Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ddydd Llun, wrth gwrs, mi gawsom ni fanylion y cytundeb yma rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP. Ymhlith pethau eraill, mi roedd y cytundeb yn estyn y sicrwydd ynglŷn â lefel y taliadau fferm ac ariannu ar gyfer y taliadau fferm i ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon tan 2022, y tu hwnt i’r sicrwydd y mae Cymru wedi’i gael yn flaenorol. A gaf i ofyn, felly: a ydych chi wedi cael, erbyn hyn, yr un sicrwydd i Gymru? Os ddim, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal?