Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl o’r farn fod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn drychineb economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, ac wedi achosi difrod trychinebus i’n hecoleg forol. [Torri ar draws.] Dim ond rhywun heb arfordir yn eu hetholaeth a allai fod mor anwybodus â’r Aelod dros Flaenau Gwent yn hyn o beth. Rydym hefyd wedi gweld fflydoedd diwydiannol yn ysbeilio dyfroedd y DU a’r dinistr i ddiwydiant pysgota Prydain, gan gynnwys Cymru. Onid yw’n hanfodol bwysig ein bod yn adfer yr hawl i reoli pysgota o fewn y terfyn 6 i 12 milltir, sy’n amodol ar gonfensiwn Llundain 1964 ar bysgota? Bydd angen gadael y confensiwn er mwyn gwneud hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i bysgotwyr Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r mesur hwnnw?