Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 28 Mehefin 2017.
Gallaf sicrhau’r Aelod, mewn perthynas â physgota cynaliadwy, fod hynny ar frig yr agenda. Nid wyf wedi cael y trafodaethau hynny eto gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Byddwch yn gwybod mai ers ychydig wythnosau’n unig y mae wedi bod yn y swydd, a sgwrs fer iawn a gefais. Gwnaeth yn glir y bydd yn dod i Sioe Frenhinol Cymru. Felly, rwy’n siŵr y gellir cynnal y trafodaethau hynny ar y diwrnod hwnnw hefyd. Mae’n rhaid i mi ddweud mai pysgodfeydd yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth—bydd yr Aelod yn gwybod—yn fy mhortffolio. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y trafodaethau a gawn fel Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, ei bod yn braf iawn gweld y gwaith ac mae wedi fy arwain i gredu bod y fframweithiau hynny rydym o bosibl yn ceisio eu sicrhau ar gyfer y DU, wrth inni drafod gadael yr UE—y gall y trafodaethau hynny weithio. Credaf fod gennym fframwaith sy’n gweithio’n llwyddiannus iawn ac y gallwn ei ddilyn.