8. 8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:17, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynt y Bil hwn yng Nghyfnod 4 o’r ddeddfwriaeth hon. Fel y gwnaethoch chi eich hun ei nodi dros wythnosau a misoedd y broses hon, efallai na fydd y dreth dirlenwi, yr ail dreth i gael ei datganoli, yn destun sgyrsiau mewn tafarndai a chlybiau ar draws y wlad. Serch hynny, mae'n dreth bwysig, yn offeryn pwysig ym mlwch offer Llywodraeth Cymru, y siaredir yn aml amdano. Ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod gennym ein holynydd ein hunain i’r dreth honno, pan gaiff y dreth dirlenwi ledled y DU ei diffodd ym mis Ebrill 2018. Mae’r dyddiad cau hwnnw yn prysur agosáu, felly rydym ni’n gwerthfawrogi bod angen i Lywodraeth Cymru gael dewis arall.

Mae'n dreth bwysig oherwydd ei hagwedd amgylcheddol, a drafodwyd yn helaeth gan aelodau pwyllgor yn sesiynau’r Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, dros gyfnod o amser, rydym yn gobeithio y bydd yr incwm a ddaw o’r dreth yn lleihau oherwydd ein bod yn gobeithio y bydd maint y tirlenwi yn gostwng dros amser. Ond mae galw mawr am y dreth hon ar hyn o bryd, a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol rhagweladwy.

Hoffwn ddiolch i chi hefyd am y ffordd yr ydych chi —a’ch swyddogion—wedi ymdrin â mi ac am y ffordd yr ydych wedi ymdrin â Simon Thomas, Cadeirydd y pwyllgor a'r Pwyllgor Cyllid? Nid yw wedi bod yn dreth, yn dasg hawdd bob amser—rwyf wedi cymysgu fy nhrethi a’m tasgau. Fe wnes i ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf y gall deddfwriaeth trethi, hyd yn oed pan mae’n ymddangos yn syml iawn ar y dechrau, fod yn fater llawer mwy cymhleth nag a ragwelwyd yn y lle cyntaf, ar ddiwedd y dydd. Felly, diolch i chi am eich amynedd ac am amynedd eich swyddogion.

Fel y dywedasoch yn eich sylwadau agoriadol, y cam nesaf fydd gweithredu. Hyd yn oed ers y broses gysylltiedig â Cham 3 a Cham 2 a'r gwelliannau a wnaed, fel y gwyddoch, mae un neu ddau o welliannau, na chafodd eu cyflwyno ar y pryd am wahanol resymau, wedi denu fy sylw, ac mae’r broses o weithredu a datblygu’r dreth i'w gwneud o hyd. Gwnaethoch nifer o addewidion yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid y byddech chi’n gwylio’r broses honno yn agos iawn ac y byddech chi, lle nad yw'r gwelliannau wedi eu cyflwyno i ymdrin â phob agwedd ar hyn, yn cadw llygad barcud i sicrhau bod y dreth yn datblygu yn y ffordd y byddech chi a’r pwyllgor yn ei dymuno, a bod ysbryd y ddeddfwriaeth honno yn datblygu gyda’r amser i ddod.

Rwy’n gobeithio y byddwch ar wyliadwriaeth nawr, ac rwy’n gobeithio, pan fydd diffygion yn dod i’r amlwg—. Oherwydd nid oes unrhyw dreth yn berffaith yn ei datblygiad cychwynnol, felly rwy'n siŵr y bydd—yn sicr fe fydd—diffygion a ddaw i’r amlwg yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy’n gobeithio y byddwch chi a Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus i sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Mae gennym y dreth trafodiadau tir ar yr un pryd, ac rydych eisoes wedi crybwyll Awdurdod Cyllid Cymru, a gwn eich bod yn ymdopi â llawer o dasgau ar yr un pryd gyda'r holl waith hwn o ddatganoli trethi. Fel y gwyddoch ac rwyf i wedi dweud, nid yw'n dasg hawdd. Rydym yn fwy na bodlon, o fewn y Ceidwadwyr Cymreig, i'ch cefnogi chi ar y llwybr anodd hwn, ac rwy’n gwybod eich bod yn cael cefnogaeth aelodau pwyllgor eraill ac Aelodau eraill o'r Siambr hon i sicrhau bod y broses hon o ddatganoli trethi mor ddidrafferth ac mor broffesiynol ac, ar ddiwedd y dydd, mor syml a dealladwy â phosibl i’r bobl allan yna, nid yn unig i’r bobl i mewn yma.