Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 27 Mehefin 2017.
Gwnaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae'n enghraifft arall o ganlyniad lle’r oedd y tri pharti yn gallu dod at ei gilydd i gytuno ar y ffordd orau o wneud yn siŵr y cynhelir adolygiad annibynnol o’r ddwy dreth mewn cyd-destun tebyg, ac i amserlen debyg. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr arwyddion o gefnogaeth gan yr Aelodau y prynhawn yma.