Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, mae cyfleusterau treulio anaerobig yn dod yn fwy poblogaidd, ac rydym yn gweld mwy ohonynt. Mae gennyf un yn fy etholaeth—credaf mai hwnnw oedd un o’r rhai cyntaf yng Nghymru—ac rydym yn sicr yn gweld ychydig mwy ohonynt. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am eu rheoleiddio. Fe fyddwch yn gwybod am rai o’r materion sy’n codi. Tynnodd Hefin David sylw at rai materion sy’n codi o hyn yn y datganiad busnes ddoe, rwy’n credu. Felly, mae angen inni weld mwy o hyn, ond mae angen ei reoleiddio mewn ffordd briodol.