwn ei weld yn cael ei ddwyn ymlaen—ac mae'n gais cynnar, os mynnwch chi, ac mae'n dod yn ôl at y mater hwn o gwmpas y plastigau—. Yr wythnos diwethaf, dechreuodd ymgynghoriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Yr enw arno yw 'Symud Cymru ymlaen’ rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy '. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth o'r fath yng Nghymru ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig mewn deddfwriaeth, ond mewn polisi arloesol hefyd. Mae’r ymgynghoriad hwnnw yn delio â materion fel mynediad at yr awyr agored. Nid oes dim yn fwy gwleidyddol na mynediad at yr awyr agored. Cymryd cam o flaen ein gilydd yn awyr agored cefn gwlad yw'r weithred fwyaf gwleidyddol erioed, byth ers tresmasu Kinder Scout. Mae hwnnw yn ddarn diddorol o waith, ac rwy’n credu, os byddwn yn ei ddwyn yn ei flaen, y bydd angen slot deddfwriaethol ar ryw adeg, pa bynnag ffurf y bydd yn ei chymryd.
Mae pethau yno hefyd sy’n ymwneud â thynnu dŵr—mater hollbwysig, fel y gwyddom—a draenio, a gwastraff mewn polisi amgylcheddol. Ond fy hoff rai i, yn bennaf oll, yw cosbau dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990—y gallu i fynd i'r afael â gweithredwyr ffug nad ydynt yn trin gwastraff y ffordd y dylent, sy'n ei ddympio yn anghyfreithlon, nad ydynt yn gofalu amdano, a lle maent yn ei ddympio, ac yn y blaen ac yn y blaen. Y gallu ydyw i gamu i mewn fel Llywodraeth ac i roi grym i'r Ddeddf honno a dweud 'Rydym yn mynd i osod cloeon clap, rydym yn mynd i’ch atal rhag gwneud hynny.' Felly, fy nghais i fyddai, os cawn ni’r cyfle yn y dyfodol agos, ynghyd â'r ddeddfwriaeth ar blastigau, a ellid o bosibl ei phlethu i mewn i'r ymgynghoriad rywsut—gadewch i ni edrych am y slot ar gyfer hynny yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol.