<p>Cynllun y Taliad Sylfaenol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:01, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ni chredaf fod yr Aelod wedi fy nghlywed gyda fy ateb cyntaf, oherwydd, fel y dywedais, 11 ydyw bellach—nid wyf yn siŵr ynglŷn â dyddiad eich cwestiwn ysgrifenedig blaenorol, ond 11 ydyw bellach. Y ffaith yw bod 90 y cant—90 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn eu taliad ar y diwrnod cyntaf un, ar 1 Rhagfyr 2016. Ar gyfer y rhan fwyaf o ffermydd na dderbyniodd eu taliad sylfaenol, roedd hynny oherwydd y ffiniau rhwng Cymru a Lloegr. Roedd hynny oherwydd—. Gallwch ysgwyd eich pen, ond gallaf roi’r dystiolaeth fod hynny oherwydd y taliadau gwledig yn Lloegr, nid ein taliadau gwledig ni. Dywedais ein bod wedi arwain yn hyn o beth, ac 11 o ffermydd cymwys yn unig sydd gennym bellach.