Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Yn yr hinsawdd economaidd heriol iawn sydd ohoni, rwy’n credu y bydd y ffordd y byddwn ni’n ymateb i'r heriau a'r buddsoddiadau a wnawn yn awr yn sicr yn pennu dichonoldeb y sector cyhoeddus a'n dyfodol ar y cyd yng Nghymru. Fe wyddom ni y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw naill ai yn arwain at gyfnod newydd o gydweithio ac effeithlonrwydd, neu y byddant yn ein caethiwo i ffordd hen ffasiwn ac, yn y pen draw, drutach o ran carbon, a fydd wedyn yn bygwth darpariaeth gwasanaethau allweddol.
Os caf i droi at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Rydym ni’n mynd i’r afael â’r cyllidebau carbon, fel y dywedodd David Melding, yn unol â’r amserlen a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar amseriad y rheoliadau eisoes pan aeth y ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad blaenorol. Nid wyf am geisio symud amserlen y gyllideb garbon ymlaen. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y cyllidebau hynny a'r targedau interim ar y lefelau cywir. Mae angen iddyn nhw fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac, fel y dywedasoch chi, mae gennym ni hyd at ddiwedd 2018. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 2. Bydd cyllidebau carbon yn ymgorffori’r darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn. Rwy’n gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd, credwch chi fi, yn ein gwylio yn fanwl iawn, ym maes datgarboneiddio, i sicrhau ein bod yn ymgorffori’n llawn holl egwyddorion a nodau’r Ddeddf yn ein holl waith datgarboneiddio, nid yn unig yn y sector cyhoeddus.
Ni fyddwn yn cefnogi'r trydydd gwelliant. Wrth ystyried pa un a ddylai Llywodraeth Cymru naill ai ddatblygu neu hyrwyddo cwmni ynni cyhoeddus, mae'n hollbywsig bod yn glir iawn ynghylch diben corff o'r fath a'r manteision, y peryglon a’r costau posibl. Mae llawer o'r swyddogaethau a gynigiwyd gan Ynni Cymru eisoes yn cael eu datblygu drwy raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis ein rhaglen Cartrefi Cynnes, y Gwasanaeth Ynni Lleol a swyddfa gymorth Twf Gwyrdd Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus.
Bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol o drafodaethau blaenorol ein bod wedi cael cyfres o ddigwyddiadau i gychwyn sgwrs gyda rhanddeiliaid ym mis Mawrth eleni, ac roedd hynny yn ymwneud â’r posibilrwydd o sefydlu cwmni ynni o'r fath ar gyfer Cymru, a sut y gallai hynny gyd-fynd â'n swyddogaeth o ran hyrwyddo’r broses o ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn a wnaeth y digwyddiadau hynny, mewn gwirionedd, oedd rhoi consensws clir iawn ynghylch y peryglon, yr heriau a'r tensiynau anorfod petai Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yna’n rhedeg cwmni cyflenwi ynni, a fyddai’n gorbwyso’n gryf iawn, rwy’n tybio, y manteision posibl o wneud hynny. Ac rwy’n credu mai’r neges a gefais i yn y digwyddiadau hynny yw bod angen i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar lenwi'r bylchau, gan gysylltu a chefnogi pethau na fyddai’n digwydd yn naturiol.
Byddwn yn cefnogi gwelliant 4. Mae modd i ymdrechion a wneir i leihau allyriadau carbon fynd i'r afael hefyd ag allyriadau o lygryddion aer, ac mae'n bwysig bod cymaint â phosib o gyd-dynnu ac o osgoi effeithiau negyddol anfwriadol. Byddwn yn cydweithio i ddatblygu ein fframwaith parthau aer glân i Gymru ac, unwaith eto, caiff y gwaith hwnnw ei adlewyrchu yn y gweithgor rhanddeiliaid Brexit ar yr aer a’r hinsawdd.
Byddwn yn cefnogi gwelliant 5. Mae cefnogaeth ar gael i'r sector cyhoeddus addasu er mwyn cyflwyno mannau i wefrio cerbydau trydan, er enghraifft, yn eu safleoedd, ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr. Ac rydym ni’n cefnogi prosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyfeiriais i ato yn fy sylwadau agoriadol, ac a arweiniodd at osod seilwaith o'r fath. Nid yw hyn yn eithriadol o gymhleth, nid yw’n rhy ddrud, ac rwy’n disgwyl yn syml i'r sector cyhoeddus gyflawni hynny.
A byddwn yn cefnogi gwelliant 6. Mae ein rhaglen Byw yn Glyfar yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, y byd academaidd a busnesau i gyflwyno ystod o ddyfeisiau arddangos clyfar, gan gynnwys uchelgeisiau o ran hydrogen. Mae’n bosibl y bydd hydrogen yn bwysig yn y dyfodol fel cyfrwng i gludo a storio ynni, ac yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi sefydlu grŵp cyfeirio hydrogen sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector, gyda'r nod o gyflwyno arddangosydd hydrogen a allai gynnwys trafnidiaeth.
Os caf i droi at sylwadau'r Aelodau, rwy’n credu bod David Melding wedi deall yn union pam yr ydym ni’n gwneud hyn gyda'r sector cyhoeddus, er ei fod yn cyfrif am ddim ond 1 y cant o'n hallyriadau; mae a wnelo â’r ffactor lluosogi y soniasoch chi amdano. A, dim ond i dawelu eich meddwl, rwy’n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gael gwell perthynas yn y dyfodol rhwng ein cyllidebau cyllid a'n cyllidebau carbon.
Fe gyfeiriodd Simon Thomas at staff yn cymudo, er enghraifft, ac fe siaradodd hefyd am brosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y gwaith a wnaethon nhw o ran bod eu staff yn cymudo a gosod y seilwaith o ran cerbydau carbon isel yn drawiadol iawn. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried gwneud prosiect tebyg ar draws ystâd Llywodraeth Cymru a chyda’n swyddogion, ac rwy’n meddwl y bydd hi’n dipyn o syndod i ni weld beth ddaw o hynny. Ar hyn o bryd rwy’n mynd trwy broses gaffael i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws ein hystâd, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei gwblhau erbyn yr hydref.
Pwysleisiodd Mike Hedges na allwn ni ddal ati fel yr ydym ni a’r rhesymau am hynny. Mae a wnelo hyn nid yn unig â’r swyddi a’r cyfleoedd fyddai’n deillio o economi carbon isel; mae'n ymwneud â'r manteision iechyd, ac fe gyfeiriodd Gareth Bennett at yr angen i edrych ar ansawdd yr aer yn rhan o hynny. A dyna pam yr ydym yn cefnogi gwelliant 4.
Soniodd Jenny Rathbone am ddefnyddio coed ar gyfer adeiladu tai, ac rwy'n awyddus iawn i weld hynny. Ac yn fy nhrafodaethau gyda nid yn unig Ysgrifenyddion y Cabinet ond Gweinidogion hefyd, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cafodd Julie James a minnau drafodaeth hir am sgiliau, gan ei bod hi’n bwysig iawn bod y sgiliau i wneud hynny yn bodoli. Roeddwn i’n falch iawn o gael agor Pentre Solar y llynedd, sef tai yn y gorllewin sydd wedi eu hadeiladu o goed. Cytunaf yn llwyr â chi fod angen i ni dyfu mwy o goed, ac rydych chi'n iawn: mae’r polisïau yr ydym ni’n eu gweithredu nawr yn rhai tymor hir iawn; rydym ni’n sôn am 30 mlynedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddais i gael Confor a Chyfoeth Naturiol Cymru i’r un ystafell, gan ei bod hi’n bwysig iawn nad ydym ni’n plannu mwy o goed yn unig, ond ein bod yn plannu'r coed iawn yn y lleoedd iawn yn y dyfodol.
Soniais mai ein huchelgais yw i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Rwy'n credu fy mod i wedi amlygu’r dystiolaeth sy'n dangos bod y sector wir yn cael dylanwad sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn dangos yr arweinyddiaeth honno. Ac fe hoffwn i annog pob cyd-Aelod i ymateb i'r alwad am dystiolaeth ynglŷn â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, er mwyn i ni gael yr ystod eang o dystiolaeth honno er mwyn i ni allu ystyried sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r mater pwysig iawn hwn. Diolch.