Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 27 Mehefin 2017.
Llywydd, pe bai fformiwla Barnett yn cael ei chymhwyso i'r cytundeb â’r DUP, byddai Cymru'n cael £1.5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf a chyfanswm o £1.67 biliwn dros bum mlynedd. Fodd bynnag, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yw y bydd Cymru’n cael sero. Wrth gwrs, nid dim ond Cymru sydd ar ei cholled; ni fydd Lloegr na'r Alban yn cael dim byd ychwaith. A'r cwestiwn yr wyf yn ei ofyn yw: sut y gall hyn fod yn sail i sefydlogrwydd? Sut y gall fod yn sail i unrhyw fath o barch gan bobl Cymru a mannau eraill tuag at Lywodraeth y DU? O leiaf, mae gan bleidleiswyr yr hawl i ddisgwyl y bydd Llywodraeth y dydd yn gwneud ei gorau glas i hybu buddiannau pob rhan o'r DU yn deg ac yn gyfartal. Os yw’r DUP wedi cael arian ychwanegol i’w wario ar seilwaith, ysgolion, y gwasanaeth iechyd a chymunedau difreintiedig gan Lywodraeth y DU yn gyfnewid am eu cefnogaeth, dylid ymestyn hynny ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon. Nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon y ceir pwysau uniongyrchol ar wasanaethau iechyd ac addysg. Nid dim ond Belfast a ddylai gael darpariaeth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Unig ganlyniad anwybyddu anghenion Cymru, yr Alban a Lloegr yn y ffordd hon fydd hau hadau dicter a chwerwder pellach. Bydd aberthu cyfanrwydd y DU er mwyn cytundeb i ddal gafael ar rym yn byw’n hir yn y cof.
Llywydd, mae'n rhaid i minnau fynegi pryder am yr hyn y mae'r DUP wedi cytuno i'w wneud yn gyfnewid am gynnal y weinyddiaeth hon. Maent, yn ôl pob golwg, wedi cynnig cefnogaeth carte-blanche i Lywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth gadael yr UE heb gael gweld dim cynigion ar ffurf fanwl. Mae hyn wedi chwalu’n llwyr y trefniadau ymgynghorol a sefydlwyd ar gyfer datblygu ymagwedd at Brexit sy’n cynnwys Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion.
Nawr, mae angen ateb cyfres o gwestiynau. Yn gyntaf, beth yw goblygiadau’r cytundeb hwn i drefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer gwledydd eraill yn y DU ac, yn wir, rhanbarthau Lloegr? A yw Llywodraeth y DU nawr, mewn gwirionedd, wedi cefnu ar y rheolau presennol ar gyfer mantais tymor byr? Bydd gan y Siambr ddiddordeb arbennig mewn clywed gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. A wnaethant ymgynghori ag ef am y cytundeb? A yw'n rhannu fy nicter i ac eraill yn y Siambr hon ynghylch yr achos clir hwn o gam-drin trefniadau ariannu teg? A yw'n cytuno â mi y dylid mwynhau manteision gwariant ychwanegol ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon? Mae wedi bod yn dawel hyd yn hyn, ond dyma ei gyfle y prynhawn yma.
Beth yw goblygiadau'r cytundeb hwn ar gyfer y broses ymgynghori ledled y DU ar adael yr UE? Yn benodol, os daw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ôl i fodolaeth, fel y gobeithiaf y daw, sut y mae cytundeb Llywodraeth y DU a’r DUP gydnaws â threfniadau ar gyfer y Cydbwyllgor Gweinidogion? Rydym yn credu bod y cytundeb hwn yn mynd yn groes i arferion cyfansoddiadol sefydledig, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, gallaf hysbysu'r Cynulliad, wedi cymryd y camau cyntaf i gychwyn anghydfod ffurfiol o dan delerau offer datrys anghydfodau’r Cydbwyllgor Gweinidogion.
Rwyf eisoes wedi rhoi fy marn, yn gwbl eglur, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan siaradais ag ef ddoe. Ni allai ateb y cwestiynau a ofynnais bryd hynny, ond, Llywydd, nid wyf yn amau y bydd llawer o Aelodau’n teimlo mor gryf am y materion hyn â mi na neb yn Llywodraeth Cymru, a dyna pam ein bod yn awyddus i roi amser heddiw i’r ddadl frys hon, er mwyn i’r Aelodau gael cyfle i nodi eu meddyliau.