Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr am yr ateb cadarnhaol hynny ac rwy’n edrych ymlaen, wrth gwrs, at ddarllen eich ymateb ffurfiol. Ond rwy’n credu bod hyn yn dangos yr arweinyddiaeth sydd ei angen ac, fel rŷch chi’n gwybod, mae angen defnyddio’r maglau sy’n cydymffurfio â’r cod. Mae’n mynd yn anodd cael gafael ynddyn nhw, felly rŷch chi’n rhoi arweinyddiaeth yn fanna.
A gaf fi jest droi at ynni yn awr? Rydym yn aros o hyd, wrth gwrs, am benderfyniad ar forlyn llanw bae Abertawe. Rwyf i, ers yr etholiad, wedi ysgrifennu at Liz Truss, sydd bellach yn dal rhywfaint o’r ‘purse strings’ yn y Trysorlys ac am iddi fwrw ymlaen y nawr gyda chaniatâd cyllidol a fydd yn agor y drws i’r dechnoleg gyffrous hon a rhoi Cymru wrth gwrs ar flaen diwydiant a fydd yn siŵr o ddatblygu’n gyflym cyn bo hir. Mae £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, yn rhannol i glirio lan eu llanast nhw o ran y cynllun ynni o bren, wrth gwrs, yn dangos inni i gyd bod y Trysorlys yn gallu rhoi arian pan fod ewyllys yno. Beth ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ers yr etholiad cyffredinol felly, i sicrhau bod y morlyn llanw ym mae Abertawe yn mynd yn ei flaen?