Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’ch cyfarfod yng nghyngor pysgodfeydd yr UE yn ddiweddar i drafod cyfleoedd pysgota Ewropeaidd ar gyfer 2017, fe gyfeirioch at sicrhau cynnydd bychan i ganiatáu i rwydwyr ddal hyd at 250 kg y mis mewn perthynas â physgota draenogod môr masnachol. A allwch roi asesiad o’r effaith a gafodd y camau hyn yn rhan gyntaf y flwyddyn hon, ac a allwch ddweud wrthym beth yw eich bwriad mewn perthynas â’r mater hwn wrth symud ymlaen, o ystyried bod cyflwr y stoc yn parhau i fod yn y broses o wella?