7. 7. Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus

– Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:33, 27 Mehefin 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar ddatgarboneiddio yn y sector gyhoeddus, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6339 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.

4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:34, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth gyflawni ymrwymiadau ac uchelgeisiau statudol Cymru o ran datgarboneiddio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i darged tymor hir o leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant erbyn 2050, yn ogystal â thargedau interim a chyllidebau carbon pum mlynedd. Mae hyn yn sefydlu fframwaith hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gan gynnig eglurder a sicrwydd i sbarduno camau gweithredu a buddsoddiant mewn mentrau carbon isel.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:34, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Pan oeddwn i yn y COP22 ym Marrakesh fis Tachwedd diwethaf, gwelais yn glir sut mae pontio i economi carbon isel yn dod â llawer o gyfleoedd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, twf glân, swyddi o ansawdd uchel a manteision y farchnad fyd-eang. Nid dim ond yn yr economi mae modd gweld hyn. Mae manteision ehangach megis lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, gydag aer a dŵr glân a gwell iechyd o ganlyniad. Y manteision ehangach hyn yw gwir hanfod yr hyn y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gobeithio ei gyflawni yn y sector cyhoeddus. Efallai y byddwch yn holi pam rwy'n awyddus i gymryd camau yn benodol yn y sector cyhoeddus ynglŷn â datgarboneiddio pan nad yw ond yn cyfrif am gyfran fechan o’n hallyriadau yng Nghymru, sef 1 y cant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn datgarboneiddio mor drylwyr ag sy’n ofynnol, mae angen arweiniad ar lefelau cenedlaethol a lleol. Mae'r sector cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar allyriadau yn llawer ehangach drwy gaffael, darparu eu gwasanaethau ac ymgysylltu â'u cymunedau.

O’u hystyried gyda'i gilydd, mae gan y sector cyhoeddus un o'r ystadau mwyaf yng Nghymru, ac felly, mae ganddo swyddogaeth bwysig wrth leihau ei allyriadau ei hun a dylanwadu ar ei gwsmeriaid a chontractwyr i gymryd camau tebyg. Mae hyn yn golygu lleihau defnydd ynni ac allyriadau carbon uniongyrchol y sector cyhoeddus a'r allyriadau anuniongyrchol sy'n dod o ddarparu gwasanaethau megis addysg, iechyd a lles, seilwaith ac ynni, trafnidiaeth a gwastraff.

Nid yw hwn yn faes newydd i’r sector cyhoeddus. Roedd ein strategaeth newid hinsawdd wreiddiol yn canolbwyntio ar gamau gweithredu yn ymwneud â’r sector yn gwella effeithlonrwydd ein hysgolion a'n hysbytai. Ochr yn ochr â hyn mae’r UE, y DU a Chymru wedi rhoi deddfwriaeth ar waith, ac yn fwyaf diweddar, gwelwyd gweithredu ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy'n tynnu sylw at swyddogaeth allweddol newid yn yr hinsawdd yn y gwaith o gyflawni ein targedau lles.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus ers peth amser. Mae ein menter Twf Gwyrdd Cymru yn buddsoddi dros £2 filiwn y flwyddyn, gan gefnogi’r gwaith o nodi a chyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau cyhoeddus a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael, a ategir gan gyllid buddsoddi i arbed nad oes tebyg iddo yng ngweddill y DU. Caiff yr arbedion sy'n deillio o leihau costau eu defnyddio i ad-dalu'r cyllid buddsoddi a rhoi hwb economaidd sylweddol i’n busnesau. Erbyn diwedd tymor presennol y Llywodraeth, rydym ni’n disgwyl y byddwn ni wedi buddsoddi bron i £70 miliwn mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus.

Ond mae'r cyfle yn llawer mwy. Yn rhan o waith cychwynnol Twf Gwyrdd Cymru yn y sector cyhoeddus, nodwyd cyfres o brosiectau gyda gwerth cyfalaf o bron iawn i £500 miliwn. Mae fy swyddogion wrthi'n gwerthuso'r gefnogaeth bresennol ac yn gofyn am farn y sector cyhoeddus ar feysydd i'w gwella neu gymorth ychwanegol.

Bydd ein cyllid yn parhau i alluogi buddiannau wrth iddo gael ei ad-dalu a'i ailgylchu i brosiectau newydd. Mae defnyddio ein harian yn y modd hwn yn golygu ein bod yn disgwyl arbed tua £650 miliwn o arian parod ar ynni a lleihau allyriadau gan 2.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn ystod oes yr asedau yr ydym yn eu hariannu. Er enghraifft, yn gynharach eleni, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn cyllid o £4.5 miliwn er mwyn galluogi Cyngor Sir Fynwy i adeiladu fferm solar Oak Grove, a fydd yn cynhyrchu incwm o dros £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer yr awdurdod a chyflawni arbedion o bron i 50,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei oes. Roeddwn i hefyd yn gallu cefnogi rhaglen goleuadau stryd LED Cyngor Sir y Fflint gyda benthyciad o £3 miliwn, gan alluogi arbedion blynyddol o £400,000 ar gyfer yr awdurdod ac arbediad oes o dros 25,000 tunnell o garbon deuocsid.

Rydym ni hefyd wedi gwneud camau breision o ran trin gwastraff, gyda rhaglen wastraff Llywodraeth Cymru yn cyflawni cyfraddau ailgylchu trefol sydd y trydydd uchaf yn y byd, gan arwain at leihau allyriadau carbon yn sylweddol a chymell buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat yng Nghymru.

Yn y DU ac mewn mannau eraill yn y byd, rydym yn gweld gweithredu penodol yn y sector cyhoeddus. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddyletswydd i gyflwyno adroddiadau ynglŷn â chyrff cyhoeddus lle mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno adroddiadau blynyddol ar nifer o feysydd megis llywodraethu, allforio ynni adnewyddadwy, rhoi amcan o arbedion carbon a fydd yn deillio o brosiectau yn y dyfodol ac amcanion caffael. Mae British Columbia wedi deddfu y bydd ei sector cyhoeddus cyfan yn garbon niwtral drwy leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net bob blwyddyn. Ers 2010, mae ei sector cyhoeddus cyfan wedi bod yn mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy'n cynnwys y defnydd o ynni o adeiladau, fflydau cerbydau, offer a phapur.

Yng Nghymru, er bod gweithgarwch hyd yma wedi canolbwyntio'n bennaf ar leihau allyriadau o asedau a gwastraff y sector cyhoeddus, mae gwaith eisoes ar y gweill sy'n archwilio sut y gall gweithgarwch sefydliad sector cyhoeddus effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyfanswm allyriadau. Caiff yr allyriadau hyn eu dosbarthu i allyriadau uniongyrchol megis cyfleusterau a cherbydau cwmni, a dau fath o allyriadau anuniongyrchol: y rhai a ddaw yn benodol o drydan a brynwyd ac a ddefnyddiwyd gan y sefydliad, a'r rhai o ffynonellau nad ydyn nhw o fewn rheolaeth y sefydliad, megis caffael nwyddau a gwasanaethau a gweithwyr yn cymudo.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac roedd hi’n braf cael gwybod am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud yn eu prosiect Carbon Cadarnhaol. Mae'r prosiect wedi dangos bod dros 80 y cant o'u hallyriadau yn anuniongyrchol, a bod 60 y cant yn deillo o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unig. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i edrych nid yn unig ar faint o allyriadau’r sector cyhoeddus sy’n deillio o'u hasedau, ond hefyd o’u gweithgarwch ehangach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi gosod mannau gwefru, wedi prynu cerbydau trydan ac yn bwriadu gwella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad, gan gydnabod yr achos busnes economaidd dros wneud hynny.

Er mwyn cyrraedd ein targed tymor hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob dull sydd ar gael i gyrraedd ein gostyngiad o 80 y cant, gan sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru. Ein huchelgais felly yw gosod targedau datgarboneiddio heriol ond cyraeddadwy ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, ac i sicrhau bod uwch gydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn rhoi lle blaenllaw i leihau carbon a thwf gwyrdd wrth ddatblygu strategaethau, cyflwyno rhaglenni a gwneud penderfyniadau.

Mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus yng Nghymru arwain y ffordd mewn maes a fydd yn cael effaith mor sylweddol ar ein dinasyddion, cymunedau a busnesau. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu'r economi carbon isel ymhellach yng Nghymru, a bydd arwain y gwaith o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fodd o roi neges bwysig a chyson i fuddsoddwyr a busnesau. Mae Datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, er yn heriol, hefyd yn haws i'w gyflawni nag mewn meysydd eraill o'r economi. Mae’n rhaid i ddatgarboneiddio felly fod yn drylwyr, a chael ei gyflawni yn gymharol gyflym, a hynny ar draws holl weithgareddau’r sector cyhoeddus. Ein huchelgais, felly, yw bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae sawl ffordd o gyflawni’r uchelgais a’r modd y gallwn ni fonitro cynnydd i alluogi'r cyhoedd a busnesau i weld sut yr ydym ni’n cyflawni ein hymrwymiad, a chynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu. Y mis nesaf, byddaf yn galw am dystiolaeth yn ymwneud â’r uchelgais hon, a fydd yn gofyn i randdeiliaid nodi'r dystiolaeth ynglŷn â’r cyfleoedd a'r heriau o amgylch y prif darged, dweud eu dweud ar dargedau interim posibl, a sut maen nhw’n teimlo y dylem ni fonitro ac olrhain cynnydd. Bydd yr alwad am dystiolaeth yn helpu i lywio'r ffordd yr ydym ni’n cyflymu'r gwaith yn y maes pwysig hwn. Croesawaf eich barn ynglŷn â’n huchelgais o ran datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, sut y byddwn yn mynd i'r afael â heriau arbennig ac yn gwireddu’r cyfleoedd a’r manteision sylweddol sy’n gysylltiedig â'r agenda hon.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:42, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, ac rwy’n galw ar David Melding i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:42, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon; Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig. Rwyf hefyd yn croesawu'r camau breision a wnaed i leihau’r ôl troed carbon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o arweiniad yn y maes hwn, ond byddwn yn dweud, cyn i mi roi’r argraff fy mod yn rhy hael, nad ydym ni eto lle yr hoffem ni fod, ac efallai o’i gymharu â rhai ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, fe allem ni wneud yn well.

Yn 2014, roedd lefel yr allyriadau yng Nghymru tua 18 y cant yn is na lefel 1990. Mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 36 y cant yn y DU yn ei chyfanrwydd. Mae Cymru’n cyfrif am 9 y cant o’r allyriadau ar draws y DU ar hyn o bryd, gyda dim ond 5 y cant o boblogaeth y DU. Nawr, mae yna resymau am hyn, fel ein treftadaeth ddiwydiannol. Fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy o ddifrif na rhannau eraill o'r DU ynglŷn â’r mater hwn. Mae'n fater hollbwysig iddyn nhw hefyd, ond mae yn dod â heriau ychwanegol yn ei sgil i ni.

Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y sector cyhoeddus, sydd ag allyriadau cymharol isel, er fy mod yn meddwl—. Wn i ddim a yw hyn yn ddealladwy, ond fe all gael effaith sylweddol iawn o ran lluosydd. Hynny yw, mae’r cymudo yn un peth—yr holl weision cyhoeddus hynny yn gyrru i’w gwaith fesul un. Ond fe allwn ni fod yn fwy dychmygus na hynny, gan edrych ar sut mae myfyrwyr yn cyrraedd yr ysgol ac ar y daith i’r ysgol. Mae nifer o faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yn cynhyrchu allyriadau uchel iawn ar hyn o bryd.

A gaf i droi at ein dau welliant? Roedd arnom ni eisiau gwella rhywfaint ar y cynnig hwn, ond diben y ddau yw gwella ein perfformiad cyffredinol yn y fan yma, a bod yn adeiladol. Mae’r cyntaf, yn ymwneud â chyllidebau carbon: Nawr, mae'r rhain yn offerynnau hanfodol i leihau cyllidebau cenedlaethol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf iawn i ddefnyddio’r offeryn penodol hwn hyd yma. Os trof at adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n datgan bod yn rhaid i ni osod cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf—sef o 2016 i 2020, ac yna o 2021 i 2025—a bod yn rhaid gosod y rhain, neu o leiaf yr un cyntaf, cyn diwedd 2018. Wel, rydym ni, mewn gwirionedd, bron iawn hanner ffordd drwy'r cyfnod cyllidebol cyntaf, a does dim argoel i’w weld y caiff y gyllideb ei sefydlu mewn deddfwriaeth—nid yw’r dyddiad cau wedi cyrraedd eto. Ond os ydych chi’n cymharu’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yn y maes hwn—ac fe wnaed hynny gan weinyddiaeth Lafur, gyda llaw—yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, fe grëwyd rhwymedigaethau statudol ar gyfer cyllidebau carbon. Daeth y Ddeddf i rym ym mis Tachwedd 2008, ac fe gyhoeddwyd y lefelau ar gyfer y cyllidebau carbon yn y mis Ebrill canlynol, yn 2009, ac fe gawson nhw eu cymeradwyo a’u rhoi mewn grym ym mis Mai 2009.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Fe wna i orffen y darn hwn. Felly, mae hynny'n golygu y bu saith mis o oedi cyn gweithredu lefelau cyllideb carbon y DU. Ildiaf.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod, ac rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud, ond wrth gwrs fe wyddom ni fod gan y Llywodraeth newydd yma y cyfeiriodd ati—fe gyfeiriodd at Lywodraeth San Steffan—gytundeb hyder a chyflenwi gyda'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, sy’n gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Mae'r cytundeb hyder a chyflenwi yn ymwneud â chyllidebu ariannol ond nid â chyllidebu carbon. A yw'n disgwyl i gyllidebu carbon barhau yn y weinyddiaeth bresennol?

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:47, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n sicr yn disgwyl iddo barhau. Ni allaf siarad ar ran y DUP ond gallaf siarad ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ac rydym ni’n cydnabod newid yn yr hinsawdd sydd wedi ei achosi gan ddyn. Felly, ein ffordd ni o fynd ati yw cefnogi ac annog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fynd ymhellach.

Ond, beth bynnag, fe allem ni symud yn gyflymach yma, ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gwneud hynny. Rwy'n sylweddoli y bydd fy amser ar ben os na fyddaf yn ofalus. A gaf i droi at ddarn arall o ddeddfwriaeth sydd, rwy’n credu, yn ysbrydoliaeth—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n eithaf amlwg ei fod wedi codi disgwyliadau ar draws bywyd economaidd a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig, ond un agwedd siomedig mae WWF Cymru a Chwarae Teg wedi tynnu sylw ato, ac sydd wedi cael sylw ein pwyllgorau Cynulliad, a'r Pwyllgor Cyllid, y mae'r Aelod, sydd newydd ymyrryd, Simon Thomas, yn gadeirydd arno, yw y buom ni’n gymharol araf yn ymgorffori’r Ddeddf honno yn ein gweithdrefnau pennu cyllideb ein hunain. Nawr, er tegwch i'r Ysgrifennydd cyllid, sy'n gwrando ar y ddadl hon, rwy'n falch o ddweud, roeddwn i’n credu ei fod wedi ildio rhywfaint yn ystod proses y gyllideb wrth ddweud, 'Wel, wyddoch chi, dim ond dechrau yr ydym ni ond rydym ni’n sylweddoli ein bod yn bell o lle’r hoffem ni fod o ran defnyddio’r Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol '. Ond, unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni sicrhau bod y Ddeddf honno wir yn effeithiol yn ein prosesau cyllideb ein hunain cyn gynted â phosibl fel y gall hynny hefyd helpu i lywio'r penderfyniadau y byddwn ni’n eu gwneud i leihau allyriadau carbon.

Diolch i chi am eich amynedd, Dirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:48, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Dim problem o gwbl. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda’r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o’i gylch gwaith.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o’i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i’r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5 a 6.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:48, 27 Mehefin 2017

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i gynnig ein gwelliannau ni, sydd yn sicr wedi’u cynllunio hefyd i wella’r cynnig gwreiddiol ac i fod yn gyfraniad tuag at y drafodaeth gyhoeddus y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i hamlinellu.

A gaf i ddechrau gyda’r ddau welliant gan y Ceidwadwyr yn gyntaf, ac i ddweud, er fy mod i’n deall yn iawn y bwriad y tu ôl i’r ddau welliant, mae’r un cyntaf, rwy’n credu, dipyn bach yn annheg, gan fod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ei hunan yn gosod y dyddiad o 2018 ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf? Efallai ein bod ni i gyd wedi bod ar fai am ganiatáu i hynny fynd drwyddo heb ddal trwyn y Llywodraeth i’r maen ychydig yn fwy. Ond, yn sicr, mae’r ail bwynt, ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un teg iawn, ac y mae’n un y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei hyrwyddo hefyd, a byddwn yn sicr yn cefnogi’r gwelliant hwnnw heddiw.

Mae gwelliannau Plaid Cymru yn troi o gwmpas—wel, mae yna bedwar gwelliant ond tri pheth, i ddweud y gwir. Yn gyntaf oll, sefydlu cwmni dielw hyd braich o’r Llywodraeth: Ynni Cymru—rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo fel rhan o’r ateb i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ail, i osod yn amlwg iawn fod mynd i’r afael â llygredd awyr yr un mor bwysig â datgarboneiddio ag ynni ei hunan. Yn y cyd-destun hwnnw, rydw i’n sylweddoli bod gan y Llywodraeth rhyw fath o dasglu gwaith gorchwyl a gorffen ynglŷn â datgarboneiddio ac nid yw, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ar y tasglu hwnnw. Rydw i’n credu bod datgarboneiddio yn gymaint o gwestiwn iechyd ag ydyw o gwestiwn ynni a defnydd o adnoddau naturiol.

Y drydedd elfen i’n gwelliannau ni yw un sy’n troi o gwmpas datgarboneiddio y ffordd rydym ni’n teithio o gwmpas. Mae’r Aelod wedi gwneud y pwynt eisoes ynglŷn â’r llif gweision sifil yn mynd o le i le, ac, wrth gwrs, rhan o’r ateb i hynny yw lle rydych chi’n lleoli swyddfeydd a symud swyddfeydd allan o Gaerdydd, allan o rai o’r trefi mawr, ond rhan o’r ateb hefyd yw sicrhau bod pethau megis y pwyntiau trydanu yn y llefydd gwaith, so mae pobl yn gallu dewis ffurf amgen i deithio, a bod yna fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus sydd ei hunan wedi’i datgarboneiddio, naill ai drwy LPG neu drwy’r defnydd o hydrogen, sydd yn arbennig â photensial, rydw i’n meddwl, yng Nghymru, ac mae yna gryn dipyn o flaengaredd a sgiliau yng Nghymru yn y maes yma.

Felly, mae Plaid Cymru yn meddwl pe bai’r tri maes yma, a’r pedwar gwelliant, yn cael eu hychwanegu i’r cynnig gan y Llywodraeth, y byddem ni’n fwy tebygol o gyrraedd y nod—nod yr ydym ni yn ei gefnogi—o fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Nawr, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i amlinellu, er bod y stad gyhoeddus yn fach o ran ei chyfraniad tuag at garboneiddio, sef 1 y cant, mae hefyd yn sylweddol o ran maint y stad. Felly, un peth y medrwn ni edrych arno yw sut y gallwn ni droi adeiladau’r stad gyhoeddus yn adeiladau sydd yn cynhyrchu ynni di-garbon—paneli haul ar bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft. Nid oes yna ots os ydyn nhw wedi’u rhestru ai beidio—jest symud at y dyfodol. A sefydlu cwmni fel y soniais i, cwmni Ynni Cymru; edrych ar sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio mwy o gerbydau sydd yn isel, neu’n is eu defnydd o garbon. Pan oeddem ni wedi holi nôl ar ddechrau’r flwyddyn, ces i wybod mai dim ond Ynys Môn, i fod yn onest, sy’n defnyddio cerbydau LPG, ac mae’n siŵr bod yna dipyn o le i fwy o awdurdodau lleol wneud hynny.

Awn ni i edrych ar wledydd eraill cyfagos: yn yr Alban, mae Llywodraeth yr Alban wedi buddsoddi £3 miliwn er mwyn dyblu nifer y bysiau hydrogen yn Aberdeen o 10 i 20. Yn Llundain, rŷm ni newydd weld datblygiad y bws hydrogen ‘double-decker’ cyntaf, ac yn wir, mae’r ddinas honno wedi ymrwymo i gael o leiaf 300 o fysiau dim allyriadau, neu fysiau dim carbon, erbyn 2020. Felly, er ein bod ni weithiau yn dweud wrth ein hunain bod gyda ni ddeddfwriaeth dda yn y fan hyn—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ati—ac er ein bod ni yn dweud ein hunain bod gyda ni dargedau uchelgeisiol, y ffaith amdani yw nad ydym ni eto ar flaen y gad, ac mae yna dipyn o ddal i fyny gyda ni i’w wneud. Cyn belled â bod y Llywodraeth yn dal ar y trywydd, ac yn cyflymu, ac yn carlamu, yn wir, ar hyd y trywydd yna, fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r ymdrechion hyn.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:53, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn llwyr gefnogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio? Oni bai ein bod yn cymryd camau priodol, credaf bod trychineb yn ein haros, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Ni allwn fforddio gadael i’r ddaear barhau i gynhesu.

Y tri phrif danwydd sy'n seiliedig ar garbon yw glo, olew a nwy. Mae glo yn cynnwys carbon yn bennaf, ynghyd â rhywfaint o elfennau eraill—mae'n danwydd ffosil wedi ei wneud o ddeunydd planhigion marw. Mae olew crai yn gymysgedd o hydrocarbonau a ffurfiwyd o greaduriaid y môr sydd wedi marw. Mae nwy naturiol yn gymysgedd hydrocarbon naturiol sy’n cynnwys methan yn bennaf, ond sy’n aml yn cynnwys symiau amrywiol o alcanau eraill. Caiff ei ffurfio o haenau o ddeunydd planhigion ac anifeiliaid sy’n pydru. Beth sydd gan y tri pheth yma yn gyffredin? Maen nhw’n seiliedig ar garbon.

Mae llosgi carbon, gan dybio bod digon o ocsigen, yn creu carbon deuocsid. Os nad oes digon o ocsigen mae'n cynhyrchu carbon monocsid. Sut ydym ni'n gwybod nad yw'n creu symiau enfawr o garbon monocsid? Oherwydd y gwyddom ni fod carbon monocsid yn wenwyn difrifol. Petaem ni yn creu llawer iawn o garbon monocsid, yna ni fyddai pobl yn fyw. Felly, rydym ni’n gwybod ei fod yn creu carbon deuocsid ac rydym ni’n gwybod ei fod yn creu carbon deuocsid mewn symiau mawr. Fe allem ni hyd yn oed, gan ddefnyddio cyfrifiadau ar bwysau'r deunydd yr ydym ni’n ei losgi, gyfrifo faint o garbon deuocsid yr ydym ni yn ei greu.

Mae nwy tŷ gwydr yn nwy mewn atmosffer sy'n amsugno ac yn allyrru pelydriad o fewn yr ystod is-goch thermol. Y broses hon yw achos sylfaenol yr effaith tŷ gwydr. Y prif nwyon tŷ gwydr yn atmosffer y ddaear yw anwedd dŵr, carbon deuocsid, methan, ocsid nitraidd ac osôn. Heb nwyon tŷ gwydr, byddai tymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear tua -18 canradd. Felly, mae angen rhai ohonyn nhw arnom ni, fel arall byddem yn llawer rhy oer.

Felly, mae gennym ni ddwy ffordd a allai fod yn ddigon am ein hoedl nawr, fe allwn ni naill ai ddarfod o’r tir oherwydd gwenwyn carbon monocsid neu o fod yn rhy oer. Felly, mae angen i ni gael hyn yn hollol iawn. Felly, mae rhai nwyon tŷ gwydr yn anorfod ac yn fuddiol, ond po fwyaf fydd gennym ni, y poethach y bydd. Dyna pam mae hi’n bwysig ein bod ni’n defnyddio llai o garbon.

Sut allwn ni fod yn sicr bod nwyon tŷ gwydr yn cael yr effaith honno? Wel, byddech yn meddwl yr agosach yw planed at yr haul y poethach y byddai hi, ond fe wyddom ni fod y blaned Gwener yn bellach i ffwrdd oddi wrth yr haul—yn sylweddol ymhellach i ffwrdd oddi wrth yr haul—na'r blaned Mercher, ond rydym ni hefyd yn gwybod fod y blaned Gwener yn boethach. Rydym ni’n gwybod pam mae’r blaned Gwener yn boethach—oherwydd bod 96 y cant o'i atmosffer yn garbon deuocsid.

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad ar hyn o bryd gan unrhyw un sydd eisiau dweud ei fod eisiau gwadu'r ffaith ein bod yn creu nwyon tŷ gwydr drwy garbon deuocsid a’i fod yn gwneud y Ddaear yn gynhesach. Nid wyf yn deall syniadau’r bobl hyn sy’n gwadu effaith cynhesu byd-eang o waith dyn, gan ei fod yn tynnu’n groes i holl egwyddorion gwyddoniaeth sylfaenol. Ni fyddai unrhyw beth yr wyf wedi ei darllen yn uchel yma yn peri syndod i rwyun un ar bymtheg oed sy’n gwneud TGAU.

Mae datgarboneiddio'r sector pŵer yn golygu lleihau ei ddefnydd o garbon. Hynny yw, yr allyriadau fesul uned o drydan a gynhyrchir mewn gram o garbon deuocsid fesul cilowat yr awr. Mae hyn yn angenrheidiol i gyflawni'r targedau gorfodol ynglŷn ag allyriadau nwyon tŷ gwydr gorfodol a osodir yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU, sy'n ei gwneud hi’n ofynnol i leihau allyriadau gan 80 y cant erbyn 2050 o’u cymharu â lefelau 1990. Mae'n rhaid i ni wneud hynny, ac mae’n rhaid i bob un ohonom ni wneud hynny.

Mae modd datgarboneiddio’r sector ynni yn raddol drwy gynyddu cyfran y ffynonellau ynni carbon isel fel ynni adnewyddadwy, fel: gwynt, yn enwedig gwynt ar y môr, sy'n llawer mwy dibynadwy na gwynt ar y tir; ynni solar, a oedd yn boblogaidd iawn ac yna fe benderfynodd y Llywodraeth Geidwadol, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol, dorri’r cymhorthdal ​​arno; ac ynni'r llanw, ac rwy’n siarad fel rhywun a allai siarad am y dau funud a hanner nesaf ar ynni llanw, hyd yn oed pe na byddech chi’n caniatáu i mi wneud hyny, Dirprwy Lywydd. Ond mae'n ddibynadwy. Mae'n un peth yr ydym ni’n ei wybod—bydd y llanw a’r trai yn parhau, cyn bellad â bod y lleuad yn aros yn ei le. Os bydd y lleuad wedi mynd, mae gennym ni broblem fwy na'r ffaith fod ynni'r llanw wedi mynd.

Felly, mae angen i ni ddefnyddio’r mathau amgen hyn o ynni. Mae angen i ni ddefnyddio ceir trydan. Mae angen i ni ddechrau meddwl—yn y geiriau anfarwol hynny: dim ond un blaned sydd gennym ni; os dinistriwn ni hi, ni allwn fynd a defnyddio un arall. Dyna yn wir yw’r allwedd.

Dadl arall sydd wedi ei mynegi yw bod Cymru yn rhy fach ac nad oes ots beth a wnawn ni. Mae’r hyn a wnawn ni fel unigolion i gyd o bwys mawr. Fe wyddom ni fod angen i bawb ddatgarboneiddio—gwledydd mawr a gwledydd bychain, yr ynysoedd lleiaf a'r gwledydd mwyaf. Mae angen hyd yn oed i America Donald Trump ddatgarboneiddio. Mae angen i ni chwarae ein rhan i sicrhau byd cynaliadwy. Ar ba gam y byddwn ni’n dweud, 'O, wel, fe awn ni yn ôl a dechrau eto'? Oherwydd allwn ni ddim. Os aiff y Ddaear yn rhy boeth, bydd hi’n amhosibl i bobl fyw mewn rhannau helaeth ohoni. Bydd pobl yn marw, ni fyddwn yn cael y bwyd yr ydym ni wedi arfer ag ef, a bydd lefel y dŵr yn codi. Mae'n gwbl amlwg y dyddiau hyn: mae angen i ni sicrhau ein bod yn datgarboneiddio, a chroesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau gwneud hynny.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:59, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno dadl heddiw. Mae gennym ni ddiddordeb mewn materion amgylcheddol yn UKIP ac, yn arbennig, rydym ni’n pryderu bod ansawdd yr aer yn gwaethygu. Mae hon yn agwedd a godwyd yn benodol gan Blaid Cymru yn eu pedwerydd gwelliant heddiw. Allwn ni ddim osgoi y bygythiad iechyd cynyddol a achosir oherwydd bod ansawdd yr aer o'n cwmpas yn gwaethygu, fel mae nifer yr achosion cynyddol o asthma a chyflyrau iechyd eraill cysylltiedig yn ei ddangos. Mae llawer o gymunedau trefol yng Nghymru yn dioddef oherwydd bod ansawdd yr aer yn dirywio ac fe gafwyd tystiolaeth yn ddiweddar fod gan Crymlyn yn y de-ddwyrain un o'r amgylcheddau gwaethaf o ran ansawdd aer yn y DU gyfan. Mae hyn yn peri digon o bryder i drigolion Crymlyn, wrth gwrs, ond y gwir amdani yw bod melltith ansawdd aer gwael yn effeithio ar y rhan fwyaf o'n hardaloedd adeiledig yng Nghymru. Mae angen i ni wneud yr hyn a allwn ni i fynd i'r afael â'r mater hwn ac rydym ni’n ategu’r galwadau ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer yn rhan o'i rhaglen o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus. Felly, rydym ni’n cefnogi gwelliant 4 Plaid Cymru.

Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a gododd Mike Hedges am yr hyn y cyfeirir ato fel gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Rwy’n meddwl, weithiau, bod yr ymadrodd ei hun ychydig yn gamarweiniol gan nad oes, weithiau, wadu bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, ond yn hytrach amheuaeth ynglŷn â faint o newid yn yr hinsawdd mae dyn yn gyfrifol amdano. Felly, efallai, weithiau, bod mwy o fân amrywiaeth na dewis syml, du neu wyn, o ran pa un a ydym ni’n derbyn bod newid yn yr hinsawdd ai peidio. Felly, gobeithio y byddwch yn cydnabod fod yna amrywiaeth barn ar y mater hwn.

Rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth yn gyffredinol. Credwn y gwneir llawer o ymdrech yn rhyngwladol ac yn y DU i geisio lleihau allyriadau carbon gydag ychydig iawn o effaith gadarnhaol. Unwaith eto, rwy’n derbyn yr hyn y mae Mike Hedges newydd ei ddweud, bod angen i ni wneud ymdrech yng Nghymru. Fodd bynnag, ein barn sylfaenol ni, ein cynsail sylfaenol yw bod ein hallyriadau carbon yn y DU yn ddiferyn yn y môr o’u cymharu â rhai Tsieina, er enghraifft. Nid yw hi’n bosibl gweithredu i leihau allyriadau byd-eang yn effeithiol heblaw bod hynny’n digwydd ar lefel fyd-eang, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys deddfwriaeth orfodol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar effaith llygru Tsieina a gwledydd eraill sy’n llygru ar raddfa fawr.

Yn y DU, mae effaith negyddol sylweddol yn ein hymdrechion i leihau allyriadau carbon o ran sut mae’r ymdrechion hyn yn effeithio ar bocedi pobl gyffredin. Cynhyrchodd y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang adroddiad ym mis Rhagfyr 2016 yn datgan bod pob aelwyd ym Mhrydain yn talu dros £300 y flwyddyn ar gyfartaledd i leihau allyriadau carbon. Mae hyn er mwyn talu am y newid i ffynonellau ynni drutach er mwyn cydymffurfio â Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Ar lefel Llywodraeth Cymru, bydd cost i'r cyhoedd hefyd o weithredu'r mesurau datgarboneiddio hyn, ac, yn y pen draw, fel mae sawl siaradwr wedi crybwyll heddiw, nid yw’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael effaith sylweddol ar allyriadau carbon. Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y sector cyhoeddus yn gyfrifol am lai nag 1 y cant o gyfanswm allyriadau carbon yng Nghymru, ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hyn yn ei sylwadau agoriadol. Cyfeiriodd siaradwr arall at y ffigur hwnnw hefyd, felly mae'n ymddangos bod consensws ynglŷn â’r ffigur hwnnw. Felly, tybed pam y gwneir ymdrech mor fawr i leihau ymhellach allyriadau mewn sector sydd mor ddibwys yn y darlun ehangach.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:02, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Safbwynt yr Undeb Ewropeaidd ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd oedd bod angen i bob adeilad cyhoeddus newydd fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2018 a phob adeilad newydd erbyn 2020. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, yn gallu egluro beth yw'r sefyllfa, oherwydd rydym ni’n dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'i reoliadau. Credaf ei bod hi’n bwysig iawn cofio bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gorfodi pob un o’r 46 corff cyhoeddus i fynd i'r afael â chynaliadwyedd, ac nid peryglu lles cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy’n cymeradwyo llawer o'r pwyntiau a gododd David Melding—mae’n anodd iawn anghytuno ag ef ar y pwnc hwn—er na fyddaf i, yn anffodus, yn pleidleisio dros ei welliannau.

Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ganmol swyddogaeth coed, y sylwedd, a sut y gall helpu Cymru i gyrraedd ei tharged carbon niwtral yn y sector cyhoeddus erbyn 2030. Oherwydd bod gan y sector cyhoeddus swyddogaeth enfawr i'w chwarae wrth ddangos y ffordd tuag at economi carbon isel i’r sector preifat, pan fo gennym ni ar hyn o bryd adeiladwyr tai preifat blaenllaw sydd mor amharod i newid ac yn parhau i ddefnyddio ffyrdd o adeiladu nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn mynd i'r afael yn briodol â defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'n ymddangos i mi bod defnyddio coed yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig ar gyfer adeiladau, yn ffordd o ddefnyddio pwynt gwerthu unigryw Cymru fel gwlad sydd â digonedd o dir, yn ogystal â thir sy'n addas ar gyfer tyfu coed. Mae'n ddiddorol nodi mai busnesau sy’n gweithio gyda choed yw’r pumed sector diwydiannol mwyaf yn y DU. Felly, mae hyn yn cyfrannu'n fawr iawn at yr economi, ac fe all adeiladu gyda choed newid wyneb datblygu cynaliadwy. Ond mae'n drist mai dim ond 15 y cant o'r coed a ddefnyddiwn ni yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd gaiff eu tyfu yn y DU, ac mai’r DU yw'r trydydd mewnforiwr mwyaf o goed yn y byd.

Mae tai coed yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfrif am lai na 25 y cant o'r holl dai newydd a gaiff eu hadeiladu. Yn yr Alban, mewn gwrthgyferbyniad, mae tai ffrâm coed yn cyfrif am dros 75 y cant o'r farchnad adeiladu newydd. Mae angen i ni dyfu mwy o goed ar frys ac mae’n amlwg nad oes modd gwneud hyn dros nos. Byddai’n cymryd rhwng 25 a 40 mlynedd cyn gallu eu cynaeafu. Ond mae angen i ni hefyd adeiladu llawer mwy o dai er mwyn bodloni anghenion ein poblogaeth, gan gynnwys tai cyngor a mathau eraill o dai cymdeithasol. Mae’r tai mwyaf effeithlon, carbon isel, sy’n perfformio orau ar draws y byd wedi eu hadeiladu o goed. Felly, yn y gorffennol, nid oedd unrhyw reswm i herio swyddogaeth dur a choncrid mewn adeiladu, ond mae newid yn yr hinsawdd yn newid hynny fel popeth arall. Mae pobl fel Michael Green, pensaer o Ganada, yn ein hannog i gyfnewid dur a choncrid am goed mewn llyfr a gyhoeddodd yn 2012. Dywedodd fod dur a choncrid yn:

ddeunyddiau gwych ... ond ... mae angen symiau enfawr o ynni i’w cynhyrchu ac mae ganddyn nhw ôl traed carbon sylweddol.

Mae newid yn yr hinsawdd a'r angen am fwy o dai trefol yn gwrthdaro mewn argyfwng sy'n gofyn am atebion adeiladu ynni isel gydag ôl traed carbon isel.

Fel deunydd adnewyddadwy sy’n tyfu trwy bŵer yr haul, mae coed yn cynnig ffordd newydd o feddwl am ein dyfodol. Mae gwneud hynny yn golygu ailddyfeisio pren; gan ei wneud yn gryfach, yn fwy galluog i wrthsefyll tân, yn fwy gwydn a’i gynaeafu o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Ac nid dim ond Green sy'n dadlau’r achos hwnnw. Mae’r Athro Callum Hill, sy’n arbenigwr ar ddeunyddiau ym Mhrifysgol Napier Caeredin, yn nodi bod cynnyrch coed yn amsugno mwy o garbon nag a ddefnyddir wrth eu cynhyrchu. Maen nhw’n lleihau carbon deuocsid yn yr atmosffer drwy leihau allyriadau a chael gwared ar garbon deuocsid a'i storio. Mae gan goed y gallu unigryw hwnnw. Cymeradwyaf gamau Cyngor Sir Powys o ran mabwysiadu polisi sy’n blaenoriaethu coed, a dyma’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Fe allwn ni weld o'r hyn sydd wedi digwydd yn Hackney yn Llundain, sy’n amlwg yn awdurdod lleol heb fawr ddim tir, ac a fabwysiadodd y polisi coed cyntaf sawl blwyddyn yn ôl, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri am ansawdd ei dai, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus. Mae hon yn ffordd yr wyf i’n teimlo y dylem ni fod yn ei throedio yng Nghymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod pa un a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi meddwl am hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:08, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.  Yn yr hinsawdd economaidd heriol iawn sydd ohoni, rwy’n credu y bydd y ffordd y byddwn ni’n ymateb i'r heriau a'r buddsoddiadau a wnawn yn awr yn sicr yn pennu dichonoldeb y sector cyhoeddus a'n dyfodol ar y cyd yng Nghymru. Fe wyddom ni y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw naill ai yn arwain at gyfnod newydd o gydweithio ac effeithlonrwydd, neu y byddant yn ein caethiwo i ffordd hen ffasiwn ac, yn y pen draw, drutach o ran carbon, a fydd wedyn yn bygwth darpariaeth gwasanaethau allweddol.

Os caf i droi at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Rydym ni’n mynd i’r afael â’r cyllidebau carbon, fel y dywedodd David Melding, yn unol â’r amserlen a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar amseriad y rheoliadau eisoes pan aeth y ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad blaenorol. Nid wyf am geisio symud amserlen y gyllideb garbon ymlaen. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y cyllidebau hynny a'r targedau interim ar y lefelau cywir. Mae angen iddyn nhw fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac, fel y dywedasoch chi, mae gennym ni hyd at ddiwedd 2018. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 2. Bydd cyllidebau carbon yn ymgorffori’r darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn. Rwy’n gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd, credwch chi fi, yn ein gwylio yn fanwl iawn, ym maes datgarboneiddio, i sicrhau ein bod yn ymgorffori’n llawn holl egwyddorion a nodau’r Ddeddf yn ein holl waith datgarboneiddio, nid yn unig yn y sector cyhoeddus.

Ni fyddwn yn cefnogi'r trydydd gwelliant. Wrth ystyried pa un a ddylai Llywodraeth Cymru naill ai ddatblygu neu hyrwyddo cwmni ynni cyhoeddus, mae'n hollbywsig bod yn glir iawn ynghylch diben corff o'r fath a'r manteision, y peryglon a’r costau posibl. Mae llawer o'r swyddogaethau a gynigiwyd gan Ynni Cymru eisoes yn cael eu datblygu drwy raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis ein rhaglen Cartrefi Cynnes, y Gwasanaeth Ynni Lleol a swyddfa gymorth Twf Gwyrdd Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus.

Bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol o drafodaethau blaenorol ein bod wedi cael cyfres o ddigwyddiadau i gychwyn sgwrs gyda rhanddeiliaid ym mis Mawrth eleni, ac roedd hynny yn ymwneud â’r posibilrwydd o sefydlu cwmni ynni o'r fath ar gyfer Cymru, a sut y gallai hynny gyd-fynd â'n swyddogaeth o ran hyrwyddo’r broses o ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn a wnaeth y digwyddiadau hynny, mewn gwirionedd, oedd rhoi consensws clir iawn ynghylch y peryglon, yr heriau a'r tensiynau anorfod petai Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yna’n rhedeg cwmni cyflenwi ynni, a fyddai’n gorbwyso’n gryf iawn, rwy’n tybio, y manteision posibl o wneud hynny. Ac rwy’n credu mai’r neges a gefais i yn y digwyddiadau hynny yw bod angen i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar lenwi'r bylchau, gan gysylltu a chefnogi pethau na fyddai’n digwydd yn naturiol.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 4. Mae modd i ymdrechion a wneir i leihau allyriadau carbon fynd i'r afael hefyd ag allyriadau o lygryddion aer, ac mae'n bwysig bod cymaint â phosib o gyd-dynnu ac o osgoi effeithiau negyddol anfwriadol. Byddwn yn cydweithio i ddatblygu ein fframwaith parthau aer glân i Gymru ac, unwaith eto, caiff y gwaith hwnnw ei adlewyrchu yn y gweithgor rhanddeiliaid Brexit ar yr aer a’r hinsawdd.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 5. Mae cefnogaeth ar gael i'r sector cyhoeddus addasu er mwyn cyflwyno mannau i wefrio cerbydau trydan, er enghraifft, yn eu safleoedd, ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr. Ac rydym ni’n cefnogi prosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyfeiriais i ato yn fy sylwadau agoriadol, ac a arweiniodd at osod seilwaith o'r fath. Nid yw hyn yn eithriadol o gymhleth, nid yw’n rhy ddrud, ac rwy’n disgwyl yn syml i'r sector cyhoeddus gyflawni hynny.

A byddwn yn cefnogi gwelliant 6. Mae ein rhaglen Byw yn Glyfar yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, y byd academaidd a busnesau i gyflwyno ystod o ddyfeisiau arddangos clyfar, gan gynnwys uchelgeisiau o ran hydrogen. Mae’n bosibl y bydd hydrogen yn bwysig yn y dyfodol fel cyfrwng i gludo a storio ynni, ac yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi sefydlu grŵp cyfeirio hydrogen sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector, gyda'r nod o gyflwyno arddangosydd hydrogen a allai gynnwys trafnidiaeth.

Os caf i droi at sylwadau'r Aelodau, rwy’n credu bod David Melding wedi deall yn union pam yr ydym ni’n gwneud hyn gyda'r sector cyhoeddus, er ei fod yn cyfrif am ddim ond 1 y cant o'n hallyriadau; mae a wnelo â’r ffactor lluosogi y soniasoch chi amdano. A, dim ond i dawelu eich meddwl, rwy’n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gael gwell perthynas yn y dyfodol rhwng ein cyllidebau cyllid a'n cyllidebau carbon.

Fe gyfeiriodd Simon Thomas at staff yn cymudo, er enghraifft, ac fe siaradodd hefyd am brosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y gwaith a wnaethon nhw o ran bod eu staff yn cymudo a gosod y seilwaith o ran cerbydau carbon isel yn drawiadol iawn. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried gwneud prosiect tebyg ar draws ystâd Llywodraeth Cymru a chyda’n swyddogion, ac rwy’n meddwl y bydd hi’n dipyn o syndod i ni weld beth ddaw o hynny. Ar hyn o bryd rwy’n mynd trwy broses gaffael i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws ein hystâd, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei gwblhau erbyn yr hydref.

Pwysleisiodd Mike Hedges na allwn ni ddal ati fel yr ydym ni a’r rhesymau am hynny. Mae a wnelo hyn nid yn unig â’r swyddi a’r cyfleoedd fyddai’n deillio o economi carbon isel; mae'n ymwneud â'r manteision iechyd, ac fe gyfeiriodd Gareth Bennett at yr angen i edrych ar ansawdd yr aer yn rhan o hynny. A dyna pam yr ydym yn cefnogi gwelliant 4.

Soniodd Jenny Rathbone am ddefnyddio coed ar gyfer adeiladu tai, ac rwy'n awyddus iawn i weld hynny. Ac yn fy nhrafodaethau gyda nid yn unig Ysgrifenyddion y Cabinet ond Gweinidogion hefyd, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cafodd Julie James a minnau drafodaeth hir am sgiliau, gan ei bod hi’n bwysig iawn bod y sgiliau i wneud hynny yn bodoli. Roeddwn i’n falch iawn o gael agor Pentre Solar y llynedd, sef tai yn y gorllewin sydd wedi eu hadeiladu o goed. Cytunaf yn llwyr â chi fod angen i ni dyfu mwy o goed, ac rydych chi'n iawn: mae’r polisïau yr ydym ni’n eu gweithredu nawr yn rhai tymor hir iawn; rydym ni’n sôn am 30 mlynedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddais i gael Confor a Chyfoeth Naturiol Cymru i’r un ystafell, gan ei bod hi’n bwysig iawn nad ydym ni’n plannu mwy o goed yn unig, ond ein bod yn plannu'r coed iawn yn y lleoedd iawn yn y dyfodol.

Soniais mai ein huchelgais yw i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Rwy'n credu fy mod i wedi amlygu’r dystiolaeth sy'n dangos bod y sector wir yn cael dylanwad sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn dangos yr arweinyddiaeth honno. Ac fe hoffwn i annog pob cyd-Aelod i ymateb i'r alwad am dystiolaeth ynglŷn â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, er mwyn i ni gael yr ystod eang o dystiolaeth honno er mwyn i ni allu ystyried sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r mater pwysig iawn hwn. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni’n gohirio pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.