– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 27 Mehefin 2017.
Gan hynny, symudwn i eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar Gylchdaith Cymru. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod, o’m datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, bod y Cabinet wedi cwrdd y bore yma i ystyried penderfyniad ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwarant ariannol i brosiect Cylchdaith Cymru yng Nglyn Ebwy. Rydym wedi bod yn gweithio er mwyn cefnogi datblygiad y prosiect hwn am gyfnod sylweddol o amser, o ran yr agwedd ariannol a'r amser a roddwyd hefyd gan Lywodraeth Cymru i'r rhai oedd y tu cefn i'r prosiect. Rwy'n hyderus fod yr adnoddau yr ydym wedi eu neilltuo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn gwbl gyfiawn o ystyried prosiect mor uchelgeisiol â hwn. Ar yr un pryd, rydym bob amser wedi bod yn eglur iawn fod yn rhaid i unrhyw warantau ariannol a'r risgiau a gymerir gan y sector cyhoeddus fod yn gymesur ac yn deg.
Yn fyr iawn, byddaf yn crynhoi’r digwyddiadau dros y 12 mis diwethaf er budd yr Aelodau. Ym mis Gorffennaf y llynedd dywedais wrth y cwmni y buaswn yn disgwyl gweld y sector preifat yn ariannu o leiaf 50 y cant o'r prosiect ac yn ymgymryd â 50 y cant o risg ariannol y prosiect, a bod y prosiect yn ei gyfanrwydd yn rhoi gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a phwrs y wlad.
Ym mis Chwefror, cyflwynodd y datblygwyr gynnig newydd i Lywodraeth Cymru. Dilynwyd hyn gan gais ffurfiol ym mis Ebrill, yn gofyn am warantu benthyciad o £210 miliwn. Mae diwydrwydd dyladwy helaeth a manwl gan arbenigwyr allanol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos, oherwydd y ffordd y mae'r cytundeb wedi ei strwythuro, y byddai’r cynnig presennol yn gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy na 50 y cant o'r risg. Mae hynny oherwydd y byddai’r elfen warant o £210 miliwn yn cario risg uwch na rhannau eraill y pecyn ariannol. O ganlyniad, yn dilyn trafodaethau â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, asesir bod risg sylweddol iawn y byddai dyled lawn £373 miliwn prosiect cyfan Cylchdaith Cymru yn cael ei dosbarthu fel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Dros y tair blynedd nesaf, byddai hyn yn cael yr un effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ag y byddem eisoes wedi gwario'r arian, a byddai'n cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i gyflawni prosiectau ar hyn o bryd ac i’r dyfodol i wella seilwaith, tai, ysbytai neu ysgolion Cymru. Penderfynodd y Cabinet, gan hynny, heddiw fod dylanwad posibl y cynnig presennol ger eu bron ar gyllid cyhoeddus yn rhy fawr, ac o’r herwydd ni allwn gynnig y warant ariannol y gofynnwyd amdani ar gyfer y cynnig hwn.
Rwyf i yn cydnabod y bydd llawer yng Nglyn Ebwy ac ar draws y de yn cael eu siomi gan ein penderfyniad, yn arbennig gan fod y cwmni wedi codi gobeithion mawr iawn o ran y swyddi fyddai'n cael eu creu. Hefyd, roedd llawer wedi seilio’u gobeithion ar y manteision economaidd ehangach fyddai’n dod i Gymoedd y de yn sgil y prosiect hwn, yn enwedig Blaenau'r Cymoedd ehangach. Gwnaeth y diwydrwydd dyladwy hi’n glir y byddai’r prif fudd i'r economi leol, a'r rhan fwyaf o’r swyddi newydd, yn cael eu creu, nid yn y gylchdaith ei hunan, ond gan fusnesau ar wahân, yn enwedig yn y sectorau peirianyddol a modurol, wedi eu clystyru yn y lleoliad fel rhan o barc technoleg arfaethedig i ddilyn rywbryd eto. Byddai’r cyfanswm, yn y gylchdaith a'r parc technoleg, yn ôl diwydrwydd dyladwy, yn debygol o fod yn llai o lawer na'r ffigwr o 6,000 o swyddi. Ar sail ein profiadau blaenorol, rydym hefyd yn amau ei bod yn debyg y gallai'r cynnig am barc technoleg olygu cryn dipyn o arian cyhoeddus ychwanegol.
Gan gydnabod potensial economaidd y math hwn o ddatblygiad, a'r ffaith fod pobl Blaenau Gwent, a'r Cymoedd ehangach, wedi disgwyl yn ddigon hir am y swyddi a addawyd, cytunodd y Cabinet y bore yma i symud ymlaen gyda phrosiect newydd ac arwyddocaol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adeiladu parc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, gyda chyllid o £100 miliwn dros 10 mlynedd, gyda'r potensial i gefnogi 1,500 o swyddi llawnamser newydd a bod yn gatalydd i dwf economaidd ledled Cymoedd y de. Byddwn yn dechrau’r prosiect annibynnol hwn drwy gyflwyno 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus. Yn ogystal â hynny, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i archwilio’r posibilrwydd o leoli depo i fetro’r de ym mharth menter Glyn Ebwy, a chyflwyno rhaglenni i gefnogi cyflogwyr newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ym Mlaenau Gwent wrth ddatblygu sgiliau yn y gweithlu lleol.
Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â phenderfyniadau anodd, ac nid oedd penderfyniad heddiw o ran Cylchdaith Cymru yn eithriad. Nid peth dibwys yw effaith y penderfyniad hwn yn fy ngolwg i, nac yng ngolwg fy nghydweithwyr yn y Cabinet. Rydym wedi gwneud pob ymdrech deg i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Serch hynny, mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau cywir, a sicrhau bod y buddsoddiad cywir yn dod i Flaenau Gwent a Chymoedd y de yn ehangach—buddsoddi sy'n gynaliadwy, yn hirdymor ac o fudd gwirioneddol i gymunedau lleol. Fy nymuniad i yw bod y mentrau newydd hyn yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo modd er mwyn pobl Glynebwy a Chymoedd y de.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Bydd penderfyniad heddiw i wrthod Cylchdaith Cymru yn siomi pobl Blaenau Gwent, mae’n amlwg. Peth hynod siomedig, yn fy marn i, yw ei bod wedi cymryd chwe blynedd a mwy na £9 miliwn o arian cyhoeddus i Ysgrifennydd y Cabinet wrthod y prosiect hwn, a allasai, wrth gwrs, fod yn un o’r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol yng Nghymoedd y de ag a welwyd erioed. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth. Yn sicr, byddai buddsoddiad ar y raddfa honno wedi datgan bod Cymru ar agor i fusnes, gan fuddsoddi mewn ardal o Gymru lle mae’r angen yn fawr am fewnfuddsoddiad. Felly mae hyn, wrth gwrs, yn ergyd ofnadwy i'r rhanbarth.
Yr hyn sy'n ddryslyd yw'r datgysylltu, yn fy marn i, rhwng datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a’r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gan uwch was sifil yn yr adran oedd yn honni bod yr arian a wariwyd hyd yma ar Gylchdaith Cymru wedi cynrychioli gwerth da am arian ac yn golygu prosiect sylweddol sy'n barod i'w gyflwyno. Ni all y ddau ohonoch chi fod yn gywir yn hynny o beth, felly a gaf i ofyn i chi am eich barn ar hynny yn benodol?
Yn ail, yn eich datganiad rydych yn awgrymu bod yna risg y byddai dyled lawn y prosiect cyfan yn cael ei dosbarthu yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru. Ond mae cyngor a gafwyd gan y cwmni sydd â swyddogaeth i roi cyngor ar y fantolen wedi awgrymu mai pecyn o arian fyddai hwn wedi ei ategu gan ryw fath newydd o gymorth yn seiliedig ar risg, ar ffurf gwarant gan y Llywodraeth. Felly, yr hyn y byddwn i yn ei ofyn yw—. Ac na fyddai unrhyw fenthyca ychwanegol o du’r Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rai sylwadau ar hynny.
Fy nealltwriaeth i oedd y byddai'r prosiect yn cael ei ddosbarthu i’r sector preifat oherwydd na fyddai gan Lywodraeth Cymru ddigon o ddylanwad dros Gylchdaith Cymru i’w alw yn gorff cyhoeddus, ac na fyddai’n rhoi digon o gefnogaeth ariannol iddo fod wedi ei ariannu’n gyhoeddus, oherwydd byddai cyfanswm cefnogaeth y sector cyhoeddus wedi cynnwys tua 50 y cant o'r cyllid cyffredinol. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe gallech roi rhagor o fanylion am y rheswm pam y daeth y Trysorlys a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gasgliad gwahanol ac awgrymu y byddai'n cael ei ddosbarthu yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.
A gaf i ofyn pa fwriad sydd gan Lywodraeth Cymru i adennill yr arian sydd wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau sydd wedi eu cysylltu yn uniongyrchol â'r cwmni daliannol? Roedd y prosiect yn amcangyfrif y byddai 6,000 o swyddi llaw amser yn cael eu creu, mewn meysydd sy'n amrywio o waith ymchwil a datblygu i letygarwch, gyda 3,000 o swyddi adeiladu ar ben hynny. A gaf i ofyn pam yr ydych yn teimlo bod yr asesiad mor bell oddi wrth y marc? Beth yw eich asesiad o ganlyniadau’r gwrthodiad hwn ar yr hyder fydd gan fuddsoddwyr preifat wrth fuddsoddi yng Nghymru yn gyffredinol yn y dyfodol?
Rhoddaf un enghraifft yn y fan hon: mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eisoes y bydd y gyfres nesaf o gerbydau TVR yn cael ei hadeiladu yng Nghymru, ac roedd disgwyl i'r safle yng Nghymru gael ei gyhoeddi yn fuan. O ystyried fod hyn wedi cael ei fwriadu i fod yn brif gonglfaen safle gweithgynhyrchu datblygiad Cylchdaith Cymru, a wnewch chi gadarnhau na fydd y cyhoeddiad heddiw yn effeithio ar hynny? Y rheswm yr wyf yn gofyn hynny yw fod llefarydd TVR yn gwrthod cadarnhau ar hyn o bryd y bydd y cerbyd hwn yn cael ei adeiladu yng Nghymru o gwbl. Felly, a wnewch chi gadarnhau y bydd y prosiect yn mynd rhagddo yma yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gyda TVR am leoli yma yn y datblygiad modurol newydd a gyhoeddwyd gennych chi heddiw? Mae'n rhaid i mi ddweud y bydd y penderfyniad hwn—gobeithio na fydd hi felly, ond rwy'n credu y bydd o bosibl yn bygwth cyfleoedd i fewnfuddsoddi ac o bosibl yn andwyo hyder yn economi Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cael ei brofi’n anghywir.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y bydd siom, ar ôl bron saith blynedd, na fydd y prosiect hwn yn gallu bwrw ymlaen. O ran y cwestiynau ynghylch pam mae hyn wedi cymryd cymaint o amser, dylai hynny gael ei gyfeirio yn rhannol at y cwmni datblygu. O'n rhan ni ein hunain, rydym ar bob achlysur wedi ceisio sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Fe aeth drwy nifer o ffurfiau o ran y model busnes, ac rydym ar bob achlysur wedi gweithio gyda'r datblygwyr mewn ymgais i gyflawni dros bobl Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn ehangach.
Ond rwy’n credu ein bod ni mewn sefyllfa wybodus, o ganlyniad i waith sylweddol sydd wedi ei wneud nid yn unig trwy ddiwydrwydd dyladwy ond cyn hynny, i allu bwrw ymlaen ag ail gam cynnig Cylchdaith Cymru, sef y parc technoleg. Rydym bellach yn meddu ar ddeallusrwydd sylweddol am y galw am barc technoleg ym Mlaenau Gwent a'r angen i ni gefnogi’r hyn sydd eisoes yn sector cryf haen 2 yn y diwydiant modurol. Un o'r ffactorau sylfaenol sydd, hyd yma, wedi atal buddsoddwyr rhag lleoli nid yn unig yn y Cymoedd, ond mewn sawl rhan o Gymru, yw'r diffyg lle diwydiannol sydd ar gael i ddatblygu a chynhyrchu eu nwyddau. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng y cynnig ar gyfer y trac a'r cynnig ar gyfer y parc technoleg yn gyfystyr â channoedd o swyddi llawnamser, cynaliadwy. Rwyf wedi bod yn glir iawn na fydd y byd yn aros i Gymru ddatblygu technolegau modurol uwchraddol. Mae angen i ni arwain y byd, ac mae Blaenau Gwent wedi bod yn disgwyl yn ddigon hir. Pe baem yn aros am gyflwyniad cam 2 gan y cwmni datblygu, byddem o bosib yn cael ein gadael ar ôl o ran cerbydau ymreolaethol a cherbydau trydan. Mae angen i ni symud nawr, a gallai Blaenau Gwent fod yn ganolfan ragoriaeth ym Mhrydain ar gyfer technoleg newydd yn y sector modurol.
Mae’r Aelod yn iawn i ofyn am dystiolaeth a roddwyd gan y dirprwy ysgrifennydd parhaol, a buaswn yn rhybuddio unrhyw Aelodau rhag enwi gweision sifil nad ydynt yn gallu ymateb yn bersonol yn y Siambr hon. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod y dirprwy ysgrifennydd parhaol yn iawn yn y dystiolaeth a roddodd. Ar adeg neilltuo ein cyllid cychwynnol, cynnig y datblygwr oedd i’r prosiect gael ei ariannu'n llawn gan y sector preifat, ond roedd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ei gamau cynnar ac i’w gychwyn ar ei daith. Rydym hefyd—o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i diwydrwydd dyladwy a'r prosiect—wedi gallu bwrw ymlaen â'r cynigion ar gyfer y parc technoleg.
O ran y cwestiwn o’r ddyled ar y fantolen, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol na allwch gael ateb pendant nes y bydd yr holl gontractau yn cael eu llofnodi. Ac wedyn hyd yn oed, gall gymryd misoedd lawer. Yn ei hanfod, byddai symud ymlaen gyda phenderfyniad ar sail risg uchel iawn iddo fod ar y fantolen yn beryglus—peryglus i Drysorlys Cymru a pheryglus i'r trethdalwr ac arian cyhoeddus, oherwydd fe allai, ymhen rhai misoedd, arwain at Lywodraeth Cymru yn gorfod canslo prosiectau adeiladu â chyfalaf cyfredol. Byddwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi £157 miliwn o brosiectau ledled Cymru ar hyn o bryd y gellid eu rhwystro o ganlyniad i'r prosiect hwn.
O ran benthyca ychwanegol, byddai’n rhaid i’r angen am fenthyca ychwanegol fod o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, ond mae hynny yn rhywbeth sydd i’w drafod gyda Llywodraeth y DU. Bydd adfachu buddsoddiad ac unrhyw arian sydd eisoes wedi'i ymrwymo i'r prosiect , wrth gwrs, yn dibynnu ar ddyfodol cwmni datblygu Blaenau'r Cymoedd, ond, wrth gwrs, rydym yn edrych ar hynny.
O ran amcangyfrif y swyddi oedd i'w creu gan y cynnig, rwyf wedi clywed Aelodau yn y Siambr yn defnyddio, ar sawl achlysur, y ffigur o 6,000 o swyddi. Er bod y ffigur hwnnw i’w weld ar wefan Cylchdaith Cymru, mae'n rhif na chafodd ei adlewyrchu mewn diwydrwydd dyladwy ac, yn wir, canfu diwydrwydd dyladwy fod nifer tebygol y swyddi i'w creu mewn gwirionedd gryn dipyn yn is na hynny. Rwy'n credu hefyd fod angen cydnabod bodolaeth dau wahanol gam i'r prosiect, a fyddai’n cynhyrchu dau wahanol ffigur o ran y swyddi fyddai’n cael eu creu. Byddai'r cam cyntaf yn creu llawer llai o swyddi parhaol na'r ail gam. Dyna pam rwyf yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu’r ail gam nawr yn hytrach na rywbryd eto. O ran datblygu parc technoleg, rydym eisoes yn ymgysylltu â'r diwydiant, gyda rhanddeiliaid. Byddaf yn galw cyfarfod o arbenigwyr a rhanddeiliaid o'r ardal cyn gynted ag y bo modd—yr wythnos nesaf, rwy'n gobeithio. Rydym wedi siarad â TVR, ag Aston Martin Lagonda ac â Jaguar Land Rover: mae pob un ohonynt yn cadarnhau nad yw'r trac yn elfen hanfodol o ddatblygiad yng Nghymru. Cyn belled ag y mae TVR yn y cwestiwn, rydym yn edrych ymlaen at eu cynnyrch newydd sydd i’w lansio yn yr hydref a'i weithgynhyrchu yma yng Nghymru.
Ar amrantiad, heddiw rydym wedi mynd o fod yn lleoliad Cylchdaith Cymru y dyfodol i fod yn lleoliad bythol syrcas Cymru. Rydym bellach yn gyff gwawd yn rhyngwladol o ganlyniad i'r amaturiaeth ffals a ddangoswyd gan y Llywodraeth. Nawr, mae’n rhaid y daw dydd o brysur bwyso, yn anffodus, oherwydd y camgymeriadau a wnaed, ond heddiw gadewch i ni ganolbwyntio ar y cwestiynau.
A all ddweud pryd y cafodd ei hysbysu am y tro cyntaf y byddai Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy na 50 y cant o'r risg, a phryd y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Trysorlys wrtho fod hynny’n golygu y byddai'r prosiect ar y fantolen? A yw'n ymwybodol fod un o'r swyddogion uchaf sy'n rhan o'r prosiect wedi ysgrifennu at Aviva ar 14 o fis Mehefin a’i fop wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, ‘Y newyddion da yw, ar hyn o bryd, nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth i rwystro’r sioe’? A ydym i gredu mewn gwirionedd nad oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o fater y fantolen ar 14 o fis Mehefin, ond daeth hynny’n rhwystr o’r rhwystrau ddim ond 13 diwrnod ar ôl hynny? Naill ai eich bod wedi ei gadael hi tan y funud olaf un ar ôl trafod am chwe blynedd a gwario £50 miliwn, gan gynnwys £9 miliwn a mwy o arian cyhoeddus—ac os felly dyma'r achos mwyaf difrifol o esgeulustod yn hanes truenus y Llywodraeth hon—neu roeddech chi yn gwybod, ac os felly cafodd Aviva eu camarwain. Yn ôl un e-bost sydd gennyf oddi wrth Aviva, nid hwn oedd y tro cyntaf, gan eu bod yn honni nad yw’r datganiad a wnaed pan gafwyd y gwrthodiad cyntaf ym mis Ebrill 2016, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu’r gwir ffeithiau. Os yw hynny'n wir, bydd hynny nid yn unig yn golygu’r canlyniadau gwleidyddol mwyaf difrifol, ond hefyd rai cyfreithiol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa ddarpariaeth a wnaeth ef ar gyfer unrhyw daliadau neu gostau cyfreithiol a all ddeillio o unrhyw ymgyfreitha sy'n debygol o gael ei ddwyn gan y partneriaid?
O ran ffigur y swyddi, a wnaiff ddweud beth oedd ffigur y swyddi a roddodd y cwmni yn ei gyflwyniad? Oherwydd mewn datganiad y prynhawn yma, maen nhw’n dweud nad 6,000 oedd y ffigur, fel y mae ef yn ei honni yn ei ddatganiad. Beth bynnag yw’r ffigur hwnnw— [Torri ar draws.] Wel, rwyf yn gofyn iddo a all ymateb i'r datganiad y maen nhw wedi ei wneud y prynhawn yma. Beth bynnag yw'r ffigur hwnnw, rydych yn dweud yn eich datganiad bod eich diwydrwydd dyladwy eich hun wedi dod i ffigur gwahanol ar gyfer cyfanswm cyfunol rhwng y gylchdaith a'r parc technoleg. A wnewch chi ddweud beth yw'r ffigur hwnnw? Ac a wnaiff ef yn awr gyhoeddi'r diwydrwydd dyladwy allanol fel y gofynnwyd gan y gwrthbleidiau, i ni gael gweld ffeithiau llawn yr achos?
Yn olaf, dywedodd ei fod wedi gwneud pob ymdrech yn yr achos hwn. A gysylltodd mewn gwirionedd â'r buddsoddwyr, Aviva, FCC—y cwmni adeiladu—a Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd pan nodwyd y broblem hon, er mwyn ceisio datrys hyn? Dyna beth fyddwn i yn ei alw'n ymdrech deg i weithredu'r prosiect hwn a'i botensial.
Yn olaf, ar fater TVR, mae TVR wedi dweud,
Cafodd safle’r ffatri arfaethedig yr ydym wedi ei ddewis ar gyfer TVR yng Nglynebwy ei ddylanwadu'n gryf gan leoliad dichonadwy prosiect Cylchdaith Cymru.
Mae hynny mewn llythyr ato ef. A wnaiff ddweud yn bendant heddiw y bydd TVR yn cael ei leoli, nid yng Nghymru, ond yng Nglyn Ebwy? Ac os na all, a fyddwch yn ymddiswyddo?
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau, fel y dywedais yn fy nghyfraniad wrth Russell George, ein bod wedi siarad â TVR, Aston Martin Lagonda, Jaguar Land Rover a rhanddeiliaid eraill. Cyn belled ag y bo TVR yn y cwestiwn, mae cynlluniau yn dal i fod yno i adeiladu'r cerbyd gyda lansiad yn yr hydref eleni, a’i adeiladu ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gweithio'n hynod o agos, nid yn unig â TVR, ond â'r gadwyn gyflenwi i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf o'r cynnyrch newydd hwnnw, a fydd yn cael ei adeiladu gyda balchder ym Mlaenau Gwent. Byddwn yn parhau i gefnogi TVR, Aston Martin, Toyota, Ford a phob rhan arall o'r sector modurol yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod yn wirion ystyried y gallech gymeradwyo prosiect heb gael diwydrwydd dyladwy trylwyr, sef yr hyn y mae’r Aelod wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i’w wneud ers yr haf llynedd. Rwy'n credu ei bod yn wirion, oherwydd mai dim ond drwy'r broses diwydrwydd dyladwy yr oeddem ni’n gallu mynd at SYG a Thrysorlys Ei Mawrhydi ac yn gallu asesu'r risg yn ôl y ffordd y mae'n cael ei bwysoli a'r tebygolrwydd ei fod â chydbwysedd iddo.
O ran y nodyn y sonia amdano sy’n ymwneud ag Aviva, a'r ffordd nad oedd yn ymddangos, ar hyn o bryd, bod unrhyw rwystrau i’r sioe, wel, holl ddiben diwydrwydd dyladwy yw eich bod yn diosg yr holl bethau sy'n ymddangosiadol wir a dod mewn gwirionedd at y ffeithiau ac yna caiff y ffeithiau eu harchwilio yn unol â hynny. Gwn fod yr Aelod wedi bod yn brysur iawn yn trydar heddiw am y cyhuddiadau cyfreithiol. Gallaf ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn atebol am y costau a fu ar unrhyw un o'r partïon eraill wrth ddatblygu'r prosiect ac nid ydym yn rhagweld unrhyw hawliadau am gostau yn cael eu gwneud.
Mae fy swyddogion i wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd—cyfarfodydd wythnosol—i sicrhau bod pob cyfle wedi ei roi i wneud y prosiect hwn yn ymarferol. Rwy’n credu, er bod hyn wedi bod yn brawf ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae hefyd wedi bod yn brawf ar y sefydliad hwn. Ac mae'n bwysig bod pob Aelod yn craffu ar bob cynnig sy'n cael ei roi ar ddesg. Ac rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol, wrth symud ymlaen, fod yr Aelodau yn gwneud hynny.
Wel, ni ellir cael gwell darlun o law farw’r Llywodraeth na’r penderfyniad hwn heddiw. Mae'r cyferbyniad yn addysgiadol iawn rhwng yr hyn sy'n digwydd awr o daith o Gaerdydd ar hyd yr M4 gan James Dyson yn creu parc technoleg rhyngwladol, sydd yn mynd i gostio rhwng £2 biliwn a £3 biliwn, a’n methiant llwyr ni i allu bod yn llawforwyn i gyllid preifat ar gyfer yr hyn a fyddai fel arall wedi bod yn brosiect trawsnewidiol yng Nglyn Ebwy—sydd angen, dyn a ŵyr, bob help llaw posib. [Torri ar draws.] Gall yr Aelod dros Flaenau Gwent wneud pwyntiau pleidiol gwirion, ond nid wyf i’n credu y byddan nhw yn gwneud argraff dda ar ei etholwyr, sydd yn mynd i fod yn ddioddef yn sgil methiant dychymyg ei Lywodraeth ef ei hun heddiw.
Rwy’n sylwi na roddodd Ysgrifennydd y Cabinet ateb mewn gwirionedd i Adam Price funud yn ôl am gyhoeddiad y diwydrwydd dyladwy, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol. A dweud y gwir, yn fy marn i, ym mhresenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae bellach yn amlwg ei bod yn ddyletswydd arnom i gael yr ymchwiliad ehangaf o'r ffordd y mae’r stori ddigalon hon wedi datblygu yn ystod y chwe blynedd diwethaf. A oes disgwyl inni gredu bod confensiynau cyfrifyddu Llywodraeth ynghylch a yw rhywbeth yn cael ei dosbarthu yn wariant cyhoeddus neu breifat gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Trysorlys wedi dod fel datguddiad llachar heddiw neu ddoe, a bod y Cabinet yn hollol anymwybodol o’r confensiynau hyn cyn hynny? Pam nad ydym ni wedi clywed y pwynt hwn ar unrhyw gam yn y ddwy flynedd ddiwethaf ers i’r prosiect hwn ddod yn bosibilrwydd ymarferol mewn termau gwleidyddol?
Mae strwythur ariannu'r prosiect hwn, er bod y niferoedd wedi newid, mewn egwyddor, wedi aros yr un fath o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn gwybod nad yw'r Llywodraeth wedi cael cais erioed i roi unrhyw arian cyhoeddus ynddo ymlaen llaw; cais fu hwn bob amser am warant eilaidd wrth gefn o uwch ddyled y sector preifat, a fyddai'n crisialu yn unig mewn amgylchiadau pan fyddai’r safle wedi cael ei ddatblygu yn llawn. Felly, atebolrwydd y Llywodraeth fyddai ffigur blynyddol i ad-dalu'r uwch fuddsoddwyr pe byddai hyrwyddwyr Cylchdaith Cymru yn methu talu'r llog ar eu bondiau, gan ddechrau ar ei gynharaf yn 2024 a dod i ben yn 2057. Felly, mae disgwyl i ni gredu ei bod yn rhaid i ni gyfalafu'r gwariant hwn i gyd heddiw pan na fydd yn ddyledus tan 2024, a dim ond wedyn ar sail un mewn tri deg a thri—ar sail 3 y cant y flwyddyn— a fydd mewn gwirionedd yn dod allan o wariant y Llywodraeth a reolir yn flynyddol. Ac felly mae pam mae angen i hyn gael ei gyfalafu ar hyn o bryd ac yna chwalu’r prosiect cyfan yn fater y mae'n rhaid ei ystyried yn ddifrifol iawn, oherwydd, yn y fan hon, confensiynau cyfrifyddu yn hytrach na sylwedd y prosiect, yw’r gyllell y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei phlannu yng nghalon y prosiect. Nid eglurwyd y rheswm am hynny, oherwydd ei fod yn warant wrth gefn na fyddai o bosib byth galw amdano, oherwydd, pe byddai’r trac rasio yn cael ei adeiladu ac yn gallu talu llai na hanner y gost adeiladu i’r benthycwyr—yr hyn sy’n ddyledus iddynt dan eu contractau cyfredol—yna ni fyddai'r prosiect mewn perygl o gwbl, ac ni fyddai unrhyw beth yn dod i gyfrifon y Llywodraeth. Felly, ni allaf ddeall pam y dylai’r posibilrwydd hwn—y bydd galw amdano o bosib rywbryd yn y dyfodol, ond ar y sail gyfyngedig honno’n unig—nawr gael ei ystyried yn un swm mawr a allai fod yn ddyledus ar unwaith, oherwydd ni fydd hynny byth yn digwydd.
Felly, yr hyn yr wyf yn dymuno ei wybod yw pam nad yw'r mater hwn wedi cael sylw hyd yma gan Lywodraeth Cymru a'r Trysorlys neu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a pham mae pobl Glynebwy, yn bennaf oll, wedi cael eu camarwain tan y cyfnod hwn wedi’r etholiad cyffredinol.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Roeddwn yn glir iawn, yn yr haf y llynedd, pan ddywedais fod angen i ddatblygwyr y prosiect sicrhau bod 50 y cant o'r cyllid a 50 y cant o'r risg ar ysgwyddau'r sector preifat i sicrhau bod gennym werth am arian ac i sicrhau nad oedd hynny’n dod ar y fantolen. Y broses diwydrwydd dyladwy, a gafodd ei chwblhau ddim ond ychydig wythnosau yn ôl, wnaeth amlygu’r risg pwysoli. Y diwydrwydd dyladwy hwnnw wnaeth ganiatáu i ni ddarganfod y risg uchel y byddai’n dod ar y fantolen. Ond credaf fod yr Aelod wedyn yn cyfuno’r atebolrwydd hirdymor dros 33 mlynedd a'r risg ddisymwth o’i ddwyn ar y fantolen.
Nawr, o ran diwydrwydd dyledus, gadewch i ni beidio ag anghofio bod yr Aelod, unwaith eto, wedi fy annog i beidio â dechrau ar broses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy, ond fy nghred i yw bod hyn wedi dangos gwerth diwydrwydd dyladwy. Rwy’n ceisio cael cytundeb gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd a'r ymgynghorwyr a wnaeth y diwydrwydd dyladwy i gyhoeddi dogfen gryno o’r dogfennau. Er hynny, ni fydd y prawf personau addas a phriodol a diwydrwydd dyladwy cyfreithiol yn cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Cyn gynted ag y byddaf yn cael y cytundeb hwnnw gan yr ymgynghorwyr a Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, byddaf yn symud ymlaen gyda chyhoeddi'r ddogfen honno a byddaf yn ei rhoi yn Llyfrgell y Cynulliad.
Byddwn yn annog yr Aelod hefyd, a'r holl Aelodau sy'n feirniadol o’r Llywodraeth heddiw, ohonof i heddiw, o'r datblygwyr heddiw, i weithio'n adeiladol i sicrhau bod y parc technoleg—y £100 miliwn yr ydym yn mynd i’w fuddsoddi ynddo ac yn sgiliau pobl yn ardal Blaenau'r Cymoedd—yn llwyddiant. Mae angen i ni sicrhau bod y parc technoleg yn defnyddio technolegau newydd a rhai sy'n datblygu, ei fod yn cyflogi pobl yn nes at eu cartrefi, ac yn darparu’r math o ffyniant yr wyf yn credu ein bod i gyd yn dymuno ei weld yng nghymunedau'r Cymoedd.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy siomedigaeth ddofn yn sgil y penderfyniad hwn heddiw. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, bûm yn gefnogwr i'r prosiect hwn, fel y bu fy awdurdod lleol yn Nhorfaen, gan gredu y byddai'n beth trawsffurfiol i ardal Blaenau'r Cymoedd, yn enwedig gyda’r traddodiad cryf o weithgynhyrchu modurol yn Nhorfaen. Rwyf innau hefyd mewn penbleth ynglŷn â sut y gallem daro ar faen tramgwydd mor fawr mewn cyfnod diweddar iawn ar ôl saith blynedd o ystyried y prosiect hwn. Rwyf i o’r farn fod yna gwestiynau difrifol iawn sydd angen eu hateb a byddaf yn edrych ymlaen at weld yr wybodaeth ar y diwydrwydd dyladwy yr ydych wedi ymrwymo i’w gyhoeddi.
Rwyf am bwyso arnoch ynglŷn â’r mater hwn o'r risg o 50 y cant na chafodd ei fodloni, gan mai haeriad y datblygwyr o hyd yw eu bod wedi darparu’r arian priodol a'u bod wedi bodloni'r meini prawf arno gan ei bod yn llai na 50 y cant o’r risg ar Lywodraeth Cymru. Mae eich datganiad yn cyfeirio at y ffordd y mae hynny wedi ei strwythuro a byddwn yn ddiolchgar am fwy o eglurder ar hynny. Mae'n ymddangos i mi fod cwningen wedi ei thynnu o'r het yn hwyr iawn, i ryw raddau, o ran y parc technoleg hwn, ac mae llawer o bwyslais yn eich datganiad ar ddiwallu anghenion Glyn Ebwy a Blaenau Gwent, sydd yn gwbl gyfiawn—mae’r disgwyliadau wedi bod yn uchel yno ac mae angen i bobl gael rhywbeth yn eu dwylo. Ond i mi, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â llawer mwy na Blaenau Gwent—roedd yn ymwneud â holl ardal Blaenau'r Cymoedd, gan gynnwys fy etholaeth i. Felly, fe hoffwn i wybod sut yn union yr ydych yn bwriadu sicrhau y bydd y parc technoleg yn cyflawni’r addewid ar gyfer fy etholwyr i, beth yw’r cynllun i gynnwys partneriaid lleol, nid ym Mlaenau Gwent yn unig, ond yn Nhorfaen a'r awdurdodau lleol eraill cyfagos, a hefyd sut y byddwch yn bwriadu, wrth symud ymlaen, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau lleol, a sut y byddwch yn llunio cynllun pendant wrth symud ymlaen. Diolch.
A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiynau? Rwy'n cydnabod y gefnogaeth gref y mae hi wedi ei rhoi i’r cynnig. Rwy'n cydnabod ei chysondeb dros nifer o flynyddoedd yn ei chefnogaeth i’r prosiect ac mae’n edifar gennyf innau fel hithau nad ydym yn gallu cynnig y sicrwydd a geisiwyd. Ond rwy’n credu, o’m hanfodd, y byddai wedi bod yn gwbl anghyfrifol i roi’r warant honno, o ystyried yr effaith debygol y byddai wedi ei chael ar bwrs y wlad. Fel y dywedais yn fy natganiad y bore yma, byddai o bosibl wedi cael effaith uniongyrchol ar raglenni mawr seilwaith, tai, ysbytai ac adeiladu ysgolion. Eto i gyd, rwy’n cydnabod bod yr Aelod a nifer o'i chydweithwyr yn benderfynol o hyrwyddo'r angen am newid trawsnewidiol yn y Cymoedd, a dyna beth yr wyf i yn benderfynol o wneud yn siŵr y bydd y parc technoleg yn ei gyflawni.
Byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr mewn addysg bellach, gydag awdurdodau lleol, gyda'r parth menter yng Nglyn Ebwy, a byddaf yn gweithio gydag arbenigwyr yn y sector modurol yn Niwydiant Cymru i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n cynllun, cynllun gwerth £100 miliwn, i greu 1,500 o swyddi llawnamser o safon ar gyfer pobl Cymoedd y de. Nid cwningen hwyr mohoni. Rydym yn gwybod ers cryn amser fod yna sector modurol haen 2 sydd ag angen cymorth arno i dyfu, ehangu, a bod ar y blaen yn y farchnad fyd-eang. Ond yr hyn y mae’r broses hon wedi ei amlygu yw, gyda’r galw sydd yn bodoli, fod diffyg lle a chymorth ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu herio hynny, ymdrin â hynny, rhoi sylw i hynny, a gwneud yn siŵr y gall y sector modurol yn y rhanbarth dyfu a ffynnu.
Mae'r prosiect wedi newid sawl gwaith dros y saith blynedd diwethaf. Mae'r cwmni wedi bod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod y risg yn cael ei gadw dan 50 y cant, ac rwy’n sylweddoli y gall mater dosbarthiadau 50 y cant SYG fod yn ddryslyd. Ond mae proffil risg y gwahanol gyfrannau yng nghyllid y prosiect yn berthnasol i asesu pwysau effeithiol y warant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwahanol gyfrannau, Llywydd, yn agored i lefelau tra gwahanol o risg, ac, yn seiliedig ar y canllawiau, byddem yn disgwyl i SYG ac Eurostat yn eu hasesiad o bwysau i ystyried pwysau cyfrannau sy’n dwyn lefel uwch o risg yn drymach na chyfrannau sy'n dwyn lefel is o risg. Byddai asesiad yn pwysoli risg yn awgrymu’n sicr fod Llywodraeth Cymru i ddwyn mwy na 50 y cant o bwysau cyllid y prosiect, hyd yn oed pe—hyd yn oed pe—byddai ein gwarant i’w weld yn llai na 50 y cant o gyfanswm yr arian heb ei bwysoli. Dyna'r gwahaniaeth rhwng ymddangosiad o fodloni'r meini prawf a bodloni'r meini prawf mewn gwirionedd. Mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben, ond dylai wybod hyn yn dda, ar ôl gwasanaethu mewn Llywodraeth, er bod hynny 30 neu 40 mlynedd yn ôl.
Nawr, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod—[Torri ar draws.]—. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn osgoi ymrwymo ein hunain i brosiectau costus a allai arwain at ganslo adeiladu ysbytai, ysgolion neu dai. Serch hynny, byddwn yn bwrw ymlaen â’r cynllun hwn ar gyfer Glyn Ebwy, ar gyfer Blaenau Gwent, ac ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac rwy'n annog yr Aelodau unwaith yn rhagor i weithio gyda ni. Gyda'i gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth, a byddwn yn annog yr Aelodau i wneud yn union fel hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Rwyf wedi bod yn bryderus am y prosiect hwn o'r cychwyn. Bedair blynedd yn ôl, rhoddais yn fy nghylchlythyr lleol i’m hetholwyr, sy'n dangos—bedair blynedd yn ôl, 2013—. Byddaf yn darllen un neu ddau o’m pryderon ynglŷn â’r prosiect hwn: datblygwr yn chwyddo’r ffigur y mae’n ei roi ar nifer y swyddi; digwyddiadau amlwg, fel hwn—sut y caiff MotoGP ei ddenu i'r gylchdaith pan fydd ganddynt rwymedigaethau cytundebau â thraciau rasio eraill, nid yn unig hwn—a sut y gall datblygwyr godi’r £300 miliwn hwn. Roedd hynny’n bryder. Bydd yr arian, wrth gwrs, yn dod o'r sector preifat, ond o ble? Mae’r pedwar hyn, a rhestr hir, nid oeddent yn bodloni bryd hynny, ac yn fy marn i nid ydynt yn bodloni nawr. Mae gennyf i, yn wir, gopi o hwn i chi gael edrych arno. Drwy’r cwbl, rwyf wedi pwysleisio’r angen am wneud diwydrwydd dyladwy yn gymwys i ofynion ariannol y prosiect hwn, ac rwy’n credu bod y canlyniadau yn gyfiawnhad o’m galwad i bwyllo ac ystyried.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £9 miliwn o arian trethdalwyr i'r prosiectau hyn yn y pedair neu’r bum mlynedd diwethaf, a oedd yn gwbl ddianghenraid. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa wersi y mae ei adran wedi eu dysgu o ystyried astudiaeth feirniadol Swyddfa Archwilio Cymru o'r cyllid hwn? Hefyd, a fyddai'n barod i anfon ei ddau swyddog i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? Os felly, pryd fyddai hynny? Bydd y penderfyniad hwn, wrth gwrs, yn destun siom a thorcalon yng Nglyn Ebwy. Fy rhanbarth i ydyw, a byddwn wrth fy modd i weld y rhanbarth hwn yn ffynnu fel y gwna Caerdydd ac ardaloedd eraill megis Llundain. Ceir yno bobl ragorol a phobl glên, ac mae cyfle gwych yn bodoli yno. Felly, croesawaf ei gyhoeddiad am barc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n llwyddo. A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae wedi eu cael â sefydliadau busnes a'r awdurdodau lleol ynglŷn â’r parc hwn? Pa fentrau a gaiff eu cynnig ar gyfer busnesau sy'n ymsefydlu yn yr ardal hon ac yn symud iddi? A fydd yn cytuno i roi datganiad pellach cyn gynted ag sy’n bosibl i gael gwybodaeth—pan y caiff hi—ar gyfer y busnesau a’r buddsoddwyr amrywiol? Fel y mae newydd ei grybwyll gydag eraill yn gynharach, nid wyf yn dymuno ailadrodd; mae'r rhan fwyaf o’m cydweithwyr i wedi dangos pryderon ynglŷn â’ch penderfyniad, ond rwyf i o’r farn fod eich penderfyniad chi yn gwbl berffaith. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Rwy’n hapus i ymrwymo i gyflwyno manylion y prosiect parc technoleg ar fyrder, a sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Aelodau. Rwyf eisoes wedi siarad gyda nifer o randdeiliaid yn y rhanbarth a rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae cefnogaeth eang i ddatblygu parc technoleg. Rwyf hefyd wedi siarad ag arbenigwyr fel Chris Sutton, sydd wedi gwneud yn glir mai un o'r rhwystrau mawr sydd wedi bod i fuddsoddi yn y Cymoedd yw diffyg unedau diwydiannol addas, ac, fel y dywedais, byddwn yn mynd i'r afael â’r her honno.
O ran y gwersi a gafodd eu dysgu, rwy’n credu bod un wers bwysig y dylid ei dysgu o'r broses hon: ni waeth beth fo’r addewidion a wneir, dim ond drwy broses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy y mae modd asesu mewn gwirionedd a yw prosiect yn cyrraedd y nod, a yw'n ymarferol ac a yw'r prosiect yn addas i’r rhai y mae wedi ei gynllunio ar eu cyfer. Rwy’n awyddus i sicrhau y gall buddsoddwyr sy’n edrych tuag at Gymru gael hyder yn Llywodraeth Cymru i gynnal proses wrthrychol o ddiwydrwydd dyladwy, i gefnogi twf eu busnesau a’u buddsoddiad yng Nghymru, a chael y warant y bydd Llywodraeth Cymru, fel partner busnes, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eu rhagolygon cyflogaeth yn tyfu ac yn ffynnu.
Yn 2013—cynhyrchodd yr Aelod gylchlythyr yn mynegi pryderon, rwy’n credu, am nifer y swyddi. Cafwyd bod y ffigur o 6,000 o swyddi a hyrwyddwyd ac a ailadroddwyd yn fynych yn dipyn o or-ddweud, ac roedd hynny, unwaith eto, yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. A bod yn deg i hyrwyddwyr y prosiect, maen nhw’n dweud nad yw’r ffigur o 6,000 o swyddi yn rhywbeth y maen nhw’n gyfrifol am ei hyrwyddo yn y cyfryngau. Ond, serch hynny, mae'r ffigur hwnnw ar eu gwefan ar hyn o bryd, a’r gwir amdani yw mai gor-ddweud yw hyn, ac yng ngham dau y mae’r swyddi mewn gwirionedd, swyddi yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn benderfynol o’u cyflewni.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.