<p>Glastir</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:54, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gall oedi mewn perthynas â thaliadau’r cynllun Glastir effeithio’n niweidiol iawn ar gyllid ffermydd. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, erbyn 9 Mai eleni, roedd 22 y cant o’r hawliadau am waith a wnaed o dan y cynllun Glastir y llynedd yn dal i fod heb eu talu, a bwriad Llywodraeth Cymru oedd talu 90 y cant o’r hawliadau yn unig erbyn diwedd mis Mai. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod yn hanfodol fod taliadau i ddigolledu ffermwyr am y gwaith y maent wedi’i wneud a’r costau yr eir iddynt yn cael eu gwneud o fewn cyfnod amser rhesymol, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i gyflymu’r broses dalu, os gwelwch yn dda?