Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon; Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig. Rwyf hefyd yn croesawu'r camau breision a wnaed i leihau’r ôl troed carbon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o arweiniad yn y maes hwn, ond byddwn yn dweud, cyn i mi roi’r argraff fy mod yn rhy hael, nad ydym ni eto lle yr hoffem ni fod, ac efallai o’i gymharu â rhai ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, fe allem ni wneud yn well.
Yn 2014, roedd lefel yr allyriadau yng Nghymru tua 18 y cant yn is na lefel 1990. Mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 36 y cant yn y DU yn ei chyfanrwydd. Mae Cymru’n cyfrif am 9 y cant o’r allyriadau ar draws y DU ar hyn o bryd, gyda dim ond 5 y cant o boblogaeth y DU. Nawr, mae yna resymau am hyn, fel ein treftadaeth ddiwydiannol. Fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy o ddifrif na rhannau eraill o'r DU ynglŷn â’r mater hwn. Mae'n fater hollbwysig iddyn nhw hefyd, ond mae yn dod â heriau ychwanegol yn ei sgil i ni.
Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y sector cyhoeddus, sydd ag allyriadau cymharol isel, er fy mod yn meddwl—. Wn i ddim a yw hyn yn ddealladwy, ond fe all gael effaith sylweddol iawn o ran lluosydd. Hynny yw, mae’r cymudo yn un peth—yr holl weision cyhoeddus hynny yn gyrru i’w gwaith fesul un. Ond fe allwn ni fod yn fwy dychmygus na hynny, gan edrych ar sut mae myfyrwyr yn cyrraedd yr ysgol ac ar y daith i’r ysgol. Mae nifer o faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yn cynhyrchu allyriadau uchel iawn ar hyn o bryd.
A gaf i droi at ein dau welliant? Roedd arnom ni eisiau gwella rhywfaint ar y cynnig hwn, ond diben y ddau yw gwella ein perfformiad cyffredinol yn y fan yma, a bod yn adeiladol. Mae’r cyntaf, yn ymwneud â chyllidebau carbon: Nawr, mae'r rhain yn offerynnau hanfodol i leihau cyllidebau cenedlaethol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf iawn i ddefnyddio’r offeryn penodol hwn hyd yma. Os trof at adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n datgan bod yn rhaid i ni osod cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf—sef o 2016 i 2020, ac yna o 2021 i 2025—a bod yn rhaid gosod y rhain, neu o leiaf yr un cyntaf, cyn diwedd 2018. Wel, rydym ni, mewn gwirionedd, bron iawn hanner ffordd drwy'r cyfnod cyllidebol cyntaf, a does dim argoel i’w weld y caiff y gyllideb ei sefydlu mewn deddfwriaeth—nid yw’r dyddiad cau wedi cyrraedd eto. Ond os ydych chi’n cymharu’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yn y maes hwn—ac fe wnaed hynny gan weinyddiaeth Lafur, gyda llaw—yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, fe grëwyd rhwymedigaethau statudol ar gyfer cyllidebau carbon. Daeth y Ddeddf i rym ym mis Tachwedd 2008, ac fe gyhoeddwyd y lefelau ar gyfer y cyllidebau carbon yn y mis Ebrill canlynol, yn 2009, ac fe gawson nhw eu cymeradwyo a’u rhoi mewn grym ym mis Mai 2009.