7. 7. Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:34, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Pan oeddwn i yn y COP22 ym Marrakesh fis Tachwedd diwethaf, gwelais yn glir sut mae pontio i economi carbon isel yn dod â llawer o gyfleoedd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, twf glân, swyddi o ansawdd uchel a manteision y farchnad fyd-eang. Nid dim ond yn yr economi mae modd gweld hyn. Mae manteision ehangach megis lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, gydag aer a dŵr glân a gwell iechyd o ganlyniad. Y manteision ehangach hyn yw gwir hanfod yr hyn y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gobeithio ei gyflawni yn y sector cyhoeddus. Efallai y byddwch yn holi pam rwy'n awyddus i gymryd camau yn benodol yn y sector cyhoeddus ynglŷn â datgarboneiddio pan nad yw ond yn cyfrif am gyfran fechan o’n hallyriadau yng Nghymru, sef 1 y cant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn datgarboneiddio mor drylwyr ag sy’n ofynnol, mae angen arweiniad ar lefelau cenedlaethol a lleol. Mae'r sector cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar allyriadau yn llawer ehangach drwy gaffael, darparu eu gwasanaethau ac ymgysylltu â'u cymunedau.

O’u hystyried gyda'i gilydd, mae gan y sector cyhoeddus un o'r ystadau mwyaf yng Nghymru, ac felly, mae ganddo swyddogaeth bwysig wrth leihau ei allyriadau ei hun a dylanwadu ar ei gwsmeriaid a chontractwyr i gymryd camau tebyg. Mae hyn yn golygu lleihau defnydd ynni ac allyriadau carbon uniongyrchol y sector cyhoeddus a'r allyriadau anuniongyrchol sy'n dod o ddarparu gwasanaethau megis addysg, iechyd a lles, seilwaith ac ynni, trafnidiaeth a gwastraff.

Nid yw hwn yn faes newydd i’r sector cyhoeddus. Roedd ein strategaeth newid hinsawdd wreiddiol yn canolbwyntio ar gamau gweithredu yn ymwneud â’r sector yn gwella effeithlonrwydd ein hysgolion a'n hysbytai. Ochr yn ochr â hyn mae’r UE, y DU a Chymru wedi rhoi deddfwriaeth ar waith, ac yn fwyaf diweddar, gwelwyd gweithredu ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy'n tynnu sylw at swyddogaeth allweddol newid yn yr hinsawdd yn y gwaith o gyflawni ein targedau lles.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus ers peth amser. Mae ein menter Twf Gwyrdd Cymru yn buddsoddi dros £2 filiwn y flwyddyn, gan gefnogi’r gwaith o nodi a chyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau cyhoeddus a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael, a ategir gan gyllid buddsoddi i arbed nad oes tebyg iddo yng ngweddill y DU. Caiff yr arbedion sy'n deillio o leihau costau eu defnyddio i ad-dalu'r cyllid buddsoddi a rhoi hwb economaidd sylweddol i’n busnesau. Erbyn diwedd tymor presennol y Llywodraeth, rydym ni’n disgwyl y byddwn ni wedi buddsoddi bron i £70 miliwn mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus.

Ond mae'r cyfle yn llawer mwy. Yn rhan o waith cychwynnol Twf Gwyrdd Cymru yn y sector cyhoeddus, nodwyd cyfres o brosiectau gyda gwerth cyfalaf o bron iawn i £500 miliwn. Mae fy swyddogion wrthi'n gwerthuso'r gefnogaeth bresennol ac yn gofyn am farn y sector cyhoeddus ar feysydd i'w gwella neu gymorth ychwanegol.

Bydd ein cyllid yn parhau i alluogi buddiannau wrth iddo gael ei ad-dalu a'i ailgylchu i brosiectau newydd. Mae defnyddio ein harian yn y modd hwn yn golygu ein bod yn disgwyl arbed tua £650 miliwn o arian parod ar ynni a lleihau allyriadau gan 2.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn ystod oes yr asedau yr ydym yn eu hariannu. Er enghraifft, yn gynharach eleni, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn cyllid o £4.5 miliwn er mwyn galluogi Cyngor Sir Fynwy i adeiladu fferm solar Oak Grove, a fydd yn cynhyrchu incwm o dros £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer yr awdurdod a chyflawni arbedion o bron i 50,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei oes. Roeddwn i hefyd yn gallu cefnogi rhaglen goleuadau stryd LED Cyngor Sir y Fflint gyda benthyciad o £3 miliwn, gan alluogi arbedion blynyddol o £400,000 ar gyfer yr awdurdod ac arbediad oes o dros 25,000 tunnell o garbon deuocsid.

Rydym ni hefyd wedi gwneud camau breision o ran trin gwastraff, gyda rhaglen wastraff Llywodraeth Cymru yn cyflawni cyfraddau ailgylchu trefol sydd y trydydd uchaf yn y byd, gan arwain at leihau allyriadau carbon yn sylweddol a chymell buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat yng Nghymru.

Yn y DU ac mewn mannau eraill yn y byd, rydym yn gweld gweithredu penodol yn y sector cyhoeddus. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddyletswydd i gyflwyno adroddiadau ynglŷn â chyrff cyhoeddus lle mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno adroddiadau blynyddol ar nifer o feysydd megis llywodraethu, allforio ynni adnewyddadwy, rhoi amcan o arbedion carbon a fydd yn deillio o brosiectau yn y dyfodol ac amcanion caffael. Mae British Columbia wedi deddfu y bydd ei sector cyhoeddus cyfan yn garbon niwtral drwy leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net bob blwyddyn. Ers 2010, mae ei sector cyhoeddus cyfan wedi bod yn mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy'n cynnwys y defnydd o ynni o adeiladau, fflydau cerbydau, offer a phapur.

Yng Nghymru, er bod gweithgarwch hyd yma wedi canolbwyntio'n bennaf ar leihau allyriadau o asedau a gwastraff y sector cyhoeddus, mae gwaith eisoes ar y gweill sy'n archwilio sut y gall gweithgarwch sefydliad sector cyhoeddus effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyfanswm allyriadau. Caiff yr allyriadau hyn eu dosbarthu i allyriadau uniongyrchol megis cyfleusterau a cherbydau cwmni, a dau fath o allyriadau anuniongyrchol: y rhai a ddaw yn benodol o drydan a brynwyd ac a ddefnyddiwyd gan y sefydliad, a'r rhai o ffynonellau nad ydyn nhw o fewn rheolaeth y sefydliad, megis caffael nwyddau a gwasanaethau a gweithwyr yn cymudo.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac roedd hi’n braf cael gwybod am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud yn eu prosiect Carbon Cadarnhaol. Mae'r prosiect wedi dangos bod dros 80 y cant o'u hallyriadau yn anuniongyrchol, a bod 60 y cant yn deillo o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unig. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i edrych nid yn unig ar faint o allyriadau’r sector cyhoeddus sy’n deillio o'u hasedau, ond hefyd o’u gweithgarwch ehangach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi gosod mannau gwefru, wedi prynu cerbydau trydan ac yn bwriadu gwella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad, gan gydnabod yr achos busnes economaidd dros wneud hynny.

Er mwyn cyrraedd ein targed tymor hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob dull sydd ar gael i gyrraedd ein gostyngiad o 80 y cant, gan sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru. Ein huchelgais felly yw gosod targedau datgarboneiddio heriol ond cyraeddadwy ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, ac i sicrhau bod uwch gydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn rhoi lle blaenllaw i leihau carbon a thwf gwyrdd wrth ddatblygu strategaethau, cyflwyno rhaglenni a gwneud penderfyniadau.

Mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus yng Nghymru arwain y ffordd mewn maes a fydd yn cael effaith mor sylweddol ar ein dinasyddion, cymunedau a busnesau. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu'r economi carbon isel ymhellach yng Nghymru, a bydd arwain y gwaith o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fodd o roi neges bwysig a chyson i fuddsoddwyr a busnesau. Mae Datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, er yn heriol, hefyd yn haws i'w gyflawni nag mewn meysydd eraill o'r economi. Mae’n rhaid i ddatgarboneiddio felly fod yn drylwyr, a chael ei gyflawni yn gymharol gyflym, a hynny ar draws holl weithgareddau’r sector cyhoeddus. Ein huchelgais, felly, yw bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae sawl ffordd o gyflawni’r uchelgais a’r modd y gallwn ni fonitro cynnydd i alluogi'r cyhoedd a busnesau i weld sut yr ydym ni’n cyflawni ein hymrwymiad, a chynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu. Y mis nesaf, byddaf yn galw am dystiolaeth yn ymwneud â’r uchelgais hon, a fydd yn gofyn i randdeiliaid nodi'r dystiolaeth ynglŷn â’r cyfleoedd a'r heriau o amgylch y prif darged, dweud eu dweud ar dargedau interim posibl, a sut maen nhw’n teimlo y dylem ni fonitro ac olrhain cynnydd. Bydd yr alwad am dystiolaeth yn helpu i lywio'r ffordd yr ydym ni’n cyflymu'r gwaith yn y maes pwysig hwn. Croesawaf eich barn ynglŷn â’n huchelgais o ran datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, sut y byddwn yn mynd i'r afael â heriau arbennig ac yn gwireddu’r cyfleoedd a’r manteision sylweddol sy’n gysylltiedig â'r agenda hon.