Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Mehefin 2017.
Credaf fod angen yr arian hwnnw ar ffermwyr cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod, yn gyntaf, ein bod wedi canolbwyntio ar gynllun y taliad sylfaenol, a derbyniodd 90 y cant o bobl y cyllid hwnnw ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu. Mewn perthynas â Glastir, fe ddywedasom, o’r cychwyn, y byddem yn dechrau talu taliadau Glastir ym mis Chwefror. Mewn gwirionedd, dechreuwyd gwneud hynny ym mis Ionawr gan ein bod wedi gwneud mor dda ar gynllun y taliad sylfaenol. Dechreuwyd fis yn gynnar, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n galed iawn i fwrw ymlaen â holl achosion Glastir heblaw am y rhai mwyaf cymhleth erbyn diwedd y mis hwn—felly, erbyn diwedd yr wythnos hon. Bydd nifer fach o ffermwyr na fyddant yn cael eu talu yr wythnos hon, a byddant yn derbyn eglurhad ysgrifenedig ynglŷn â hynny, ond gobeithiaf yn fawr y bydd hynny wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf.