Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 28 Mehefin 2017.
Credaf fod yn rhaid i chi dderbyn bod Llywodraeth y DU wedi bod yn araf iawn gyda’u hymateb i adolygiad Hendry, ac yn amlwg, gyda’u cyhoeddiadau ynglŷn â morlyn llanw bae Abertawe. Ysgrifennais, bythefnos yn ôl unwaith eto, at Greg Clark, yn gofyn pryd y byddai’r ymateb yn dod i law. Yn y cyfryngau heddiw, gwelais fod y cwestiynau hynny wedi’u hosgoi ddoe yn nau Dŷ’r Senedd. Credaf fod angen i ni wybod beth yw eu safbwynt. Credaf fod yr ymateb cyntaf a gefais gan Greg Clark yn dweud y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb maes o law. Wel, nid yw ‘maes o law’ yn golygu unrhyw beth i mi. Pa mor hir yw darn o linyn? Felly, credaf fod angen i ni wybod. Felly, fel y dywedais, fe ysgrifennais at Greg Clark oddeutu pythefnos yn ôl.