– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 27 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r ddadl ar Gam 4 o'r Bil Treth Tirlenwi Gwarediadau (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gyflwyno’r cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w gymeradwyo.
Can I very briefly thank all those who’ve been involved during the passage of the Bill, a committed and expert group of officials who have provided exemplary advice throughout the development and passage of the Bill? As Members here will know, there is a small base of taxpayers in this field here in Wales in a technical, specialist area and I’ve been very grateful to them, the practitioners, for their willingness to contribute their expertise throughout the Bill’s development.
I’m especially grateful to the Assembly committees who’ve had the responsibility of scrutinising the Bill, both the Constitutional and Legislative Affairs Committee and especially the Finance Committee and its Chair, Simon Thomas. Scrutiny has improved this Bill, Dirprwy Lywydd, from the very specific issues of how waste should be weighed or water discounts calculated to the broader matters of identifying the environmental purpose of the tax on the face of the Bill and a reference there to the communities scheme.
The next phase of work will now involve the implementation of the two taxes brought before the Assembly in the first year of this Assembly term and the formal establishment of the Welsh Revenue Authority in October, with a first meeting of the newly established WRA board.
Dirprwy Lywydd, I believe that this Assembly has taken a collaborative and constructive approach to this legislation, based on the shared desire to create fair and robust tax legislation here in Wales. In that spirit of co-operation, I hope Members will support the passage of this Bill this afternoon, the third of three Welsh tax bills.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynt y Bil hwn yng Nghyfnod 4 o’r ddeddfwriaeth hon. Fel y gwnaethoch chi eich hun ei nodi dros wythnosau a misoedd y broses hon, efallai na fydd y dreth dirlenwi, yr ail dreth i gael ei datganoli, yn destun sgyrsiau mewn tafarndai a chlybiau ar draws y wlad. Serch hynny, mae'n dreth bwysig, yn offeryn pwysig ym mlwch offer Llywodraeth Cymru, y siaredir yn aml amdano. Ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod gennym ein holynydd ein hunain i’r dreth honno, pan gaiff y dreth dirlenwi ledled y DU ei diffodd ym mis Ebrill 2018. Mae’r dyddiad cau hwnnw yn prysur agosáu, felly rydym ni’n gwerthfawrogi bod angen i Lywodraeth Cymru gael dewis arall.
Mae'n dreth bwysig oherwydd ei hagwedd amgylcheddol, a drafodwyd yn helaeth gan aelodau pwyllgor yn sesiynau’r Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, dros gyfnod o amser, rydym yn gobeithio y bydd yr incwm a ddaw o’r dreth yn lleihau oherwydd ein bod yn gobeithio y bydd maint y tirlenwi yn gostwng dros amser. Ond mae galw mawr am y dreth hon ar hyn o bryd, a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol rhagweladwy.
Hoffwn ddiolch i chi hefyd am y ffordd yr ydych chi —a’ch swyddogion—wedi ymdrin â mi ac am y ffordd yr ydych wedi ymdrin â Simon Thomas, Cadeirydd y pwyllgor a'r Pwyllgor Cyllid? Nid yw wedi bod yn dreth, yn dasg hawdd bob amser—rwyf wedi cymysgu fy nhrethi a’m tasgau. Fe wnes i ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf y gall deddfwriaeth trethi, hyd yn oed pan mae’n ymddangos yn syml iawn ar y dechrau, fod yn fater llawer mwy cymhleth nag a ragwelwyd yn y lle cyntaf, ar ddiwedd y dydd. Felly, diolch i chi am eich amynedd ac am amynedd eich swyddogion.
Fel y dywedasoch yn eich sylwadau agoriadol, y cam nesaf fydd gweithredu. Hyd yn oed ers y broses gysylltiedig â Cham 3 a Cham 2 a'r gwelliannau a wnaed, fel y gwyddoch, mae un neu ddau o welliannau, na chafodd eu cyflwyno ar y pryd am wahanol resymau, wedi denu fy sylw, ac mae’r broses o weithredu a datblygu’r dreth i'w gwneud o hyd. Gwnaethoch nifer o addewidion yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid y byddech chi’n gwylio’r broses honno yn agos iawn ac y byddech chi, lle nad yw'r gwelliannau wedi eu cyflwyno i ymdrin â phob agwedd ar hyn, yn cadw llygad barcud i sicrhau bod y dreth yn datblygu yn y ffordd y byddech chi a’r pwyllgor yn ei dymuno, a bod ysbryd y ddeddfwriaeth honno yn datblygu gyda’r amser i ddod.
Rwy’n gobeithio y byddwch ar wyliadwriaeth nawr, ac rwy’n gobeithio, pan fydd diffygion yn dod i’r amlwg—. Oherwydd nid oes unrhyw dreth yn berffaith yn ei datblygiad cychwynnol, felly rwy'n siŵr y bydd—yn sicr fe fydd—diffygion a ddaw i’r amlwg yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy’n gobeithio y byddwch chi a Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus i sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Mae gennym y dreth trafodiadau tir ar yr un pryd, ac rydych eisoes wedi crybwyll Awdurdod Cyllid Cymru, a gwn eich bod yn ymdopi â llawer o dasgau ar yr un pryd gyda'r holl waith hwn o ddatganoli trethi. Fel y gwyddoch ac rwyf i wedi dweud, nid yw'n dasg hawdd. Rydym yn fwy na bodlon, o fewn y Ceidwadwyr Cymreig, i'ch cefnogi chi ar y llwybr anodd hwn, ac rwy’n gwybod eich bod yn cael cefnogaeth aelodau pwyllgor eraill ac Aelodau eraill o'r Siambr hon i sicrhau bod y broses hon o ddatganoli trethi mor ddidrafferth ac mor broffesiynol ac, ar ddiwedd y dydd, mor syml a dealladwy â phosibl i’r bobl allan yna, nid yn unig i’r bobl i mewn yma.
Rŷm ni’n croesawu, wrth gwrs, pasio’r Bil treth gwarediadau tirlenwi. Fel sydd wedi cael ei ddweud, rydw i’n credu, nifer o weithiau yn ystod y broses yma, mae e’n gam pwysig arall yn natblygiad y gyfundrefn dreth gyntaf i Gymru gael ers bron i 800 mlynedd. Hynny yw, mae cynnydd Cymru wastad wedi bod yn, efallai, ychydig bach yn igam-ogam, ‘zig-zag’, ond mae yna gynnydd, ac mae’n rhan o aeddfedu ein democratiaeth ni, a dweud y gwir, ac mae hynny i’w groesawu yn fawr.
Rŷm ni’n hapus, a bod yn benodol, i weld gwelliant Plaid Cymru i’r Bil a basiwyd ar Gyfnod 3, ac yn ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gefnogaeth a’i barodrwydd i wrando, a dweud y gwir, bob amser, a gweithio gyda ni yn drawsbleidiol yn y ffordd sydd yn diffinio, rydw i’n credu, yr ysbryd mae ef wastad yn cynrychioli o ran ymwneud â’r lle yma.
Mae gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymreig dynnu sylw at amcanion y Bil wrth ymarfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Bil. Mae hyn yn rhoi’r amcan amgylcheddol yn flaenllaw, ac yn sicrhau y bydd yn cael ei weithredu yn y ffordd yr oedd e wedi cael ei ddylunio, sef, wrth gwrs, annog lleihad yng ngwastraff tirlenwi yn y dyfodol.
Mae’r dreth yma, fel sydd wedi cael ei ddweud nifer o weithiau, wrth gwrs, yn dreth sydd yn ceisio rhoi ei hunan mas o fusnes, fel petai. Ac, wrth gwrs, bwriad y gwelliant yma oedd jest i atgyfnerthu hynny a sicrhau bod hynny bob amser yn uchel, fel mae’n siŵr y bydd e, ym meddwl y Gweinidog a’i gydweithwyr wrth symud ymlaen i weithredu, wrth gwrs, ar y Bil yma.
Nid wyf yn tybio bod y Bil hwn yn destun sgwrs mewn bariau a chlybiau ledled y wlad, ond, os byddaf byth yn cael fy hun mewn bar ac yn cwrdd â gweithredwr tirlenwi, byddaf yn gallu siarad ag ef neu hi am oriau lawer am dirlenwi a’i weithrediadau. Ac mae hynny, i raddau helaeth, yn broses ddysgu i mi fynd drwyddi ar y pwyllgor, ond rwy’n credu i’r Llywodraeth fynd drwyddi hefyd, oherwydd bod nifer o welliannau, a gododd yn uniongyrchol o’r broses gasglu tystiolaeth a gawsom, sydd wedi gwella’r Bil a sicrhau y gall y Bil weithredu'n effeithiol.
Rwyf wedi bod ar sawl pwyllgor yma yn ystod y chwe blynedd diwethaf sydd wedi cyflwyno Biliau. Mewn swyddogaeth wahanol rwyf wedi gwneud Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn flaenorol, ac, mewn swyddogaeth wahanol arall, rwyf wedi gwneud Biliau seneddol. Mae'n rhaid i mi ddweud mai hon fu’r broses gwneud Bil fwyaf effeithiol yr ydym wedi ymgymryd â hi. Rwy’n credu bod angen i hyn fynd ar y cofnod, a hoffwn ddiolch i’r Gweinidog a'i swyddogion am helpu’r broses, ond hefyd i fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor Cyllid ac aelodau ein tîm hefyd am sicrhau’r broses ddidrafferth honno.
Rwy'n credu bod llawer o hynny o ganlyniad i ddull y pwyllgor o weithredu, ond hefyd o ganlyniad i ddull Ysgrifennydd y Cabinet o weithredu. Nid yn unig bu’n gwrando ar welliannau ond bu hefyd yn gweithio ar welliannau gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Rwy’n credu bod hyn yn chwa o awyr iach, a chawsom y rhyfeddodau—rhyfeddodau llwyr —o weld dau welliant yn cael eu datblygu a’u trafod gan aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur mewn pwyllgor Bil. Nawr, mae hyn yw rhywbeth newydd yr hoffwn weld mwy ohono, rhaid i mi ddweud. Rwy’n dymuno gweld mwy o hyn, a’i ddatblygu’n llwyr yn yr ysbryd iawn, a bod aelodau meinciau cefn yn dwyn eu Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwrw syniadau diddorol, y mae’r Llywodraeth wedyn yn ymateb iddynt. Ac, yn wir, cafodd o leiaf un ohonynt effaith wirioneddol ar y Bil a’i newid.
Felly, dyma’r ffordd y dylem fod yn gwneud deddfwriaeth, rwy’n credu, Dirprwy Lywydd. Dim ond yr achos—. Oherwydd bod gennych weithiau wahaniaeth ideolegol, rwy’n derbyn hynny. Os yw’n fater o werthu tai cyngor sydd, beth bynnag ydyw, rydych yn mynd i gael y gwahaniaeth hwnnw, ac ni allwch weithio yn yr un ffordd. Ond, pan allwn weld yr hyn y mae modd inni ei gyflawni gyda'n gilydd, fe allwn, rwy’n credu, wella Biliau yn sylweddol. Ond, yn enwedig os ydym ni’n mynd i gael Biliau trethi a dull deddfwriaethol o weithredu proses y gyllideb, sy'n rhywbeth, unwaith eto, y mae’r Pwyllgor Cyllid â diddordeb ynddo, yna, po fwyaf y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y gorau y byddwn ni fel senedd, ond, yn bwysicach fyth, bydd y pleidleiswyr yn gwybod beth rydym yn ei wneud, yn deall pam ein bod yn ei wneud, ac felly yn cefnogi'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffordd y gwnaeth fynd ati i gyflawni hyn a dweud bod hwn, ar ddiwedd y dydd, yn Fil Llywodraeth Cymru, ond wedi’i basio gan senedd Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ateb y ddadl honno.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn drwy gydol hynt y Bil i allu dibynnu ar gyngor Nick Ramsay ar yr hyn sy'n cael ei drafod yn nhafarndai a chlybiau Cymru. Bob tro iddo fy sicrhau i nad yw'r Bil hwn yn cael ei drafod yno, rwyf wedi bod yn hapusach. Yr hyn yr wyf yn sicr ohono yw y bydd hyn yn newid yn fuan os nad ydym yn llwyddo i weithredu’r trethi hyn yn iawn, a bydd pobl yn siarad amdanynt ym mhob man. Felly, roedd yn llygad ei le pan ddywedodd bod gwaith difrifol i'w wneud yn ystod y naw mis nesaf er mwyn sicrhau, pan fyddwn ni’n cyrraedd mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bod Awdurdod Cyllid Cymru yn barod ar gyfer ei gyfrifoldebau. A bydd y ffordd y bydd y ddwy dreth, yr aed â nhw drwy'r Cynulliad Cenedlaethol, yn cael eu gweinyddu yn golygu y gall pobl ledled Cymru fynd ati yn hyderus i gyflawni eu busnes gan wybod bod pethau yn cael eu gwneud yn effeithiol.
Diolch i bob Aelod sydd wedi siarad am yr ysbryd a gafwyd wrth fynd ati i ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon. Mae'r rhain yn ddarnau technegol iawn a thra arbenigol o ddeddfwriaeth. Nid ydynt yn cynnwys, fel y dywedodd Simon Thomas, faterion ideolegol mawr . Maen nhw’n Filiau sydd wedi elwa ar y broses graffu a’r syniadau a ddaeth yn sgil hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr arwyddion gan yr Aelodau y byddant yn cefnogi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch i chi am roi tro. Byddwch yn cofio, Ysgrifennydd y Cabinet, i aelodau'r pwyllgor ystyried gwelliant yng nghyfnod 3 a fyddai wedi rhoi ystyriaeth i weithredu proses o adolygu’r dreth dirlenwi. Buom yn trafod hynny gyda chi ac roeddech chi’n credu y byddai'n fwy priodol cael adolygiad o Dreth Trafodiadau Tir a’r dreth dirlenwi, ar gyfer y trethi i gyd, yn hytrach nag un annibynnol yn unig. Tybed a wnewch chi roi sicrwydd i ni y bydd hyn yn cael ei—rwy’n gwybod eich bod wedi ei ystyried, ond rhowch sicrwydd i ni ei fod yn digwydd ac y bydd proses lle bydd holl elfennau’r trethi hyn yn cael eu hailystyried o dro i dro?
Gwnaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae'n enghraifft arall o ganlyniad lle’r oedd y tri pharti yn gallu dod at ei gilydd i gytuno ar y ffordd orau o wneud yn siŵr y cynhelir adolygiad annibynnol o’r ddwy dreth mewn cyd-destun tebyg, ac i amserlen debyg. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr arwyddion o gefnogaeth gan yr Aelodau y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.