Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod, o’m datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, bod y Cabinet wedi cwrdd y bore yma i ystyried penderfyniad ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwarant ariannol i brosiect Cylchdaith Cymru yng Nglyn Ebwy. Rydym wedi bod yn gweithio er mwyn cefnogi datblygiad y prosiect hwn am gyfnod sylweddol o amser, o ran yr agwedd ariannol a'r amser a roddwyd hefyd gan Lywodraeth Cymru i'r rhai oedd y tu cefn i'r prosiect. Rwy'n hyderus fod yr adnoddau yr ydym wedi eu neilltuo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn gwbl gyfiawn o ystyried prosiect mor uchelgeisiol â hwn. Ar yr un pryd, rydym bob amser wedi bod yn eglur iawn fod yn rhaid i unrhyw warantau ariannol a'r risgiau a gymerir gan y sector cyhoeddus fod yn gymesur ac yn deg.
Yn fyr iawn, byddaf yn crynhoi’r digwyddiadau dros y 12 mis diwethaf er budd yr Aelodau. Ym mis Gorffennaf y llynedd dywedais wrth y cwmni y buaswn yn disgwyl gweld y sector preifat yn ariannu o leiaf 50 y cant o'r prosiect ac yn ymgymryd â 50 y cant o risg ariannol y prosiect, a bod y prosiect yn ei gyfanrwydd yn rhoi gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a phwrs y wlad.
Ym mis Chwefror, cyflwynodd y datblygwyr gynnig newydd i Lywodraeth Cymru. Dilynwyd hyn gan gais ffurfiol ym mis Ebrill, yn gofyn am warantu benthyciad o £210 miliwn. Mae diwydrwydd dyladwy helaeth a manwl gan arbenigwyr allanol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos, oherwydd y ffordd y mae'r cytundeb wedi ei strwythuro, y byddai’r cynnig presennol yn gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy na 50 y cant o'r risg. Mae hynny oherwydd y byddai’r elfen warant o £210 miliwn yn cario risg uwch na rhannau eraill y pecyn ariannol. O ganlyniad, yn dilyn trafodaethau â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, asesir bod risg sylweddol iawn y byddai dyled lawn £373 miliwn prosiect cyfan Cylchdaith Cymru yn cael ei dosbarthu fel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Dros y tair blynedd nesaf, byddai hyn yn cael yr un effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ag y byddem eisoes wedi gwario'r arian, a byddai'n cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i gyflawni prosiectau ar hyn o bryd ac i’r dyfodol i wella seilwaith, tai, ysbytai neu ysgolion Cymru. Penderfynodd y Cabinet, gan hynny, heddiw fod dylanwad posibl y cynnig presennol ger eu bron ar gyllid cyhoeddus yn rhy fawr, ac o’r herwydd ni allwn gynnig y warant ariannol y gofynnwyd amdani ar gyfer y cynnig hwn.
Rwyf i yn cydnabod y bydd llawer yng Nglyn Ebwy ac ar draws y de yn cael eu siomi gan ein penderfyniad, yn arbennig gan fod y cwmni wedi codi gobeithion mawr iawn o ran y swyddi fyddai'n cael eu creu. Hefyd, roedd llawer wedi seilio’u gobeithion ar y manteision economaidd ehangach fyddai’n dod i Gymoedd y de yn sgil y prosiect hwn, yn enwedig Blaenau'r Cymoedd ehangach. Gwnaeth y diwydrwydd dyladwy hi’n glir y byddai’r prif fudd i'r economi leol, a'r rhan fwyaf o’r swyddi newydd, yn cael eu creu, nid yn y gylchdaith ei hunan, ond gan fusnesau ar wahân, yn enwedig yn y sectorau peirianyddol a modurol, wedi eu clystyru yn y lleoliad fel rhan o barc technoleg arfaethedig i ddilyn rywbryd eto. Byddai’r cyfanswm, yn y gylchdaith a'r parc technoleg, yn ôl diwydrwydd dyladwy, yn debygol o fod yn llai o lawer na'r ffigwr o 6,000 o swyddi. Ar sail ein profiadau blaenorol, rydym hefyd yn amau ei bod yn debyg y gallai'r cynnig am barc technoleg olygu cryn dipyn o arian cyhoeddus ychwanegol.
Gan gydnabod potensial economaidd y math hwn o ddatblygiad, a'r ffaith fod pobl Blaenau Gwent, a'r Cymoedd ehangach, wedi disgwyl yn ddigon hir am y swyddi a addawyd, cytunodd y Cabinet y bore yma i symud ymlaen gyda phrosiect newydd ac arwyddocaol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adeiladu parc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, gyda chyllid o £100 miliwn dros 10 mlynedd, gyda'r potensial i gefnogi 1,500 o swyddi llawnamser newydd a bod yn gatalydd i dwf economaidd ledled Cymoedd y de. Byddwn yn dechrau’r prosiect annibynnol hwn drwy gyflwyno 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus. Yn ogystal â hynny, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i archwilio’r posibilrwydd o leoli depo i fetro’r de ym mharth menter Glyn Ebwy, a chyflwyno rhaglenni i gefnogi cyflogwyr newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ym Mlaenau Gwent wrth ddatblygu sgiliau yn y gweithlu lleol.