Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, soniais yn fy ateb i Vikki Howells am ap Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi’i weld ai peidio, ond mae’n ap newydd sydd newydd ei gyhoeddi. Rwyf rhwng dau feddwl yn ei gylch. Mae’n seiliedig ar Tinder, felly mae’n ymwneud, mewn ffordd, â pharu dau beth â’i gilydd, os hoffwch. Felly, os oes tatws gennych dros ben un diwrnod, ac ŵy dros ben ar ddiwrnod arall, sut rydych yn eu paru? Ond mae’n ddyddiau cynnar iawn, felly rydym yn edrych i weld sut y mae’n datblygu. Ond mae’n debyg fod hyn yn ymwneud â ffyrdd arloesol—gallai apelio at bobl iau hefyd. Felly, cawn weld sut y mae’r ymgyrch honno’n datblygu. Ond rwy’n credu y gallai wneud i bobl feddwl mwy, rywsut, ynglŷn â’u harferion siopa.