Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 27 Mehefin 2017.
Nid wyf yn tybio bod y Bil hwn yn destun sgwrs mewn bariau a chlybiau ledled y wlad, ond, os byddaf byth yn cael fy hun mewn bar ac yn cwrdd â gweithredwr tirlenwi, byddaf yn gallu siarad ag ef neu hi am oriau lawer am dirlenwi a’i weithrediadau. Ac mae hynny, i raddau helaeth, yn broses ddysgu i mi fynd drwyddi ar y pwyllgor, ond rwy’n credu i’r Llywodraeth fynd drwyddi hefyd, oherwydd bod nifer o welliannau, a gododd yn uniongyrchol o’r broses gasglu tystiolaeth a gawsom, sydd wedi gwella’r Bil a sicrhau y gall y Bil weithredu'n effeithiol.
Rwyf wedi bod ar sawl pwyllgor yma yn ystod y chwe blynedd diwethaf sydd wedi cyflwyno Biliau. Mewn swyddogaeth wahanol rwyf wedi gwneud Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn flaenorol, ac, mewn swyddogaeth wahanol arall, rwyf wedi gwneud Biliau seneddol. Mae'n rhaid i mi ddweud mai hon fu’r broses gwneud Bil fwyaf effeithiol yr ydym wedi ymgymryd â hi. Rwy’n credu bod angen i hyn fynd ar y cofnod, a hoffwn ddiolch i’r Gweinidog a'i swyddogion am helpu’r broses, ond hefyd i fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor Cyllid ac aelodau ein tîm hefyd am sicrhau’r broses ddidrafferth honno.
Rwy'n credu bod llawer o hynny o ganlyniad i ddull y pwyllgor o weithredu, ond hefyd o ganlyniad i ddull Ysgrifennydd y Cabinet o weithredu. Nid yn unig bu’n gwrando ar welliannau ond bu hefyd yn gweithio ar welliannau gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Rwy’n credu bod hyn yn chwa o awyr iach, a chawsom y rhyfeddodau—rhyfeddodau llwyr —o weld dau welliant yn cael eu datblygu a’u trafod gan aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur mewn pwyllgor Bil. Nawr, mae hyn yw rhywbeth newydd yr hoffwn weld mwy ohono, rhaid i mi ddweud. Rwy’n dymuno gweld mwy o hyn, a’i ddatblygu’n llwyr yn yr ysbryd iawn, a bod aelodau meinciau cefn yn dwyn eu Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwrw syniadau diddorol, y mae’r Llywodraeth wedyn yn ymateb iddynt. Ac, yn wir, cafodd o leiaf un ohonynt effaith wirioneddol ar y Bil a’i newid.
Felly, dyma’r ffordd y dylem fod yn gwneud deddfwriaeth, rwy’n credu, Dirprwy Lywydd. Dim ond yr achos—. Oherwydd bod gennych weithiau wahaniaeth ideolegol, rwy’n derbyn hynny. Os yw’n fater o werthu tai cyngor sydd, beth bynnag ydyw, rydych yn mynd i gael y gwahaniaeth hwnnw, ac ni allwch weithio yn yr un ffordd. Ond, pan allwn weld yr hyn y mae modd inni ei gyflawni gyda'n gilydd, fe allwn, rwy’n credu, wella Biliau yn sylweddol. Ond, yn enwedig os ydym ni’n mynd i gael Biliau trethi a dull deddfwriaethol o weithredu proses y gyllideb, sy'n rhywbeth, unwaith eto, y mae’r Pwyllgor Cyllid â diddordeb ynddo, yna, po fwyaf y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y gorau y byddwn ni fel senedd, ond, yn bwysicach fyth, bydd y pleidleiswyr yn gwybod beth rydym yn ei wneud, yn deall pam ein bod yn ei wneud, ac felly yn cefnogi'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffordd y gwnaeth fynd ati i gyflawni hyn a dweud bod hwn, ar ddiwedd y dydd, yn Fil Llywodraeth Cymru, ond wedi’i basio gan senedd Cymru.