Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth gyflawni ymrwymiadau ac uchelgeisiau statudol Cymru o ran datgarboneiddio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i darged tymor hir o leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant erbyn 2050, yn ogystal â thargedau interim a chyllidebau carbon pum mlynedd. Mae hyn yn sefydlu fframwaith hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gan gynnig eglurder a sicrwydd i sbarduno camau gweithredu a buddsoddiant mewn mentrau carbon isel.